Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

euraid

euraid

O ymdroi â llenyddiaeth Gymraeg yn ei chyfnodau euraid, adnabu ei gwir deithi.

Yn achos Cymdeithas yr Iaith Gymraeg mae'r fytholeg gynhaliol yn neilltuol o gref gan bod blynyddoedd gwawrddydd y mudiad yn cydddigwydd â ffrwydriad diwylliant ieuenctid y chwedegau, cyfnod euraid yng nghof yr aelodau cynnar sy'n cysylltu genedigaeth y Gymdeithas â rhyddid a menter eu hieuenctid eu hunain ond sydd bellach wedi ymgolli ym mharchusrwydd canol oed.

Yr oedd yn gyfle euraid i orseddu Penri fel un o brif arwyr yr Ymneilltuwyr, a'r Annibynwyr yn anad neb.

Ac yn bwysicach byth, gwastraffu cyfle euraid a hanfodol yn yr ymgyrch i adfer yr iaith.

'Mepaphysische Landschaft' (tirlun metaffisegol) Segl neu Sils Maria oedd Arcadia Nietzsche ac yr oedd bugeiliaid y fro yn amlwg yn 'nisgleirdeb euraid' y darlun.

Oedai o bryd i'w gilydd i ddotio ar we'r pryfed cop ar y llwyni a'r brigau euraid.

O'i amgylch mae cylch o ddŵr euraid.

Wrth i'r bêl euraid fu'n arwain Caradog daro yn ei herbyn yn ysgafn tasgodd gwreichion ohoni.