Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

euthum

euthum

Wrth gymryd stoc o bethau yn ystod y fendith a draddododd Huw Huws, euthum braidd yn ddigalon.

Euthum i Miami, lle mae hanner ohonyn nhw'n byw, er mwyn holi'r gŵr sy'n cael ei ystyried fel arweinydd y chwyldro nesaf yng Nghuba.

Dyma ddechrau newydd ac euthum ar raglen 'Heddiw' y BBC o Fangor y noson honno i ddathlu yn gyhoeddus.

Fodd bynnag, ar hyn gwelais filwyr yn gadael eu paciau ac yn mynd heibio rhyw gornel ac mi euthum innau i edrych i ble'r aent.

Dywedodd fy mam wrthyf drannoeth fod rhyw dderyn wedi dweud wrthi am y digwyddiad.Euthum i ddawns yn y Cei unwaith.Roedd fy ffrind, Twm Fowey House (y Dr Thomas Gwilym Jones, un o benaethiaid Lever Brothers Port Sunlight wedyn) yn fy nghynorthwyo i smyglo fy siwt orau o'r ty wrth i mi ei thaflu o ffenestr y garet i lawr ato ac yntau yn sefyll ar yr allt wrth dalcen y ty.

I fod yn bersonol, pan euthum i Fangor i'r Coleg am y tro cyntaf, fy awydd mawr oedd astudio athroniaeth ond yn anffodus - erbyn hyn - deuthum ar ben y rhestr mewn Cymraeg yng nghwmni Idris Foster a Jarman a pherswadiwyd fi i 'gymryd' Cymraeg.

Euthum innau yn bersonol i bledio â'r Cyfarwyddwr Addysg, Mr Mansel Williams.

Ar ôl dyfod adref i Lanrwst euthum i aros i Plas Madog, a byddwn yn mynd i'r dref i negeseua dros fy meistr.

Yn naturiol chefais i rioed ddim arlliw o gefnogaeth gan Mam wedi iddi ddeall o ddifri fy mod am fynd i'r mor ac ar ol gadael yr ysgol yn bymtheg oed euthum i weithio yn y Post yn cario teligramau a negeseuon, ond fy nod o hyd oedd cael lle ar long.

Euthum i'r ysgol yn llawer rhy fuan, er mwyn cael bod yno cyn i neb arall gyrraedd.

Deuthum adref yn fy ôl ac euthum i ffair Llanbedr i ddanfon dau fustach dros un o gigyddion Llanrwst, a meddwais yno yn gynnar ar y diwrnod.

Euthum ymlaen i ffair Abergele, a throais i werthu Almanac i dy tafarn Ue yr ydoedd amryw yn yfed wrth y tân.

Euthum i edrych drwy'r ffenestr.

Yn fwy na dim i foddhau fy nghydwybod euthum i chwilio am y Capten a dweud wrtho am y morwr dyfeisgar hwn.

Heliais fy mhac ac euthum i weld sut oedd Jim yn gwneud.

Ond cyn cychwyn ymlaen o Gaerliwelydd, rhaid imi ddweud hyn: bu+m yn ôl yma ambell dro wedyn a'r tro cyntaf euthum i chwilio am leoliad y cantîn hwnnw, ond yn of er, roedd y lle wedi newid i gyd.

Euthum i lyfrgell Coleg y Brifysgol bore heddiw i chwilio amdano ac i lyfrgell y dref.

Yr oedd Daniel ryw ddwy genhedlaeth yn hŷn na mi, a phan euthum yn grotyn i'r gwaith tun yr oedd ef yn rowlo yn y felin fawr.

Cefais fy arbed rhag cael ysgariad gorysgytwal oddi wrth fy nghefndir gan mai i Goleg Prifysgol Cymru ym Mangor yr euthum i ddilyn cwrs gwyddonol am y flwyddyn gyntaf.

Cofiaf y tro cyntaf yr euthum allan dros y Blaid.

Ac wedi diolch, a gofyn enw'r hogan fach, a chael ateb "Patricia," euthum yn ol i'r Mini, ar frys.

.' Yn y man, euthum i ddanfon y meddyg at ei gerbyd.

Euthum at Iacha%wr Carismatig gan ofyn iddo am fy mendithio â grym yr Ysbryd Glân.

Ar fy ffordd adref euthum yn unswydd heibio i goleg Bangor er mwyn eu dangos, gydag ôl glud y labelau arnynt, i Dr Tom ac Emyr Gwynne Jones.

Ar y pryd 'roedd Maldwyn yn byw ar y Wirral, ac ymhen rhyw dri mis wedi iddo symud euthum draw, gan alw yn y garej yn West Kirby i weld Rowlands.

Yr oedd yno dy yn cael gwerthu diodydd meddwol am dair awr bob dydd; meddwais innau yno, ac euthum gyda dynes ddu o Hottentot, ond nid ar feddwl da, fel y gellid tybio.

Dydd Sadwrn oedd y diwrnod olaf i dderbyn y cyfansoddiadau a gwyddwn i fod Llew yn brysur yn ysgrifennu ei nofel gyntaf; ond pan euthum heibio dydd Sadwrn nid oedd yn barod, ac ni fyddai tan y dydd Mercher canlynol.

Euthum i'w weld fore drannoeth, fodd bynnag, a dyna lle'r oedd yn eistedd ar erchwyn ei wely newydd a golwg ddiflas iawn arno.

Euthum i ddrws y tŷ-capel i mi gael sicrwydd fy mod i ar y ffordd iawn.

Euthum efo nhw gan fy mod wedi cael llythyr gan Capten William Griffiths, Trefaes, i fynd i weld dyn pwysig o'r enw Mr Pringle yn swyddfa cwmni llongau Furness Withy yn y Liver Buildings.

Pan euthum yno'r tro cyntaf roedd gofyn i mi, a phob myfyriwr arall, roi llun bychan ohonom ein hunain i'r Dr Jamieson a byddai yntau wedyn yn ei gadw ynghlwm wrth y rhestr adroddiadau a gedwid amdanom drwy ein cwrs fel myfyrwyr.

Unwaith yn unig yr euthum i brofedigaeth hefyd.

Ffwrdd â ni am yr awyren, a chyn cyrraedd Karachi, euthum at Bholu a chyda gwên gofynnais iddo beth oedd pwysigrwydd y sach.

Euthum gyda hi i Drelew i edrych am Nain (ei chwaer hi) a Nain Fawr, sef ei mam.

Roedd aroglau benywaidd yn y compartment pan euthum i mewn; roedd dwy ferch y môr wedi bod yn ymbincio a ffresio eu hunain gydag 'Ashes of Roses' neu ddŵr lafant - dyna, rwy'n meddwl, oedd y persawr oedd yn y ffasiwn yr adeg yma.

Gan ei bod hi mor anodd cael atebion i'r cwestiynau hyn trwy'r cyfryngau Seisnig, euthum ati i geisio'r atebion.

Euthum allan bron cyn iddo sefyll, nid wyf yn cofio beth a wnaeth Aled ond fe wthiais fy hun i giw bwyd a oedd erbyn hyn bron â phrifio'n glamp o iâr!