Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ewropeaeth

ewropeaeth

Ategir beirniadaeth Gruffydd o Ewropeaeth Saunders Lewis gan Tecwyn Lloyd yn ei fywgraffiad meistraidd.

Er fod y Llythyr Ynghylch Catholigiaeth yn ymwneud yn bennaf â daliadau crefyddol a diwinyddol yr awdur a'i feirniaid, neu hwyrach oherwydd hynny, ceir ynddo hanfodion Ewropeaeth Saunders Lewis.

Os canolbwyntiwn ar y wlad a ystyriai ef y bwysicaf o wledydd Ewrop, sef Ffrainc, gwelwn fod Ffrancoffiliaeth Saunders Lewis, lawn cymaint â'i Ewropeaeth, yn cyrmwys rhagfarnau daearyddol ac ideolegol.

Y mae eisoes yn son am Ewropeaeth, ond yr hyn a olyga ydyw safonau y gwledydd Lladin, Ffrainc yn arbennig, ac y mae'n ddiddorol sylwi nad oes gan yr Almaen nac Awstria na'r Iseldiroedd na Sgandinafia ddim lle ym mhatrwm y safonau "Ewropeaidd" hyn.'

Daliaf i fod y math o Gymreictod a'r math o Ewropeaeth a fynegir yma gan Gruffydd yn rhagori ar y fersiynau a arddelid gan Saunders Lewis yn ystod blynyddoedd enbyd ac argyfyngus yr Ail Ryfel Byd.