Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ewythr

ewythr

Yn ôl Watcyn Wyn, ei ewythr Dafydd Williams a gynigiodd fod gweithwyr Brynaman yn cyfrannu tuag at gynhaliaeth yr ysgol.

[Roedd Richard Owen yn ewythr i Harriet, priod Lloyd Hughes.

Byddai fy ewythr Wncwl Jack yn rhoddi ffyrling wedi ei lapio mewn menyn i'w gi pan y byddai llyngyr amo.

'Y...Folk oedd fy nhaid a Lamgley ydy fy ngor-ewythr, ac...y...nhw 'ngyrrodd...'

'Yr wyf yn cofio yn dda un prynhawn Sadwrn pai yn yr haf,' meddai, 'bod fy ewythr Dafydd Caeglas, yr hwn oedd yn ddyn effro a blaenllaw iawn gydag addysg yn yr ardal, yn sefyll yn nrws yr offis ac yn cynnig fod y gweithwyr yn talu ceiniog yn y bunt at roi ysgol i'r plant.

'Roedd hi'n anodd iawn dod yn agos at y Doctor, ond o'r diwedd dyma fe'n nesa/ u; ond wrth nesa/ u, fe welodd wyneb y Doctor yn newid i fod yn wyneb ei ewythr Wil.

Arferai Waldo fynd i lawr i Rosaeron i gynnau tân i'w ewythr bob dydd, ac ar bob nos Sul fe âi'r ewythr i gael swper yng nghartref Waldo.

Clywais ewythr o gipar yn dweud fel y bu i ryw hogyn a weithiai gydag o ddal ffwlbart mewn magl gwningod.

Yng nghwmni ei ewythr Owen yr aeth Watcyn Wyn i'r pwll glo i ennill ei damaid am y tro cyntaf, ac yntau'n grwt wyth mlwydd oed.

Gwyddai hefyd y byddai ei fam - fel rhyw fath o ymddiheuriad dros beidio â' i amddiffyn pan gosbid ef - yn gwthio chwecheiniog, neu hyd yn oed swllt, yn llechwraidd i'w law, ac roedd hynny'n ei blesio'n iawn ac yn tanseilio datganiad f'ewythr, "Wel, os na halwn ni ef bant i'r ysgol, rhaid ei gadw fe'n brin o arian a chadw disgyblaeth iawn arno." Pan ddechreuodd Dic fynd i Ysgol Ramadeg Derwen, i'r Dosbarth Cyntaf, roedd yn cael mwy o arian poced mewn wythnos nag a gawn i am fis pan oeddwn yn y Chweched Dosbarth.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, yr oedd ei ewythr Wil yn dal i fyw yn Rhosaeron (gwr y lluniais ysgrif arno i'r Genhinen gyfredol, 'Ei ewythr Gwilamus'), ac yr oedd yn filwrol ei gydymdeimlad.

Un tro pan oedd ewythr iddynt yn tynnu eu coesau, gan ddweud na allent wneud pennill i'r basn cawl, a oedd ar y ford ar y pryd, gan ei bod yn amser cinio, fe Iwyddodd y ddau i lunio'r pennill hwn, a hynny cyn pen winc.

Mae Justin, bachgen 13 oed, wedi cael ei adael ar ei ben ei hun ar fferm ei ewythr Mac a phan fo'r arth grisli, sydd wedi lladd anifeiliaid ffermydd cyfagos, yn lladd anifail sydd yn annwyl iawn i Justin, mae o am ddial.

'Edrychwch...mae eich angen chi arni hi, yn ôl fy ewythr.'

Oni bai am ei ddawn adrodd stori byddai pawb ohonom yn ei gasa/ u ac eithrio f'ewythr Vavasor, oedd yn rhoi pris uchel ar ei waith fel bugail, ac nid oedd ei well am dewhau bustych, gwyddai i'r dim pryd i'w symud i'r tir pori gorau.

Eto, er gwaetha'r anghytundeb sylfaenol hwn, 'roedd Waldo'n hoff ei wala o'i ewythr, ac yntau'n teimlo'r un fath tuag at Waldo.

Byddem yn gorfod mynd i godi tatws a chydweithio efo carcharorion rhyfel yn y gorchwylion hynny; ond gan mai ffarm oedd fy nghartref bu+m yn ffodus o gael gweithio gartref neu ar fferm f'ewythr ym Mach-y-Saint.

Mae'r rhan hon o'r goedwig yn ddieithr i ti gan mai coedwigwr arall, ac nid dy ewythr, oedd yn gyfrifol am gadw'r llwybrau hyn ar agor.

'Rydw i wedi'i glywed o lawer gwaith o'r blaen pan oeddwn yn gweini ar ewythr i mi cyn iddo fo groesi afon Angau!" 'Roeddwn mewn penbleth ofnadwy.

Roedd un aelod o'r teulu, Catherine Ellis, merch Hendre Ddu, wedi priodi Y Parchg Harri Cadwaladr, ewythr i Kate Roberts.

Rhoddodd ef mewn sach a'i gario adref, a phan ddywedodd fy ewythr wrtho mai ffwlbart oedd ganddo ni fynnai goelio.

Yr oedd awenau'r llywodraeth yn nwylo ei ewythr, Dug Somerset, yr Arglwydd Amddiffynnydd.

Buom ynddi y llynedd fel gwahoddedigion y Llywydd, sef fy ewythr, R.

Wil oedd y gwas bach, tua phedair ar ddeg oed, a'i ben sgwâr, a'i wyneb fflat, gwelw; byddai'n gwlychu'r gwely, er i f'ewythr Vavasor roi cynnig ar lawer meddyginiaeth, ond doedd dim yn tycio, a Gwladys yn ddig bob bore y byddai'n gorfod llusgo'r matras gwlyb i lawr y grisiau cerrig o'r llofft stabal.

Gan mai heddychwyr cadarn oedd tad a mam Waldo, yn anochel fe ddatblygai hi'n ddadl boeth ynghylch heddychiaeth, gyda'r hen ewythr yn dal y dylid gyrru'r holl heddychwyr i'r ffosydd yn Ffrainc.

Ac ni allai Waldo namyn estyn ei fraich i ysgwyd llaw â'i ewythr.