Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fag

fag

Ac ar y tren o Fangor yr aeth a'i fag yn gadarn yn ei law.

Fyddi di ddim yn torri'r rheolau wrth ei roi yn dy fag.'

Tynnodd Aun ddarn o bren un deg wyth centimedr o hyd o'i fag a cheisio mesur y pysgodyn aflonydd o faen ei drwyn i fforch ei gynffon.

'Lle rwyt ti'n mynd?' meddai 'nhad wrth weld Dic yn pacio'i fag.

Cyrhaeddai adre o'r môr yn llwythog; creiriau'r Almaen a Ffrainc i ymuno â'r rhai oedd yma'n barod o'r India, Japan a lleoedd pellennig eraill - ambarel o ffasiwn newydd a blygai'n dwt i fag llaw fy Mam; llathenni o sidan i wneud ffrogiau i Mam a minnau; melfed wedyn i wneud trowsusau "dydd Sul" i 'nau frawd.

Byw allan o fag fydde'r chwaraewyr ac, fel sipsiwn, 'newid aelwyd bob yn eilddydd'; a hynny heb sôn am y rhes o dderbyniade a chyfarfodydd swyddogol y bydde'n rhaid mynd iddyn nhw ac, wrth gwrs, y gême y bydde'n rhaid eu chware.

'Iawn,' atebodd Bleddyn wrth hel ei fag a chario'i wialen yn ofalus.

Wrth deithio i lawr yn y tren i Lundain gobeithiai Hector fod ei gyd- deithwyr yn canfod arno arwyddion teithiwr profiadol, ac yntau wedi gosod label 'PARIS' yn amlwg ar ei fag.

Wedi dewis man da ar lan yr afon tynnodd Alun ei focs pryfaid genwair o'i fag.

Ni waeth beth oedd camgymeriadau Hector ar ei wyliau bu'n ddigon doeth i deithio'n ysgafn, gyda'r canlyniad iddo ymwadu a thacsi, a cherdded yn heini o'r orsaf, a'i fag yn ei law, i'r gwesty.

Ni thrafferthai'r wraig ei wthio'n ôl i'w le; daliai goler ei chot ar gau yn dynn wrth ei gwddf â'i llaw dde a chariai fag siopa lledr coch yn ei llaw chwith.

Ond os oedd honno'n disgwyl i Miss Lloyd brynu ffrog iddi hi hefyd, cael ei siomi a gafodd, a dim ond Miss Lloyd a gariai fag papur yn ol at y tacsi ar ddiwedd y dydd.

Cododd yn bwysig a'i fag yn ei law ac meddai, cyn troi ar ei sawdl: "I am staying at the Imperial Hotel." Ni chlywodd hi'n piffian chwerthin wrth i'r drws gau o'r tu ol iddo; roedd o'n rhy brysur yn llygadu o'i gwmpas.

Beth am ei fag?

Anghofia swyddogaeth tad ac fe fag y ddwy ferch a enir iddo yn lle mab, yn ddi-gariad.

Rhyw fag losin o gyfrol yw hon.

Yn groes i agwedd fy ffrind, cesglais hwy i fag polithîn - nid oedd ymdrech y noson wedi bod yn ofer!

Dau fag yn unol oedd "maletas" wedi eu gwau gan yr Indiad ac yn cael eu gosod ar gefn y ceffyl wrth sgîl y person.

Trodd yn ol i'w ystafell-wely ac agor ei fag.