Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

faglu

faglu

Roedd rhestr faith o gwestiynau i fwrw trwyddynt ac aelodau Plaid Cymru wedi bod yn fwy cydwybodol na neb gyda'u gwaith cartref yn yr awydd i faglu Alun Michael, y Prif Ysgrifennydd.

Byddai'n bwrw i'r darllen â brwdfrydedd gwyntog, ond os digwyddai fentro i faes cymhleth y 'bennod gladdu' yn y Corinthiaid, byddai'n dueddol o faglu ar draws brawddegau aml-gymalog yr Apostol Paul.

Er i rywun yn y cwmni weiddi ar i bawb sefyll yn ei unfan, dechreuodd hi chwalu'i ffordd drwy'r boblach gan faglu ar draws traed hwn a hon ac arall wrth iddi ei theimlo'i hun yn cael ei thynnu ato fel at fagnet.

Ond glaw a gafwyd, cenllif a barodd i'r ddau garlamu'n ôl i'r pentref a Dilys yn colli sawdl ei hesgid wrth faglu ar y ffordd garegog.

Jim!' Bu bron i mi faglu trosto, a bron iddo yntau daflu ei hun i'r afon mewn braw!

"Wnawn ni ddim diffodd y golau," meddai wrth y cŵn, "rhag ofn i ni faglu'n y tywyllwch ar y grisiau tu allan." Cofiodd am ei dors, ac agorodd y drws i'r cŵn neidio o'i flaen i lawr grisiau'r feranda.