Gwnâi hyn ni'n fechgyn atebol ac iach ac roedd y fagwraeth weithgar a chaled a gawswn i, yn ddiamau, o gymorth mawr ar dreialon dygn fel hyn.
Fe dderbyniodd dyn un rhan o'r etifeddiaeth ar amrantiad ei genhedlu oddi wrth ei rieni, ac fe ddaeth y rhan arall ohoni oddi wrth ei fagwraeth, yr hyfforddiant a'r amgylchedd o'i grud i'w fedd.
Roedd yn dioddef o asthma pan yn blentyn, a chafodd fagwraeth ofalus gan ei fam.
Mae dweud fod Euros yn fab y Mans, er enghraifft, yn rhoi'r argraff ei fod wedi cael rhyw fagwraeth gysgodol a breiniol ar aelwyd na phrofodd brinder o hanfodion byw, a'i fod wedi cael pob rhwyddineb i ddilyn ei yrfa addysgol o'r cychwyn cyntaf.
Mewn ffordd doedd dyn yn disgwyl dim gwell gan bobl yn eu diod, ond fe fyddai sglyfaethdod ar ran blaenoriaid ar dripiau Ysgol Sul a chynghorwyr Sir ar ymweliadau swyddogol yn arfer codi dychryn arno - nid felly y'i magwyd ef i ymddwyn ac roedd o wedi meddwl fod pawb parchus wedi rhannu'r fagwraeth ofalus gafodd ef - ond os oedd pymtheng mlynedd o yrru bws wedi dysgu rhywbeth iddo, roedd o wedi ei ddysgu nad oedd pawb yn rhannu'r safonau uchel o lanweithdra a moesoldeb a gyfrifid mor anhepgor gan ei fam ac yntau.
Sut oedd hi ar yr iaith hon yng Nghaerdydd yn ystod ei fagwraeth?
Felly mae'n chwilio am fachyn i gydio ynddo ac mae'n gyfleus iddo addoli Gwylan (yn hytrach na'i charu) a chofleidio'i daliadau - dros dro: wedi'r cyfan y daliadau hynny a rydd iddo'r cryfder i ddirwyn ei ddyweddi%ad â Lisabeth i ben a gwrthryfela yn erbyn diogelwch diantur ei fagwraeth.
Fo fu'n gyfrifol am roi i ti fagwraeth hollol wahanol i'r un gafodd o'i hun.
Gwahanol hefyd yw ei hoff gyrchfannau diwydiannol - hen chwareli sy'n mynd â'i fryd yn hytrach na phyllau glo, er mai'r rheiny oedd agosaf ato yn ystod ei fagwraeth yng Nghaerdydd.
Heb ddweud fod y mudiad ysbrydol hwn yn 'blaid' neu'n 'sect' carwn ei ddisgrifio fel mudiad y Disgwylwyr am Ymwared a honni ei fod yn rhan gwbl bwysig o fagwraeth a chefndir Ioan Fedyddiwr ac Iesu o Nasareth.
Diolch i'w fagwraeth, bydd yn well gan yr Eingl-Gymro lenyddiaeth Saesneg.