Anodd i Ewropeaid a fagwyd yn y traddodiad gwleidyddol Rhufeinig ydyw ystyried unrhyw beth heblaw gallu awdurdodaidd yn sylfaen bywyd gwleidyddol, ond egwyddor waelodol athroniaeth Gandhi oedd gwasanaeth.
Ond fe gollir popeth a fu'n werthfawr erioed gennym yng Nghymru os â Hitler ymlaen i ychwanegu eto at y galanastra a wnaed ganddo'n barod; ni buasai'n bosibl i mi nac i tithau, gyfaill, a fagwyd yn nhraddodiadau rhyddfrydig a dyngarol Cymru, fyw o gwbl mewn unrhyw wlad a orchfygwyd ganddo ef na chan Mussolini lwfr na chan Franco grefyddus.
Disgynyddion adar a fagwyd mewn parciau yw'r Gwyddau Canada estronol hefyd, ond credaf fod y ddwy rywogaeth yn ychwanegiadau difyr i adar ein gwlad.
Aeth Badshah at J. W. Roberts i Sylhet i ddweud fod Nolini, un o'r genethod a fagwyd gan Pengwern, yn honni ei bod hi, wrth basio'r ystafell ymolchi ym myngalo Pengwern tua 9 o'r gloch y nos, wedi gweld y cenhadwr hwnnw'n cusanu Philti.
“Fy nghof cynta pan yn blentyn oedd gweld fy nhad yn ei wisg llongwr,” meddai Hywel, a fagwyd ym Môn.
Mae geiriau Gruffydd Robert, wrth gwrs, yn enwog iawn: 'E fydd weithiau'n dostur fynghalon wrth weled llawer a anwyd ag a fagwyd im doedyd, yn ddiystr genthynt amdanaf, tan geissio ymwrthod a mi, ag ymgystlwng ag estroniaith cyn adnabod ddim honi.' A dyma Sion Dafydd Rhys yntau yn mynegi'r un pryder: 'Eithr ninheu y Cymry (mal gweision gwychion) rhai o honon' ym myned morr ddiflas, ac mor fursennaidd, ac (yn amgenach nog vn bobl arall o'r byd) mor benhoeden; ac y daw brith gywilydd arnam gynnyg adrodd a dywedud eyn hiaith eynhunain' - ac ymlaen ag ef i ddiarhebu'r cyfryw bobl mewn iaith braidd yn rhy liwgar i'w dyfynnu yn gysurus yn Hebron Clydach!
Nid oes, ac ni bu erioed, greadur dynol a fagwyd yn llwyr y tu faes i gymdeithas ddynol.
Y mae ein calonnau yn gresynu, a'n gwaed Cymroaidd yn ymferwi o'n mewn, pan ystyriwn fod yn mysg puteiniaid trefydd Lloegr liaws mawr o ferched glandeg Cymru, y rhai a fagwyd yn dyner gan deuluoedd crefyddol ar lethrau ei mynyddoedd, ond y rhai sydd yn awr yn dilyn bywyd pechadurus a gwir druenus puteiniaid cyhoeddus; .
Dyna ddau esgob a fagwyd yn Llyn - Henry Rowland a Richard Vaughan.
Peth arall oedd yn newydd i un a fagwyd mewn tref Seisnigaidd fel Y Rhyl oedd darganfod fod llenydda'n rhywbeth byw i'r rhai a fagwyd mewn awyrgylch gwbl Gymraeg.
Mae ganddo hyder un a fagwyd ym mri ac urddas dau sefydliad arall" - yr unig un yn Siambr y Cynulliad i brofi rhin ac awyrgylch y ddau dy Llundeinaidd.
Ambrose Bebb, a aned ym Mlaendyffryn, Goginan ac a fagwyd yng Nghamer Fawr, Tregaron.
Noson Yr Alban fydd nos Fercher a'i cynrychiolydd fydd y baritôn Leigh Melrose a aned yn Efrog Newydd ond a fagwyd yn Llundain.
Gūr a godwyd ac a fagwyd yn y plwy yw'r tenor tra enwog, Timothy Evans.
Nofel gyntaf awdur, a fagwyd ym Mhontneddfechan ac sy'n byw bellach yng Nghaerdydd ac yn gweithio yn adran chwaraeon BBC Cymru.
Roedd ol gwaith ar y portread a sgiliau a fagwyd tros flynyddoedd o weithio i deledu a theatr.
Tystiodd y caplaniaid fod y bechgyn hynny a fagwyd yn yr Eglwys, wedi cydymddwyn â'u cyflwr yn well na'r lleill, ond yr oedd perygl iddynt hwythau, hefyd, ymbellhau oddi wrthi.
I'r tyaid plant a fagwyd yn Ralltgoch, Llanfaethlu, roedd 'na llawer o bethau a oedd yn fwy o demtasiwn na chrefydd.
Y mae'n iawn ymdrechu tra galler dros gynnal yr iaith Gymraeg yn iaith lafar ac yn iaith lên oblegid mai felly'n unig yn y darn daear hwn y gellir parchu'r ddynoliaeth a fagwyd arno ac y sydd eto'n ei arddel.