Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fai

fai

Gwelais y gloyn cyntaf ar y pedwerydd o Fai, ac amryw ar ôl hynny.

Teimlai hwnnw'n ofnus oherwydd gwyddai mai neges annerbyniol iawn oedd ganddo i'w rhoi, ond dywedai wrtho'i hun mai nid ei fai e oedd fod llawer o'r ceffylau yn y fintai naill ai wedi, neu ar fin colli eu pedolau.

Byddwn yn cyhoeddi enw'r ysgolion buddugol ar Fai 7.

Ond os cynhyrfwyd y protestwyr gan sylwadau'r offeiriaid lleol, gwelent hefyd fod y Dirprwywyr ar fai oherwydd cu dull o gasglu tystiolaeth a'r modd yr aethant ati i weithredu cyfarwyddiadau'r Llywodraeth.

Ar y chweched o Fai, dychwelodd i Abergele unwaith eto.

Mae'n debygol y bydd Neil Jenkins ac Allan Bateman yn colli gêm Cymru gyda'r Barbariaid ar Fai 20.

Disgrifiad ydynt o darddle'r 'tân pob awen a gano', hynny ydyw, o ysbrydoliaeth, a'u natur haniaethol bellach yn rhinwedd ac nid yn fai.

Ar hyd y lle i gyd gwelsom faneri - llawer ohonynt yn datgan yr achlysur arbennig - Majove Dni - Y cyntaf o Fai, sef diwrnod pwysig yng nghalendr y comiwnyddion.

Nid y gêm sydd ar fai, John, ond y chwaraewyr eu hunain.

Bydd enwau'r llyfr Cymraeg a'r llyfr Saesneg buddugol yn cael eu cyhoeddi yng Ngwyl y Gelli ar Fai 28.

aeth rwmania ar y blaen yn yr hanner cyntaf pan, yn gwbl annodweddiadol yr oedd neville southall ar fai.

Ond yn yr achos arbennig yma fe welwyd yn dda i ychwanegu pwt o hanes trwy ddweud fel y byddai Laura Richards lawer gwaith yn cyrchu gyda'i chymdogesau ar Ddydd yr Arglwydd i chwarae gyda'r delyn; yr oedd yn cofio cadw ffeiriau llestri pridd ym mhorthladd Nefyn a chwarae y Bowl Haf'.' Trwy holi'r Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan cefais wybod mai ar y cyntaf o Fai y chwareuid y `Bowl Haf'.

Dychymyg a rhamant eraill roddodd fod i'r gred mai o wlith trwm bore o Fai yr epilient, ac eto credai eraill mai o flewyn hir cynffon ceffyl y deuent i'r byd.

Na, dydw i ddim yn gweld llawer o fai arnat ti.

Arsenal yw'r tîm arall fydd yn Stadiwm y Mileniwm ar Fai 12.

Yr hyn a'i gwnaeth yn unigryw ymhlith ei frodyr oedd y ffaith ei fod yn ddi- fai: '...

Yr oedd yswirwyr y Cyngor wedi gwrthod gwneud cyfraniad yn yr achos oherwydd nad oedd unrhyw fai ar y Cyngor.

Er bod y rhai fu'n gyfrifol am hyn wedi mynd bellach, y mae'r ethos yn parhau.' ' Gwêl Gwyn Chambers fai ar Gyngor y Coleg i raddau helaeth hefyd: "Dwi'n teimlo y dylai rhai o'r aelodau lleyg fod wedi sefyll i fyny yn erbyn yr academyddion mewn blynyddoedd a fu a pheidio â derbyn y cwbwl a ddywedwyd wrthyn nhw'n ddigwestiwn.

Ar fore o Fai gwelodd y bardd brydferthwch naturiol ein hamgylchedd a chyfeiriwyd yn hyfryd at 'emrallt astud y gwellt a'r lloi llonydd'. O weld 'ganhwyllbren y gastanwydden' cafwyd darlun rhyfeddol o lestri'r offeren yn ymbaratoi ar gyfer addoliad.

Yn amlwg 'roedd hyn yn siom enfawr i'r mwyafrif, yn enwedig o ystyried nad yw'r caneuon newydd wedi cael eu perfformio rhyw lawer - ond mae yna fai ar y ddwy ochr yn fy marn i.

Roedd o wedi bod ar fai yn gwrthod gwaith, meddyliai Manon.

Pwy a wêl fai arno am grio a chnadu a'r fath giwed yn ei biwsio?

Y Streic Gyffredinol yn parhau o Fai 3 hyd at Fai 12, ond y glowyr yn dal ar streic hyd Dachwedd.

Os oedd y gweithwyr yn addoli yn 'nheml duw y gwin', meddai, y meistri haearn oedd ar fai.

Nid ei fai ef oedd ei fod yn gysetlyd; byddai ei chwaer, Hilda, cyn ei marw, mor barticlar.

Ydi'r Sul olaf o Fai'n digwydd bod yn wag?' 'Ydi.

Gofid Enid yw ei hofn mai hi sydd ar fai fod Geraint wedi colli blas ar ymladd a thwrnameint, yn ôl pob golwg.

Cofiwch nad oes yn cynllun yn ddi-fai neu y gellir dweud ei fod yn addas i bawb.

Y fath ystadegau yw'r prawf digamsyniol yn ôl mytholeg y Bwrdd bod oes newydd wedi gwawrio, bod Deddf yr Iaith Gymraeg 1991 yn ddi-fai a di-feth a bod pobl fel Cymdeithas yr Iaith yn 'filitants' drwg a pheryglus sy'n siwr o sbwylio'r sioe i gyd wrth fynnu parhad i ymgyrchu tor-cyfraith a gwrthod ymddiried yn naioni a doethineb y Bwrdd a Llywodraeth haelionus (Dorïaidd) y dydd.

Os oedd ganddo fai, hiraethu am ffyrdd y gorffennol oedd hynny, pan oedd pobl yn rhoi mwy o werth ar wybodaeth nag ar ddim byd arall.

* "Mae gen i dyst nad oedd mymryn o fai arna i ond yn anffodus fedr o ddim darllen na sgrifennu ac mae'n ddall a byddar..." LLOCHES

Yr arweinydd gwadd oedd Mr Alun Tregelles Williams o Abertawe a'r organydd oedd Mr Peter David o Smyrna Pen y fai.

Maen nhw'n dweud fod darllen ffurflenni hawlio costau i drwsio'r llanast ar ôl damweiniau car yn beth difyr tu hwnt a bod digon o ddychymyg gan rai o'r hawlwyr - sydd byth ar fai wrth gwrs - i ennill y Gadair, y Goron a'r Fedal Ryddiaith yn y Genedlaethol.

Mae'r system addysg ar fai i ryw raddau, mae'n siwr, gyda'i disgyblaethau haearnaidd yn cadw'r ddwy iaith ar wahan.

Doedd 'na ddim swydd ar gael a finna wedi priodi Saesnes heb ddim i ddeud wrth Gymru, a'r plant yn Saeson." "Dy fai di ydi hynny." "Ia, ia.

Ond mae'n fwy tebyg mai'r sustem oedd ar fai unwaith yn rhagor.

Pawb wrthi yn eiddgar awyddus yn paratoi ar gyfer ymweliad Ei Mawrhydi Elizabeth Windsor ar Fai 31ain.

Yr oedd Steve Reeves a fu farw ar Fai 1 yn dipyn o ddirgelwch i mi ers talwm.

I Rhian, fel i'r rhan fwyaf o gyfreithwyr, dau beth gwahanol i'w gilydd oedd bod yn ddi-fai a chael eich dyfarnu'n ddieuog.