Gofynnais i wraig y llythyrdy beidio â'u hanfon tan ddydd Sadwrn er mwyn imi fod adref yng Nghroesor i'w derbyn - rhag dychryn Nel gyda'r fath faich o lyfrau.
Mi daflwn i faich brenhines Ar noswyl Glamai fel hon.
Ni fynnwn er dim bod yn faich arnynt, ac er eu bod yn blant digon annwyl, ni theimlwn yn arbennig o agos atynt.
Dyna fe, ddarllenydd - yn llafn main, tal, teneu, gwledig, - mewn gwisg ddiaddurn a digon cyffredin yn dyfod trwy ddrws y capel - am dano y mae coat winlliw o frethyn gwlad wedi ei wau yn lled fras, a hono wedi gweled ei dyddiau goreu; ac oblegid ei fod wedi tyfu ar ol ei chael, edrychai yn fer a chwta - gwasgod o stwff ac un rhes o fotymau yn cau i fynu yn y glos am ddolen ei gadach India oedd yn dorch am ei wddf - llodrau o ffustian rhesog; a phar o esgidiau mawrion cryfion, gyda dwbl wadnau am ei draed, wedi eu pedoli yn ol ac yn mlaen; a'u llenwi â hoelion, ac ymylau hoelion y rhesau allanol yn amgylchu ymyl y gwadnau, fel y gallesid tybio y buasai eu cario yn ddigon o faich i unrhyw ddyn, heb sôn am gerdded ynddynt.
Unwaith yn rhagor, mae'n berffaith amlwg i'r rhai sydd wrthi'n brwydro mewn cymunedau Cymraeg fod y cyfan yn gallu bod yn faich dychrynllyd.
Gadael y traeth yn sydyn am fy mod yn dychmygu bod tonnau'r môr yn adleisio galargan i'r sawl sydd dan faich, ond hwyrach mai o Iwerddon y dôi'r dagrau, am fod y wlad anobeithiol honno mor agos i'r traeth yma.
Nid yr iaith ei hun sy'n faich, wrth gwrs, ond y gorthrwm arni.
(ff) Mae Cristnogion weithiau yn gwneud baich mawr o arweiniad y fath faich nes eu parlysu.
Bu+m yn ffodus eto i gwrdd â cherbyd modur, dan ei faich o Eidalwyr y tro hwn, a theithiais yn gysurus yn ôl i'r autostrada.
Nid oedd Elisabeth yn ymwybodol o fod dan faich.
Fodd bynnag, roedd gan Obadeia Gruffudd faich gwahanol ar ei ysbryd.
Golygai hefyd fod llawer o faich y fferm yn disgyn ar Mam.
Trodd amryw yn chwerw, a bu'r orfodaeth a osodwyd arnynt i fyw cyhyd ar wahân i'w teuluoedd yn faich gorthrymus rhy drwm i'w gario.