Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

faith

faith

Yn ol un o ysgrifau Williams Parry, yr oedd WJ Gruffydd yn cael ei gyfrif yn 'ddi-Dduw.' Gwyddom hefyd fod bardd 'Ymadawiad Arthur' yn cyfeirio at fywyd yn ddiweddarach fel 'un ias ferr rhwng dwy nos faith.' Ac os clustfeiniwn ar eiriau bardd 'Yr Haf',cawn yng ngodidowgrwydd - yr awdl honno ei dagrau hefyd - sef dagrau pethau, yr ymwybod ag angau, ac a thymp a thempo amser.

Gellir gweld atyniad yr algorithm genetig - nid oes angen rhaglennu'r camau datrys yn uniongyrchol, sy'n broses faith a llafurus, dim ond diffinio 'DNA' yr 'unigolion' yn ôl y broblem, a chael rhyw ffordd o fesur pa mor dda yw cyfuniad arbennig o'r wybodaeth 'enetig' yn y 'DNA'.

Cofiaf wylio cynnwys y llyfr hwn mewn cyfres faith ar y teledu sbel yn ol a James Burke yn traethu gyda huotledd wrth bicio o wlad i wlad i gyfleu ei syniadau am hanes gwareiddiad.

O bridd i bridd, ystyria'r gwir Cyn elych bridd i bridd yn hir Lle erys pridd mewn pridd yn faith Nes cwnno bridd o bridd ail-waith...

Bu'n rhaid i ni gyfnewid swm penodol o arian am bob diwrnod yr oeddem yn bwriadu aros yno , ond 'roedd y gyfradd newid yn afresymol o uchel (Dyma ran o ffordd y Comiwnyddion o gael arian o'r Gorllewin i mewn i'r wlad.) Wedi cyfnod go faith, cawsom fynd ar ein ffordd.

Yn anffodus, os oes pellter rhy faith rhwng y trawsyrrydd a'r derbynnydd yn y rhwydwaith ffôn collir gormod o oleuni ar hyd y ffibr ac aiff y neges ar goll.

Buom yn trafod ac yn darllen llyfrau ac yn ymgynghori yn faith, a Mr Roberts Thomas yn cynnig ei sylwadau ac yn helpu i astudio'r llyfrau.

Fel y gellid disgwyl, gan fod Mrs Parry wedi cyfeilio i gynifer ohonynt, 'roedd ei rhestr o unawdwyr yn bur faith - Joan Hammond, Isabel Baillie, Ruth Packer, Tudor Davies, Heddle Nash, Norman Allen, Bruce Dargarvel, David Lloyd.

Roedd rhestr faith o gwestiynau i fwrw trwyddynt ac aelodau Plaid Cymru wedi bod yn fwy cydwybodol na neb gyda'u gwaith cartref yn yr awydd i faglu Alun Michael, y Prif Ysgrifennydd.

Yn weinidog ifanc, prynodd 'fwy nag un par o ddillad' gan Daniel Owen, 'gydag ambell ymgom yn yr ystafell fechan yng nghefn y siop.' Bywyd cyfnod Daniel Owen a ffurfiodd Elfed, a chariodd gydag ef, drwy ei oes faith, lawer iawn o nodau diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Canent awdlau serch lled faith i dywysogesau a rhai byrrach i ferched anhysbys (ac anghyffwrdd), heblaw dwy 'orhoffedd' sy'n gyfuniad diddorol o ymffrost serch a rhyfel ac o ganu natur.

Dyletswyddau Brenhinoedd a Barnwyr a Llywodraethwyr Gwledig ac Eglwysig, heb law eu bod yn faith ac yn ddyrus, maent hefyd yn ammherthnasol sywaeth i'r Iaith Gymraeg.

Roeddwn wedi edrych ymlaenyn arw at fy ngwyliau sgio cyntaf a dyma fi ar gychwyn wythnos o brofiadau newydd ar ol siwrnai faith a phum awr o gwsg.

Yr oedd ar raglen y Gynhadledd gynnig oddi wrth un o ganghennau'r Gogledd, yn galw am ymwrthod â pholisi economaidd tybiedig y Blaid, a mabwysiadu polisi pendant sosialaidd; yr oedd y cynnig yn faith iawn, gan ei fod yn manylu'n llawn am yr hyn a olygid.

Llythyr llwm yw hwn a rhy faith.

Roedd y paith yn sych ag yn faith a'r croeso - fel y tywydd - yn gynnes.

Fe'i plesiwyd, fodd bynnag, gan bryddest 'farddonol' Glanffrwd, pryddest faith a rychwantodd y canrifoedd wrth ddathlu goludoedd y Gymraeg.

Ac y mae agweddau arni yn cael eu mynegi o hyd, bedair canrif ar ddeg yn ddiweddarach, yn epig faith enbyd Bobi Jones.

Mi ddadleuan nhw eu hachos yn hir ac yn faith tra bo pawb arall yn disgwyl mewn rhes hir tu ôl iddyn nhw.

"Cofia fod gennym siwrnai faith ar ôl glanio!" Cefais drafferth i gerdded ar ganol y llwybr rhwng y cabanau.

Gyda'r Stryd mae rhywun yn medru cymryd saib am gyfnodau go faith ac ail-gydio'n hawdd yn y stori, gan mai yn ara bach mae cymeriadau'n newid.

Gellid llunio rhestr faith o bregethwyr grymus ond y mae enwau rhai'n amlycach na'i gilydd.

Yn ystod pedair blynedd olaf ei oes faith bu fy nhad yn byw gyda ni mewn Tŷ Ysgol yn yr hen Sir Drefaldwyn a daeth yn ffefryn gyda'r plant a'r trigolion eraill yn y pentre.

Trodd Llio'r tudalennau a gwelodd fod rhestr faith o longau a disgrifiad ohonynt - mesuriadau, gwneuthurwyr, mordeithiau a'r hyn a ddigwyddodd iddynt.

Gellir llunio rhestr faith o'r planhigion, yr adar a'r anifeiliaid sy'n cael eu crybwyll ynddo.

Fe fu'r frwydr hon yn un faith ac anodd, hyd yn oed cyn belled â hyn.

Teimlai amryw o aelodau'r rhanbarth nad oedd angen cael siaradwr yng nghyfarfodydd y Cyngor yn Aberystwyth oherwydd bod y prynhawn yn mynd yn faith.