Teimlais ei bod hi'n rhaid i mi borthi sylw Delwyn ar unwaith, ac achub mantais ar falchder y gath yn ei chynffon.
Am hynny, ystyria y pethau hyn, fel na chredech dy fod yn well na'r un o'th gyd-ddynion, rhag it wrth feddwl, ddisgyn o'th falchder ar frys, a chael dy frifo mwy wrth ystyried fod gwraig dlawd yn gwenu ar sebon bob dydd gan gofio'r sbort a roddaist iddi.
Hen falchder dyn o'r Fro oedd hynny yn y bôn.
Ond yn brigo i'r wyneb yn Nolwyddelan, er gwaethaf popeth, yr oedd yr hen falchder ym meibion Owain Gwynedd o ddyddiau Iorwerth Drwyndwn.
Mae rhyw falchder yn y ffaith bod y cymeriad wedi gweithio i'r fath raddau a dwi'n gwerthfawrogi pob gair caredig...
Bydd disgyblion yn brin o benderfyniad a dyfalbarhad; byddant yn ddiofal wrth ddefnyddio iaith, yn darllen yn anfoddog ac ychydig o falchder a gymerant wrth gyflwyno'u gwaith.
Mae gen i ryw falchder mod i wedi datrys problem nad oedd neb arall yn medru ei datrys.
Lle gwelir gwerth yn y disgyblion i gyd, mae ymdeimlad o falchder yn yr amrywiaeth o brofiadau, diddordebau a chyraeddiadau amrywiol.
Doedd yna ddim lot o ddŵr, doedd y garthffosiaeth ddim yn gweithio'n iawn ond mi roedd yna falchder anhygoel gan y bobl yn eu dinas ac yn eu gwlad.
Ond collir golwg ar natur gyfangwbl ddiwinyddol y syniad Iddewig wrth ddilyn y trywydd hwn, gan mai'r datguddiad o Dduw yn hytrach nag unrhyw falchder cenedlaethol a orffwys y tu ôl iddo.
Yn Arianrhod a Blodeuwedd fe gawn ddarlun o falchder, creulondeb a chwant sy'n hollol wahanol i Franwen addfwyn, ddewr.
Darlunnir Efnysien yn rymus hefyd, gŵr a lywodraethir yn llwyr gan y syniad hwn o anrhydedd personol sy'n troi mor hawdd yn falchder eithafol.
Collir arwyddocâd y syniad o bobl Dduw, os tynnir ef allan o'i gyd-destun yn niwinyddiaeth y cyfamod ac etholedigaeth Dyna a wneir pan geisir ei esbonio fel balchder cenedlaethol, a'i gymharu â'r teimladau o falchder a ddangosir gan bobloedd eraill.
Er ei fod yn briod ac yn dad i blant, dim ond rhyw unwaith y mis yr âi adre; roedd yn amhoblogaidd ymysg y dynion eraill oherwydd ei falchder, a hoffent ddweud mewn smaldod na fedrai oddef gadael ei ddefaid.
Fel disgrifiad o falchder ymffrostgar Cymry'r unfed ganrif ar bymtheg yn eu hanes a'u tras, prin y gellir gwella ar eiriau'r Esgob Richard Davies: 'Ni wna vi son am vrddas, parch, ac anrhydedd bydol yr hen Brytaniait: tewi a wnaf am y gwrolaeth, dewrder, buddugolaythay, ac anturiaythae y Cymru gynt, mi a ollynga heibio y amryw gylfyddyday hwynt, synwyr, dysc, doythineb, ar athrylith ragorawl.
Er bod un mlynedd ar hugain wedi mynd heibio ers i mi groesi'r ffordd o Fryn Meirion i'r Coleg ar y Bryn, erys ynof yr ymdeimlad o falchder imi gael y profiad gwerthfawr o berthyn i'r gyfundrefn ddarlledu enwocaf a'r fwyaf ei pharch yn y byd.
A 'doedd ryfedd yn y byd i wefr o falchder redeg trwy wythiennau hogyn bach deg oed pan glywodd o fod ei frawd mawr am wneud berfa iddo fo.
Arferai grychu ei fwstasen yn aml, arwydd o falchder mae'n siwr.
Nid yw'n berthnasol i les y dinesydd eithr i falchder gwladwriaethau mân a mawr.
Teimlodd nhw yn ei ddwylo a llanwyd ei feddyliau gan falchder a thristwch.
Gallai fy nhad, Joseph Davies, siarad Cymraeg - 'Rhondda Welsh', fel y dywedai (heb falchder, gwaetha'r modd) - ond ni siaradai Gymraeg ar yr aelwyd gan mai di-Gymraeg oedd fy mam.