Trwy weddill y ganrif ddilynol aethpwyd ati i gymharu ieithoedd â'i gilydd er mwyn olrhain nodweddion y famiaith wreiddiol a cheisio adlunio'i ffurfiau.
Ond, os mai trwy gyfrwng iaith wahanol y dysgir plant y mae'r Saesneg yn famiaith iddynt dyna broblemau.
Gwir bod yna lenorion yng Nghymru o hyd sy'n ddigon ffodus i gael y Gymraeg yn famiaith, ond y maen nhw dan bwysau hefyd.
Yr Almaen hefyd oedd canolfan brysuraf a bywiocaf argraffu Beiblau yn y famiaith a llyfrau erill yn mynegi dysgeidiaethau'r Diwygwyr.
Yn ofer y disgwyliai'r un Dirprwywr i'r aelwyd honno wadu'r famiaith:
Dyna brofiad canol a dwyrain Ewrop hefyd; i bob pwrpas ymarferol addysg drwy'r famiaith a geid yn llawer o ysgolion bach y wlad, er mai gwahanol oedd y patrwm yn y trefi.
Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg daeth cwestiwn addysg a'r famiaith yn bwnc llosg ymhlith mwy nag ugain o genhedloedd diwladwriaeth yn Ewrop.
Aeth ymhellach a hawlio y dylid darparu Beibl yn y famiaith ar gyfer y dyn cyffredin.
Tyfodd o hadau eu collfarn hwy gerddi gwarchod lawer a geisiai gelu'r ffaith fod lles y genedl, fel y i gwelid gan ei hyrwyddwyr, yn gofyn gostwng gwerth y famiaith.
Ond yr wyf yr un mor ymwybodol o'r perygl i genedl fach longyfarch ei hawduron am yr unig reswm eu bod yn sgrifennu yn y famiaith.
Gwelsai yn Lloegr ac yn Ewrop nerth y Gair a'r addoliad yn y famiaith a'u dylanwad pellgyrhaeddol ar y bobl.
Daeth addysg drwy'r famiaith yn rhan bwysig o'r ymdrech hon.