Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

famwlad

famwlad

Clyma hon ynghyd bobl a rannodd yr un diriogaeth dros gyfnod hir o amser ac a ddatblygodd yn ystod cwrs ei hanes yn y famwlad, draddodiadau ac arferion a sefydliadau a'u gwahana oddi wrth bobloedd a chenhedloedd eraill Cynnwys y rhain fel arfer gyfraith, crefydd, sefydliadau gwleidyddol ac iaith, er nid yw'r nodweddion oll bob amser yn bresennol.

Yr oedd golwg lewyrchus ar Lundain a'r canolbarth a siroedd de-ddwyrain Lloegr tra oedd y drefedigaeth Gymreig yn llusgo byw dan amrywiaeth o enwau a'i galwai yn bopeth ond yn famwlad cenedl.

Felly y lleddir y wedd ddistrywiol i dadolaeth, a gwneir yr un peth i'r wedd gyffelyb mewn mamolaeth wrth ladd y Twrch, sy'n cynrychioli, dan gochl creadur gwrywaidd, yr hen fam o hwch a ildiodd fywyd i Culhwch, ond a oedd - fel y dywedodd James Joyce am ei famwlad - am ei fwyta'n fyw wedyn.