Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fanno

fanno

Treuliais rai diwrnodau yn y Weinyddiaeth Amddiffyn cyn hedfan i Wlad Iorddonen i dreulio gweddill y rhyfel yn fanno.

Penderfynodd y capten y byddai'n anelu adre am Genoa - 'o leia mi ga'i groeso'n fanno' - i fyny'r arfordir.

'Fe ddwedon nhw wrthon ni ddeg diwnod yn ôl, gan fod cynifer o gemau 'da ni ar ôl 'tasan ni'n cael hyd i gae 'basan nhw'n fodlon i ni chwarae fanno.

Roedd yna bentref o'r enw Yr Adfa rhyw bedair milltir o Manafon, a thu draw i fanno roeddech chi'n teimlo eich bod chi yn y Waendir, a'r ychydig bobl fasa chi'n cwrdd a nhw yn Gymry Cymraeg.

Pawb yn ifanc fanno.

I ble aflwydd 'da chi isio mynd i fanno?

Deud wrtho fo am fynd i ganol anialwch tywod y de lle mae'r haul yn boeth a sychad yn cau gyddfau'r nadroedd, mi gâi groeso'n fanno.