Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fantais

fantais

Ar ôl y gêm arall yn rownd yr wyth ola neithiwr, mae gan Galatasaray fantais o 3 - 2 dros y deiliaid Real Madrid.

Cymer Mr Thomas fantais ar hyn i esbonio sail Feiblaidd safbwynt Gwyr y Bumed Frenhiniaeth.

Mae Caerdydd wedi ildio'r fantais gartre am fod tîm Cymru angen ymarfer ar Barc Ninian y noson honno.

Dyblwyd y fantais gan McGregor - peniad arall - o groesiad Darren Ferguson ddeg munud wedyn.

Dros nos yr oedd gan Hendry fantais o 6 ffrâm i 2 a pharhau wnaeth ei feistrolaeth dros Hunter y bore yma.

"Rwyf wedi meistroli ambell frawddeg sy'n fantais wrth fy ngwaith" meddai'n gellweirus wedyn.

Maen nhw wedi cymryd cam bras tuag at y rownd derfynol a gêm debygol yn erbyn Wrecsam sydd hefyd â dwy gôl o fantais dros Y Barri ar ôl eu gêm cymal cynta' nhw.

Mae gwyntyllu'r problemau o fantais mawr i'r ddwy ochr.

Câi'r Ymofynnydd fantais ddwbl o'r ffaith fod y golygydd yn ŵr cyhoeddus ac yn gymeriad cenedlaethol.

Parhau mae wyth pwynt o fantais Manchester United ar frig yr Uwch Adran ar ôl i Arsenal, sy'n ail, golli 1 - 0 yn Leeds.

'Mae rhywfaint o fantais gan Lerpwl, maen nhw wedi bod yn Stadiwm y Mileniwm o'r blaen a rwyn gwybod bod Gary McAllister â meddwl uchel o'r stadiwm.

Yn honno mae gan Bayern Munich fantais dros Real Madrid 1 - 0 ar ôl y cymal cynta.

Aeth Karen yn wael a chymrodd Gavin fantais o'i salwch er mwyn ei denu oddi wrth Derek.

Y mae'n bwysig ichi beidio â gollwng y fantais hon o'ch gafael.

Nid yn aml y gwelir peth fel hyn, er bod adran amaethyddol y Brifysgol erbyn hyn wedi llwyddo i gael defaid i fwrw ŵyn bob mis o'r flwyddyn, beth bynnag yw'r fantais o hynny, rhagor na mynd i'r lleuad.

I'r graddau y bydd yr ysgolion yn agor eu hunain i'r gymuned leol y bydd y fantais hon yn cynyddu'n bellach.

Yn ogystal â hyn, gall delwedd ddwyieithog fod yn fantais y tu hwnt i Gymru, yn enwedig yn y marchnadoedd hynny lle mae delwedd unigryw yn hollbwysig, neu lle byddai dangos dealltwriaeth o amlieithrwydd yn eu huniaethu â'r farchnad gynhenid.

Ond gyda dwy gôl o fantais y cochion ydy'r ffefrynnau clir i gyrraedd y rownd derfynol.

Ymateb y Prif Ysgrifennydd, Alun Michael, oedd nad oedd yn gweld unrhyw 'fantais ymarferol' yn hynny.

Ond methodd y tîm cartref gynnal y fantais.

Roedd hi'n fantais dod o hyd i Gymry ar wasgar a chael golwg ar y sefyllfa drwy eu llygaid nhw - diffiniad ar blât o'r safbwynt Cymreig - ond faint o'r radicaliaid Cymreig fyddai'n mwynhau clywed Cymry De Affrica yn amddiffyn apartheid, neu'n clywed Cymry De America'n cefnogi unbeniaid yn erbyn tlodion, neu'n gwneud ffortiwn mewn gwledydd tlawd ar draul y brodorion?

Ewch dros y llinell fantais trwy gysylltu a chyfeillion gydag un o gardiau ebost rygbi, BBC Cymru'r Byd.

o ystyried bod cynifer o lenorion ac artistiaid dros y blynyddoedd yn hoyw, tybed nad oes yna fantais i lenor fod felly?

gall disgybl sydd yn llwyddo'n well i ysgrifennu stori nag i fynegi barn fod ar ei fantais eleni, ac i'r gwrthwyneb.

Gall pwls digon byr dramwyo pellter hir o ffibr heb ledaenu, sydd o fantais amlwg yn y maes cyfathrebu.

Y mae eisiau cydnabod mai menter ar y cyd yw addysg plentyn meithrin ac y gall ansawdd y berthynas sy'n cael ei greu rhwng rhieni a'r athrawon/gweinyddesau meithrin yn yr ysgol fod yn sylfaen i bartneriaeth bwysig ac yn fantais i'r ysgol, y rhieni, ac yn bwysicaf oll, i'r plentyn.

Roedd gan Wrecsam ddwy gôl o fantais wedi'r cymal cynta.

A rhaid dweud o blaid Ferrar nad oedd yn ofni ymaflyd codwm â'r mawrion lleol pan deimlai fod hynny'n fantais i'r eglwys.

Dyblwyd y fantais chwarter awr yn ddiweddarach.

Allai elusennau fu'n gwneud y gwaith ers degawdau ddim cystadlu â'u hymroddiad a'u hegni - er bod adnoddau'r fyddin, wrth gwrs, yn fantais aruthrol.

Bu i chi ateb na welech fod unrhyw 'fantais ymarferol' yn hyn.