Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fanteisio

fanteisio

ar gynghorau lleol yn y cyfnod hwn, fe ddangosodd ei gwendid eto mewn methiant i fanteisio ar ei chyfle, a hynny, i'm tyb i, oherwydd rhyw ddiniweidrwydd egwyddorol megis.

Dylai'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau ei fod yn cael ei gefnogi'n egnïol er mwyn sicrhau fod yna strwythur strategol i alluogi Cymru i fanteisio i'r eithaf ar ei chryfderau yn y maes.

Yn gyntaf, y maen'n ymddangos i Forgan fanteisio hyd yr eithaf ar y cyfle a oedd ar gael yn y Coleg a'r Brifysgol i feistroli Hebraeg wrth draed tiwtoriaid dawnus fel y Ffrancwyr Antoine Chevallier a Philip Bignon a'r Sais John Knewstub (efallai mai'r Ffrancwyr a ddysgodd Ffrangeg iddo'n ogystal); yr oedd hyn, wrth gwrs, yn ychwanegol at yr addysg yr oedd yn ei derbyn neu wedi'i derbyn yn y celfyddydau a'r gwyddorau, athroniaeth, Groeg a diwinyddiaeth.

Cafodd Dickerson ddau gyfle arall yn yr hanner cynta ond methodd fanteisio arnyn nhw ac er i'r cyfleon gorau ddisgyn i ran Llanelli wedi'r ail-ddechrau, Leo Fortune West sgoriodd yr unig gôl gan roi'r pwyntiau i Gaerdydd ond y clod i Lanelli.

Yr oedd y gwaith yn gofyn teimladrwydd bardd, a gwybodaeth gŵr a fedrai fanteisio ar holl adnoddau'r Gymraeg ac am fod y ddeupeth hyn mor gytu+n yn natur Morris-Jones y gwnaeth ef y fath wrhydri o'r cyfieithiad hwn.

Hoffwn fanteisio'n arbennig ar y cyfle hwn i ddiolch i ddau o'n haddysgwyr amlycaf, yr oedd y Gymraeg yn agos iawn at eu calonnau, am eu cyngor cadarn a'u cefnogaeth barod i waith y pwyllgor ar bob achlysur, sef Mr Illtyd Lloyd (Prif Arolygydd Ysgolion Cymru a ymddeolodd yn gynt eleni) a Mr Gareth Lloyd Jones (Ysgrifennydd Cyd-bwyllgor Addysg Cymru a fydd yn ymddeol ddiwedd Awst).

Dadleuir felly i esblygiad y ffurfiau uwchradd gael ei ohirio am oesoedd maith hyd nes bod cyflenwad digonol o ocsigen wedi ymgasglu yn yr amgylchedd a phrosesau metabolig wedi datblygu digon i fanteisio ar hyn.

Ond nid pawb a gymeradwyai'r drefn hon o bregethu teithiol, oblegid rhoddai gyfle i rai cymeriadau digon brith ac annheilwng i fanteisio ar garedigrwydd yr eglwysi, a daeth amryw o 'wŷr y gwithe allan o waith yn crwydro'r wlad i bregethu' yn destunau gwawd a dirmyg.

Mae hinsawdd o'r fath yn gymorth i hyrwyddo brwdfrydedd ar ran disgyblion i fanteisio ar bob cyfle y gall addysg Gymraeg ei gynnig drwy elwa'n llawn ar gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg a phrofi agweddau amrywiol o'r diwylliant Cymraeg.

Her addysg Gymraeg yw cyflwyno gwerthoedd gorau ein diwylliant er mwyn galluogi ein disgyblion i fanteisio ar ragoriaethau dau ddiwylliant.

Y mae'n barod i fanteisio ar sancteiddrwydd y santes ddiwair er mwyn hyrwyddo perthynas odinebus.

Eto, er yr holl anawsterau, y mae arwyddion gobaith yn cyniwair yng nghefn wlad Cymru heddiw, a rhaid i ni fanteisio arnynt er mwyn hybu popeth sy'n faneisiol i'r Gymraeg.

Rwyf yn hyderus bod tîm rheoli BBC Cymru yn llwyr ymwybodol o'r newidiadau hyn i'r farchnad ddarlledu, a bod y gallu yno i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd newydd fydd yn ymddangos o ganlyniad i'r chwyldro sy'n awr yn digwydd ym maes cyflwyno rhaglenni.

Methodd Woosnam fanteisio ar ei gyfle a roedd Price, er gwaethaf rownd olaf o 65 yn rhy bell ar ôl i wneud ei farc.

Mae'r rhai hynny sy'n beirniadu gwyddonwyr yn ddigon parod i fanteisio ar y moethau a'r gwasanaethau a ddaeth i'w rhan o'r cyfeiriad hwn.

Yn ddaearyddol, nid yw lleoliad Parc Cenedlaethol Eryri yn un da i fanteisio ar Dwnel y Sianel ac ar y Farchnad Ewropeaidd Unigol.

Mae'r Cyngor Darlledu yn gwerthfawrogi gorchestion BBC Cymru o dan ei arweinyddiaeth ysbrydoledig yn fawr, ac yn dymuno pob llwyddiant i'r rheolwr newydd, Menna Richards, wrth i'r byd darlledu yng Nghymru baratoi i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd digidol, ac wrth wynebu'r broses o ehangu darlledu masnachol.

mae'r Cyngor Darlledu yn gwerthfawrogi gorchestion BBC Cymru o dan ei arweinyddiaeth ysbrydoledig yn fawr, ac yn dymuno pob llwyddiant i'r rheolwr newydd, Menna Richards, wrth i'r byd darlledu yng Nghymru baratoi i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd digidol, ac wrth wynebur broses o ehangu darlledu masnachol.

Yn 1995 cafodd Kath swydd bwysig yn y gymuned leol fel postmon - llwyddodd Kath i fanteisio ar ei swydd i gael clywed y clecs i gyd a bu'n barod i agor ambell i lythyr hefyd.

Roedd Bethlehem yn anhrefn llwyr wrth i bobl fanteisio ar eu hychydig oriau o ryddid: y strydoedd cul dan eu sang o bobl, mulod a cherbydau yn rhuthro i bob cyfeiriad.

Am y tro cyntaf erioed mewn canrifoedd o eisteddfota, mae dirgel ffyrdd y drefn eisteddfodol wedi eu chwalu wrth i'r trefnwyr fanteisio ar uniongyrchedd a natur ryngweithiol y we.