Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fanteisiol

fanteisiol

GO Byddai'n fanteisiol i gyfarfod yn yr Hydref i'r cwmniau gael rhannu gwybodaeth gyda'r canolfannau mewn da bryd.

Dichon nad yw awyrgylch y cyfnod presennol yn fanteisiol i ennill rhagor o ieuenctid i fod yn ymgeiswyr am y Weinidogaeth.

O fewn y Cynulliad ei hun, credwn y byddai'n fanteisiol iawn sefydlu Pwyllgor arbennig i fonitro a gweithredu'r Polisi Dwyieithog yn yr un modd ag yr argymhellir trefniadau yn y Papur Ymgynghorol i fonitro ymddygiad a safonau aelodau'r Cynulliad.

Fel y gŵyr pawb ond y lembo mwyaf safnrhwth, ac ambell godwr canu, y mae cael gafael ar fferm yn fanteisiol i'r sawl a fyn fod yn ffermwr.

(b) Awdurdodi'r Prif Weithredwr i gyflwyno'r gwelliannau hyn ac unrhyw welliannau a fyddai'n ei farn ef a'r prif swyddogion yn fanteisiol i sylw'r Arglwyddi perthnasol ac i'r Aelod Seneddol.

Mae sanau nos yn fanteisiol, a chap nos hefyd o ran hynny.

Byddai adeiladydd, er enghraifft, yn ei chael hi'n fanteisiol i agor cyfrif arbennig ar gyfer pob contract y mae'n ymgymryd ag ef, er mwyn iddo fedru dweud pa elw neu golled a wna arno.

pe bai modd sicrhau fod elfennau cyffredin yn y gwahanol haenau i asesu'r lefelau gorgyffwrdd byddai hyn yn fanteisiol ; er enghraifft lle bo hynny'n briodol gallai cwestiynau uchaf un haen fod yn gwestiynau isaf yr haen nesaf.