Os nad wyf yn camgymryd fe fydd dyfodol Gruffudd eto yn y fantol ac fe gaiff ei ergydio fel ceiliog gwynt rhwng y Tywysog a Dafydd yr hanner Norman o Lys Aber." Erbyn hyn 'roedd y sbi%wr yn awyddus i gychwyn i'w daith.
Gyda dyfodol y Wembley newydd yn y fantol, mae Ysgrifennydd Undeb Rygbi Cymru Dennis Gethin wedi dweud y bydd yr Undeb yn cynnal trafodaethau â'r Gymdeithas Bêl-droed ynglyn â'r posibilrwydd o ddod a mwy o brif gemau pêl-droed Pydain i Gaerdydd.
Llwyddiannus iawn fu'r ymdrech i ddwyn y Grefydd Anghydffurfiol i blith gwerin Gymraeg yr ardal hon, ond aflwyddiannus fu'r ymdrech i'w Seisnigeiddio, ac yn yr oes hon holwn a yw'r fantol wedi troi.
Mae ffitrwydd yr ymosodwr Stefan Iversen sy'n chwarae i Spurs yn y fantol.
Swyddfa'r WDA yn y fantol o hyd.
Mae dyfodol clwb hoci iâ Caerdydd - y Cardiff Devils - yn y fantol.
Ac mae coch yn rhybuddio fod bywyd y plentyn yn y fantol am ei fod mor wan.
Ond yn achlysurol digwyddai rhywbeth i droi'r fantol, gan effeithio ar bawb a phopeth yn y swyddfa, oblegid doedd Rhian ddim yn un i ddioddef yn ddistaw.
Y mae holl ddyfodol ein ardaloedd yn y fantol.
Cafwyd digon o goliau ond 'doedd y canlyniad ddim yn y fantol o gwbl.
Mae'n werth atgoffa'r pleidiau, er hynny, bod yna gryn dipyn yn y fantol.
Yr ymwybyddiaeth honno oedd yn y fantol bellach ac nid y darn o dir a elwid ar fap yn 'Gymru'.
Caiff ddanfon tri dwsin o ASau i Westminster at y chwe chant namyn un a ddaw o weddill Prydain Fawr; ond hyd yn oed pan ymuna'r rhain â'i gilydd dros achos o bwys mawr i Gymru, gyda chenedl unol wrth eu cefn, cant eu gwthio o'r neilltu yn ddirmygus gan y mwyafrif Seisnig llethol os oes buddiannau Seisnig yn y fantol.
MAE DYFODOL swyddfa Bangor Awdurdod Datblygu Cymru yn dal yn y fantol yr wythnos hon wedi i'r gweithwyr gael gwybod y bydd y rhan fwyaf o'u swyddi yn cael eu lleoli yn Lanelwy wedi'r addrefnu yn yr Hydref.
O ganlyniad y mae'n addas ailgloriannu'r dystiolaeth a rhoi'r cymeriad nodedig hwn yn y fantol unwaith yn rhagor.
Yn ôl Alun Evans, ysgrifennydd FA Cymru, os na ddaw'r cynghrair newydd i rym, yna mae dyfodol tîm cenedlaethol Cymru yn y fantol.