Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

farchogaeth

farchogaeth

Y math o geffyl a welir fynychaf erbyn hyn yw ar gyfer ei farchogaeth.

Heriwyd un o'r bechgyn yn y meinciau i farchogaeth y ceffyl a oedd yn trotian yn ddestlus o gwmpas y cylch.

Mae'r ardal o gwmpas Cape Town yn un sy'n cynhyrchu gwin, a threuliais ran o'm hamser hamdden i farchogaeth trwy'r gwinllannau, a phellach ymlaen lle roedd melonau a phomgranadau yn laweroedd.

'Mae e'n ffodus iawn bo fe'n weddol ysgafn a gobeitho gallwn ni gadw'i bwyse fe lawr i farchogaeth ar y fflat,' meddai Hywel.

Whitehall a Westminster sydd yn y cyfrwy a cheisiant farchogaeth y genedl fach hon i farwolaeth.

Wyddwn i ddim am ffordd o wneud bywoliaeth ar wahân i farchogaeth ceffylau yn gyflym dros bob math o rwystrau, a doedd hi ddim yn job y gallai neb ei gwneud os nad oedd ei galon yn y gwaith.

Rydym am farchogaeth dau ferlyn ar hyd y lôn ym mherfedd nos, a gobeithio y cawn weld yr ysbryd!

Ers rhai blynyddoedd sylwais ar fy nghyfeillion, o basio'r deugain, yn rhuthro allan i loncian neu farchogaeth beic, a chael cryn ddifyrrwch o'u gweld yn eu trowsusau bach yn ceisio rhoi taw ar lais amser.

Felly fe heriwn ni ysbryd Plas Madyn nos yfory, gan fod yna rai pobl yn dweud fod Lowri Cadwaladr yn dal i farchogaeth Gwyll bob nos am wythnos ar ôl yr W^yl.