Roedd yn fardd, llenor a newyddiadurwr, cenedlaetholwr i'r carn, a chyfaill diarbed i'w deulu agos a'i ffrindiau niferus.
Cyfrol newydd o gerddi gan fardd a beirniad amlwg.
Y mae'r Athro Koutroubas hefyd yn fardd, yn cyhoeddi cyfrolau o gerddi mewn Lladin a Groeg.
O ystyried fod Lewis Glyn Cothi'n fardd nodedig o dduwiol, mae absenoldeb unrhyw sylw ynghylch tynged enaid ei fab yn drawiadol iawn.
Mae hi'n bwysig am ei bod yn ddogfen ddelfrydol o weithgareddau Waldo yn ei swydd o fardd gwlad.
Etifeddion oeddynt i'r deffroad ym myd dysg a diwylliant yn y ddeunawfed ganrif a gysylltwn ag enwau megis Lewis Morris ac Ieuan Fardd.
Y mae'n gofiant i fardd ifanc addawol, ac y mae'r cerddi a gyhoeddir ynddo, ynghyd â'u cefndir, yn ychwanegu llawer at ein dirnadaeth o farddoniaeth Gymraeg y Rhyfel Byd Cyntaf.
Dyfynna Tedi Millward ysgrif Saesneg gan Eben Fardd a ddwedodd:
Fe'i collfarnwyd yn y wasg enwadol er iddi gael croeso gan Prosser Rhys, awdur y bryddest nwydus 'Atgof' yn yr un flwyddyn, fel 'un o'r darnau mwyaf addawol ac arwyddlon a sgrifennwyd gan fardd ifanc ers blynyddoedd'.
Yn y rhybudd enwir Iolo Morganwg, ac fe'i disgrifir fel yr unig un a oedd eisoes yn 'Fardd wrth fraint a defod Beirdd Ynys Prydain', sef, fel yr eglurodd yn ddiweddarach, un a wyddai 'Gyfrinach a Breiniau a Defodau Beirdd Ynys Prydain'.
Casgliad o gerddi gan fardd newydd, cyffrous o Gymru.
Bachgen tawel arall a ddaw i'm cof, un a fu'n gweithio gyda ni fel un o'r myfyrwyr yn ystod yr ha', oedd un o ardal Nanhoron a ddaeth yn fardd y Goron.
Dyma fardd nad yw'n ceisio bod yn arloesol yn ei bwnc na'i fesur.
Cywaith rhwng dau fardd oedd y cerddi buddugol, ac ni chaniateir cywaith yn y gystadleuaeth.
Gwelsom eisoes i fardd a oedd ymhlith y Cywyddwyr cyntaf - Llywelyn Goch ap Meurug Hen - ganu i Hopcyn ap Tomas, ond ar fesur awdl.
Cynhaliodd ei hun yn lled lwyr am flynyddau, drwy werthu pamffledau o'i farddoniaeth, neu bregethau, neu areithiau byrion ac ymffrostiai mai efe oedd yr unig fardd Cymreig oedd yn gallu byw ar ei dalent, a chwarae teg iddo, yr oedd yn bur agos i'w le .
Fel pawb fe ddechreuodd drwy fod yn fardd.
Mae yma hefyd saith o gerddi a rhyw arbenigrwydd yn perthyn iddynt gan fardd ifanc dawnus o'r enw Tom Parry.
Bu ef ei hyn yn rhyw dipyn o fardd, ond un dieneiniad, braidd, rhaid cyfaddef.
Ac 'roedd ei gymharu ag Euros Bowen yn arbennig o anffodus, gan na ellir meddwl am ddau fardd mor gwbwl wahanol i'w gilydd ym mhob dim.
Y mae Tudur Dylan yn berson sy'n gwrthod yn lân a galw ei hun yn fardd.
Y mae'n ei wrthgyferbynnu gyda beirdd clasurol y traddodiad mawl, hwynt-hwy yn eu cyrndeithas' sefydlog a threfngar' yn dal mai' peth qmdeithasol' oedd barddoniaeth; a Williams yn fardd' ei brofiadau'i hun'.
'Roedd Eben Fardd o'r farn mai ei awdl ef i'r 'Greadigaeth' oedd yr ora' er mai Nicander aeth â'r wobr yn y diwedd hefyd.
Cyfreithlonwyd mewnblygrwydd fel cynneddf y gwir fardd a'r gwir Gristion ill dau.
Er mor ifanc ydoedd, yr oedd eisoes yn gyw o fardd yn dechrau dysgu cân ei dad.
Bu llawer o ddyfalu pwy oedd yr Arwr yn yr awdl, a phwy oedd 'Merch y Drycinoedd'. Yr oedd yr ateb i'w gael ym marddoniaeth Shelley, hoff fardd Hedd Wyn.
Ond y pnawn yma yr hyn rwyf i am ei wneud yw adrodd ychydig o ffeithiau noeth am droeon ei yrfa cyn ei 'droedigaeth' ym Mhenllyn, neu'n hytrach cyn iddo ddod i'w wir adnabyddiaeth ohono ef ei hunan, gan awgrymu'n wyliadwrus fod a wnelo'r ffeithiau hyn, efallai ryw fymryn a delwedd ac arddull ei gerddi, a chan gadw mewn cof nad yw gosodiadau ysgubol ac anghyflawn am fywyd a chefndir unigolyn o fardd, weithiau gan y bardd ei hunan, o fawr werth i'r neb a fyn o ddifri ei ddeall.
Ond peidiwch â'i goelio'n llythrennol, mwy nag y coeliech fardd yn dagreuo hiraeth am ei gariad dan yr ywen.
Roedd yn fardd ffraeth a fedrai gynganeddu'n hynod o naturiol a diymdrech, ac y mae naws sgyrsiol ar lawer o'i gerddi.
Nid oes ganddo uchelgais hunan-chwyddedig i fod yn fardd cenedlaethol.
Ganrif yn ddiweddarach eto, ceir cywydd gan Ddafydd Benwyn i siroedd Brycheiniog, Morgannwg a Mynwy, a hynny ar ol i ryw fardd 'Diddysg, digerdd a diddim' o'r enw Siancyn ei gyffroi.
Ymysg y beirdd a wahoddwyd i orsedd gyntaf y Fro roedd Edward Evan (lorwerth Gwynfardd Morganwg) o Aberdâr, Edward Williams (Gwilym Fardd Glas) o Ferthyr a'r Bont-faen, William Moses (Gwilym Glan Taf) o Ferthyr a Thomas Evans (Tomos Glyn Cothi).
Ond mawredd Pantycelyn, meddai, yw iddo allu ffrwyno'i ramantiaeth ac felly osgoi mynd i ormod rhysedd trwy alltudio'r rheswm o'i waith yn gyfan gwbl: 'Dechrau'n fardd rhamantus a wnaeth Pantycelyn, datblygu ei ramantiaeth a'i mynegi'n llawn, yna ei meistroli a thyfu i weledigaeth fwy.
Cofiaf yn dda fel yr ymddangosai'r llyfrau amryliw tua diwedd y flwyddyn ym mhlith y rhai nas gwelid eto ar ôl gwyliau'r haf, ac fel y cafodd Islwyn a Keats ac Eifion Wyn a Fitzgerald ac Eben Fardd a Milton bawb eu sbel ym mhlith rhigymau llai anfarwol.
Ni fu SL erioed yn fardd poblogaidd a da fuasai clywed rhagor o feirniadaeth o'r math a geir weithiau yn ysgrif Gwenallt, sy'n dweud, er enghraifft, 'Nid yw Mr Lewis yn cerdded mor sicr yn y mesurau traddodiadol at yn y vers libre.' Teimlais innau droeon mai gwely Procrwstes y mesurau caeth a orfodai SL i gynnwys geiriau hen, prin ac anghyfiaith a chystrawennau hynafol a chymhleth, fel petai tywyllu ystyr yn ddibwys neu hyd yn oed yn rhinwedd.OES AUR Y WASG GYMREIG
Edwards ym myd llyfrau plant gan egluro fel y bu i hwnnw ddweud wrtho'n chwaraeus un tro iddo'i achub rhag bod yn fardd i fod yn awdur llyfrau plant.
Teg yw cydnabod fod Shakespeare mewn dramâu eraill yn ddigon ymwybodol o fodolaeth Cymru a'r Alban - fel y gweddai i fardd yn canu yn y cydiad rhwng Oes y Tuduriaid ac Oes y Stiwartiaid!
'Roedd y ffugenw yn arwyddocaol: Ianws oedd Ionawr, duw dau-wyneb y Rhufeiniaid, ond Mawrth y ddwy Gymru ac Awst y ddau fardd oedd arwyddocâd y ffugenw.
Mae fyny i bobol eraill ddweud os ydw i'n fardd neu os ydw i'n sgrifennu barddoniaeth o safon.
Yn yr unfed ganrif ar bymtheg, sef canrif y gerdd 'Calanmai' gan fardd anadnabyddus, fe edrychid ar holl brofiadau'r ddynoliaeth yng nghyd-destun cylchdro'r tymhorau a chyd-ddibyniaeth bywyd a marwolaeth.
Ni ellir dylanwad heb apêl, a hawdd deall apêl gwrthrych fel Keats at ŵr ifanc pedair ar hugain oed a'i teimlai ei hun yn fardd ond na wyddai sut i'w ddisgyblu ei hun i greu gwaith cyson y gallai fod yn fodlon arno.
Does dim i'w wneud ond eu blasu; er y gellid, efallai, atgyfnerthu eu heffaith arnom trwy ddarllen gwaith meistr cyffelyb ar iaith a dychymyg, megis yr hen fardd hebreig hwnnw gynt a barodd i Dduw ateb Job o'r corwynt: 'Ble'r oeddit ti pan oedd sêr y bore i gyd yn llawenhau, a holl feibion Duw yn gorfoleddu?' Ar y llaw arall ni chawn anhawster i amgyffred arwyddocâd y gwrthgyferbyniad awgrymog rhwng 'ymryson' yn nechrau'r pennill a 'murmur' ar ei ddiwedd.
Mae Emrys Roberts yn fardd ac yn awdur adbanyddus a'i ymdriniaeth o'r Gymraeg yn dangos hynny.
Yr ydym yn deall yn burion beth yn hollol a feddylir pan sonnir am fardd o'r radd flaenaf: cyfeirio yr ydym at unigolion cwbl unigryw megis Goethe neu Ddafydd ap Gwilym.