Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

farf

farf

Tueddai yn awr i esgeuluso'i farf a'i olwg yn gyffredinol wrth hoelio'i sylw'n unplyg ar yr helfa hon.

Cadernid ei gorff; breichia yn gneud imi deimlo'n ddiogel; 'i farf undydd yn crafu 'ngwynab i a'n 'sgwydda, a'r gwefusa 'na'n gwefreiddio 'nghlustia i a'n llygaid wrth i'w law gofleidio 'mhen-ôl i!

Rhannu Gwallt y Proffwyd Tithau, fab dyn, cymer iti gleddyf llym a'i ddefnyddio fel ellyn barbwr i eillio dy ben a'th farf, ac yna cymer gloriannau a rhannu'r gwallt.

Byddai'n gweiddi, Cofiwch y Saboth, i'w gadw'n sanctaidd," ac ni wariai geiniog ar eillio'i farf ar y Sul.

Daeth yntau yno, dyn bychan, bywiog, yn gwisgo sbectol drom, a chanddo farf frown dywyll o gylch ei wyneb, ac yn gwenu'n siriol wrth ymddiddan â Mam.

Dychmygwch am eiliad eich bod yn annerch rali o blaid 'Achub Ciwcymbyrs Coch Prin Powys' - dim problem yn fanna, tan i chi sylweddoli fod Dafydd Morgan Lewis - yr arch derfysgwr - yn llechu ynghanol y dorf yn ei sbectol dywyll, ei farf ffug a'i falaclafa du.

I wneud pethau hyd yn oed yn fwy bizarre, roedd Richard, sy'n gawr o ddyn a chanddo farf flewog, mor amlwg â llwynog mewn cwt ieir.

Roedd ei wallt hir a'i farf drwchus yn hanner cuddio'i wyneb a'r creithiau arno'n dangos iddo fod mewn ymladd ffyrnig.