Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

farwol

farwol

Cynhyrchir 'aflatoxin' gan ffwng a gall fod yn farwol i adar os bwytant ddigon ohono, - felly cadwch eich llygaid yn agored am y 'Sêl Cymeradwyaeth'.

Ymatebodd y cenedlaetholwyr mewn dwy ffordd i ergyd farwol y bleidlais nacaol, ymgyrchu o blaid cael y bedwaredd sianel i Gymru ac ymgyrchu yn erbyn problem gynyddol y tai haf.

Hwn oedd uchafbwynt y dinistr a'r hoelen farwol yn arch yr hen gymdeithas gynefin gymdogol.

Williams Pantycelyn sy'n dod drymaf o dan yr ordd am sôn yn ei farwnad ar ôl Howel Harris am Gymru "gynt yn gorwedd mewn rhyw dywyll farwol hun, Heb na Phresbyter na 'ffeiriad nac un Esgob ar ddihun".

Ond yna fe ddechreuodd pobl droi at fathau eraill o danwydd, olew yn arbennig, a bu llai a llai o alw am lo, a bu'n ergyd farwol i'r diwydiant.

(Y mae enghreifftiau eraill o hyn yn digwydd, megis y frech goch yn creu epidemig farwol ymysg pobl ynysoedd Môr y De yn dilyn ymweliad Capten Cook, neu siffilis ymysg morwyr Capten Cook yn dilyn eu hymweliad hwy â'r ynysoedd.

Cyn yr ymweliad, yr oedd y ddwy haint yn gymharol ddibwys ymysg y poblogaethau a oedd wedi arfer â hwy, sef y morwyr â'r frech goch a'r ynyswyr â siffilis, ond bod yr effaith ar y boblogaeth newydd yn farwol.)

Yr adeg honno y cyfan a oedd yn angenrheidiol oedd llygad am dir da, a phastwn enfawr i roi'r farwol i'r sawl oedd ar y pryd yn berchennog y tir hwnnw.

Yn Yn ei elfen magodd berthynas glo/ s gyda'i wrandawyr, er bod rhai yn ddig wrtho am roi'r farwol i'w damcaniaethau cartref hwy eu hunain am enwau llefydd ac enwau eraill.