Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

farwolaeth

farwolaeth

mi geuson nhw row wedyn - Mrs Robaits yn deud y basa hi wedi medru tagu i farwolaeth - ond doeddan ni ddim yn medru peidio chwerthin, roedd o mor ddoniol.

Cyhoeddodd Gwynfor Evans ei fod yn bwriadu ymprydio, hyd farwolaeth pe bai raid, hyd nes y câi Cymru ei sianel ei hun.

Mae'r nofel hon, a ymddangosodd cwta fis ar ôl ei farwolaeth, yn un o weithiau llenyddol mwyaf sylweddol ei gyfnod yn yr iaith Lydaweg.

Ond er mai apel gyfyngedig sydd i'r nofel mewn cymhariaethau, mae iddi role ddiwylliannol o bwys, ac mae'n bwysig nad yw'n cael ei gwasgu i farwolaeth am resymau economaidd yn unig.

Daeth y newydd trist y bore yma am farwolaeth un o gewri criced Lloegr, Colin Cowdrey, Roedd yn 67 oed.

Fe ddywedodd un o lenorion mawr Lloegr mai prin iawn fyddai'r beirdd ar ein daear onibai am farwolaeth.

Pedwar achos o farwolaeth amheus a geir yn y gyfrol fach hon.

Roedd gweddill ei wyneb yn fasg difywyd, gyda'r gwefusau di-waed, y trwyn miniog, yr arleisiau wedi pantio a gwaelodion y clustiau yn troi tuag allan sydd yn arwyddion o farwolaeth yn agosau.

Hawdd iawn yw credu fod galar tad ar farwolaeth ei fab yn brofiad sydd yr un fath ymhob oes, ond y gwir amdani yw fod marwolaeth plentyn yn llawer mwy ingol heddiw am ei bod cymaint yn llai cyffredin (yng ngwledydd y gorllewin o leiaf).

Erys, wrth gwrs, yr hawl i rywun i gyflwyno'i gorff, ar ei farwolaeth, i ddwylo meddygon.

Dyblwyd a threblwyd yr emyn a daeth llanc ifanc ymlaen, un nad oedd erioed o'r blaen wedi gwneud dim yn gyhoeddus, a bwrw ati i ddiolch am farwolaeth y Groes ac i weddi%o'n daer am "awel o Galfaria fryn".

Cynorthwywyd ef i ddod allan o'r ffos gan Ernest a'r bonheddwr ieuanc, ac wedi iddo ddod ato'i hun cafodd fod ei geffyl gwerthfawr wedi torri ei goes, ac ebe Ernest: `Wel, wel, mae'r cwbl drosodd efo fo; gadewch i ni ei roi allan o'i boen,' a chan dynnu ei gyllell allan, torrodd y brif wythi%en yn ei wddf, a gwaedodd yr anifail yn fuan i farwolaeth.

Ddeufis ynghynt roedd yr Arlywydd Abraham Lincoln, wedi cael ei saethu'n farw tra'n gwylio drama mewn theatr ac, ychydig ddyddiau ar ôl hynny, fe ddaeth diwedd ar y Rhyfel Cartref a oedd wedi rhwygo'r wlad am bedair blynedd, gan arwain at farwolaeth tua hanner miliwn o bobl.

Un o'r hanesion hynny yw un am farwolaeth gwraig Capten T.

ac mae'n bosibl mai rhagweld dyfodol ansicr yn Awstralia fu'n rhannol gyfrifol am farwolaeth Twm Polion.

nychu a'i gwasgu i farwolaeth gan ormes y pleidiau Seisnig.

Ar sail hyn y cymodwyd dyn â Duw: 'Fe'n cymodwyd â Duw trwy farwolaeth ei Fab trwy'r hwn mae gennym y cymod' (Rhuf.

"Mae'n dda fod dŵr y môr yn gynnes hefyd yn y rhan yma o'r byd neu mi fuaswn wedi rhewi i farwolaeth," meddyliodd.

Dywedid ei fod yn cynllwynio'r olyniaeth yn ei fab Dafydd, ond pan fo symudiadau'r amseroedd ac uchelgais dynion fel olwynion yn troi, ni all neb warantu'r un ufudd-dod yn ei farwolaeth.

Yn amlwg mae'r firws hwn yn un peryglus iawn a heintiad ganddo'n gyfystyr â dedfryd o farwolaeth i fwyafrif helaeth y cleifion.

Mae'r diweddglo rhethregol yn cwblhau'r broses o dderbyn y farwolaeth trwy ffarwelio'n ffurfiol â'r gyfathrach a fu rhwng y bardd a'i fab, gan gyrraedd uchafbwynt hynod effeithiol gyda'r cyfarchiad syml a thyner, 'Siôn fy mab'.

Y bore y clywsom am farwolaeth Tom yr oeddem ein dau - dau o flaenoriaid iau yr Eisteddfod - yn ystafell Bedwyr yn y Coleg, wedi'n syfrdanu gan y newyddion am ei ddamwain angheuol.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Gwynfor Evans yn bygwth ymprydio hyd farwolaeth oni fyddai'r Llywodraeth yn newid ei meddwl ac yn dilyn ei maniffesto ynghylch sefydlu sianel deledu Gymraeg yng Nghymru.

Marwolaeth Trist oedd clywed am farwolaeth sydyn John Lewis a fu ar staff llyfrgell Pencoed am flynyddoedd cyn ymddeol.

roedd ganddi hi waith pwysig i'w wneud efallai y byddai hi'n gallu helpu lopez i ddal y rheini oedd yn gyfrifol am farwolaeth betty a susan.

Parhaodd yr ysgolion cylchynol hyd at farwolaeth Charles, ac am ychydig ar ôl ei farw.

Dyma'r frawddeg sydd ganddo i gloi'r ysgrif: 'Yn ei farwolaeth collodd llenyddiaeth un o'i charedigion pennaf, er na chwanegodd nemawr ati, a theilynga gongl fach ganddi hithau i'w goffadwriaeth.'

Mae pethau'n dechrau torri lawr rhyngon ni - elli di ddim gwadu hynny - a wela'i ddim sut y gall gadael i'n cariad ni farw gyfrannu mewn unrhyw ffordd at wneud iawn am farwolaeth Heledd." Rhedodd Marc ei fysedd drwy ei wallt du, cyrliog a dechrau cerdded yn ol ac ymlaen ar draws yr ystafell.

Dau grŵp sydd: Gŵr Glangors-fach a'i ddwy ferch, etifeddion y bobl a blannodd y gors a gwneud tyddyn; a dau frawd, sydd wedi priodi dwy chwaer, a chymryd y tyddyn ar les ar farwolaeth yr hen ŵr.

A phrofiad felly oedd clywed am farwolaeth yr enigmatig John Eilian, newyddiadurwr a llenor o faintioli sylweddol iawn.

Gwrthdystio yn Prâg wedi i Jan Palach ei losgi ei hun i farwolaeth mewn protest yn erbyn goresgyniad Rwsia.

Mewn un gwersyll, cwerylodd dau ddyn wrth iddyn nhw baratoi bwyd a chafodd un ei drywanu i farwolaeth.

Terfysgoedd yn Belfast wedi i Bobby Sands, Francis Hughes, Ray McCreesh a Patrick O'Hara ymprydio hyd farwolaeth.

Yn ôl ymchwil newydd gan ysgolheigion yng Nghaer-lyr a Sheffield, gellir tybio mai Chaucer ei hun oruchwyliodd beth o waith copïo a golygu y llawysgrif cyn ei farwolaeth ar Hydref 25, 1400.

'Roedd Charlie'n llofrudd ac mewn ffrwgwd gyda Mrs Mac ar do capel lleol disgynnodd Charlie i'w farwolaeth.

Ysbrydolwyd y gerdd gan farwolaeth glöwr 48 oed, aelod o gapel y bardd a chyfaill iddo, a fu farw o glefyd y llwch.

A thestun ei orfoledd yw fod Iesu Grist wedi cymryd y bai am ein pechodau a marw'r farwolaeth yr oedd ef, y pechadur, yn ei haeddu.

Tristwch mawr oedd clywed am ei farwolaeth ddisymwth.

Trwy hyn gweithredwyd y cyfiawnder dwyfol, cyfiawnder a gyfrifwyd i'r sawl a ddeuent i gredu yng Nghrist: 'Cafodd Iesu ei draddodi i farwolaeth am ein camweddau, a'i gyfodi i'n cyfiawnhau ni' (Rhuf.

Efallai y byddai ef yn dweud maidyma'r ffordd i gadw'r rhosyn yn ei galon, ac am beidio â phoeni am ei farwolaeth.

Danid Rowland a gyhoeddodd fwyaf, ond yn ôl ei gofiannydd diweddaraf, nid oes ar glawr fwy nag un ar ddeg a gyhoeddwyd yn ei ddydd, ac ymddangosodd y ddeuddegfed ymhen rhai blynyddoedd ar ôl ei farwolaeth.

Am hyn, dedfrydwyd ef a Nestor i farwolaeth gan y Rhufeiniaid.

Pan daeth y meddyg ataf - merch - i roi'r rheswm am ei farwolaeth gofynnodd yn annwyl a oedd gennyf rywbeth arbennig y buaswn yn hoffi ei roi amdano.

"Ches i ddim fy lladd gan y siarc, a dydech chwithau ddim am gael cyfle i'm mygu i farwolaeth chwaith!" gwaeddodd, gan gicio eto a tharo yn eu herbyn.

Bu'n beirniadu cystadleuaeth y Gadair bron bob blwyddyn o droad y ganrif hyd at ei farwolaeth ym 1929, a cheisiodd arwain y canu caeth o'r diffeithwch yr oedd ynddo ar y pryd.

Gwynfor Evans yn bygwth ymprydio hyd farwolaeth oni fyddai'r Llywodraeth yn newid ei meddwl ac yn dilyn ei maniffesto ynghylch sefydlu sianel deledu Gymraeg yng Nghymru.

Sylweddolais chwerwder y golled a gawswn yn ei farwolaeth, a theimlais fy hun yn unig a di-gefn.

Ers amser cyn ei farwolaeth caniatâi'r rhyddid mwyaf i mi; ac ni fyddai'n gofyn imi wneud ond y nesaf peth i ddim yn y siop os gwelai fi'n ddiwyd gyda'm llyfrau, ac nad oeddwn yn segura.

Yr wyf innau'n un o'r lleiafrif hurt sy'n gweld ynddo farwolaeth barchus ac esmwyth ac angladd ddialar i'r Gymraeg.

Ym mhlwyfi Talybont a Phenllyn rhewodd yr hen bobol a'r plant bach i farwolaeth a daeth llwynogod i lawr o'r Gader i'r dref i chwilio am fwyd.

Roedd pawb yn disgwyl y byddai'r cowmon ryw ddiwrnod yn colli'i dymer a churo'r fenyw annioddefol i farwolaeth.

Ras Tafari, brenin Ethiopia, yn dod yn ymherawdr ar farwolaeth yr ymerodres Zauditu, ac yn mabwysiadu'r enw Haile Selassie, 'Grym y Drindod'.

Whitehall a Westminster sydd yn y cyfrwy a cheisiant farchogaeth y genedl fach hon i farwolaeth.

Cynrychiolwyd y Tabernacl yn yr oedfa hon gan Rhuanydd Butcher a Donna Howard Marwolaeth Blin oedd gyda ni glywed am farwolaeth Mr Rhys Jenkins, Cheltenham Rd.

Galaru'r golled i Gymru drwy farwolaeth Llywelyn saith gan mlynedd ynghynt a wnaeth Gerallt Lloyd Owen, gan ofidio ar yr un pryd am amharodrwydd Cymry ei ddydd i dderbyn unrhyw ffurf ar hunan-lywodraeth.

Ar farwolaeth John Thomas y cyn-denant ymfudodd ei briod a'i phlant i America gan adael llawer o fanion bethau ar ôl.

Cwblhaodd Ieuan Gwynedd ei gerdd olaf - a'i orau - dridiau cyn ei farwolaeth ac anodd peidio â chredu nad yw 'Cân y Glo%wr' yn tystio'n groywach i realiti bywyd yng Nghymru na 'Bythod Cymru'.

Pan glywodd fy mrawd-yng-nghyfraith y newydd am ei farwolaeth ar y teledu dywedodd wrth ei wraig fod "y dyn 'na a arferai gadw gôl i Amlwch wedi marw." Dyna'n union y math o stori y byddai BLJ wrth ei fodd yn ei chlywed, ac wrth ei fodd wedyn yn ei hailadrodd.

(Gellid dadlau fod y cyfeiriad at Fair yn awgrymu'r atgyfodiad ac felly'r bywyd tragwyddol sydd i enaid Siôn, ond ni allai hwnnw fod yn fwy nag awgrym cynnil.) Fe ddichon fod y bardd yn credu y byddai'r plentyn diniwed yn mynd yn syth i'r nefoedd, ac nad oedd angen ei weddi yntau arno, ond yr un mor bwysig â diwinyddiaeth y bardd yw'r olwg ar farwolaeth a gyfleir yma.

Pryddest am ddiboblogi cefn-gwlad, wrth i'r ddinas hudo trigolion y wlad, ac am farwolaeth hen ffordd o fyw.

Ynddo, yn gyntaf, ceir hanes ei fywyd gan gyfeirio at nifer o englynion gan amryw o feirdd fel John Jones Caeronw, a luniwyd er coffâd iddo adeg ei farwolaeth.

Fel y gwaredodd Duw Israel o'r Aifft â gwaed ŵyn y pasg yn amddiffynfa i'w phlant rhag angau, gwaed Crist bellach sy'n cadw'r ffyddloniaid rhag rhaib y farwolaeth sy'n ffrwyth pechod.

Cyhoeddi'r farwolaeth heb unrhyw drimins oedd yr arferiad.

Gwylltiai hefyd pan gyhoeddid dedfryd megis 'Marwolaeth drwy ddamwain' neu 'Marwolaeth drwy ymyrraeth Duw' ar ddiwedd cwest i farwolaeth glo%wr, ac yntau'n gwybod o'r gorau mai esgeulustod y meistri oedd yn bennaf cyfrifol am y drychineb.