Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fasa

fasa

Pe bai'n rhaid i mi ddewis rhwng y frech goch a chwmpeini Matthew'r Sgidia', mi fasa'n well gen i y frech goch." Chwarddodd Rees.

Ac mi fasa'n o ddrwg ar aml un ohonom ni oni bai am y rheiny.

Petasa posib iddo fo brynu rhagor o lygada i rhoi yn i ben mi fasa'n gwneud hynny, er mwyn gwatsiad rhag ofn bod rhywun yn dwyn." A chwarddodd Jane Gruffydd.

Dyma un o'r bechgyn o Lanfair yn rhoi un dda yn ôl imi trwy ddweud: 'Petaech chi'n troi hogia' Pen â'u pennau i lawr, fasa'r un geiniog yn syrthio o bocedi'u Oxford bags nhw!' Dyna'r fath le oedd y chwarel; os oeddech chi'n tynnu un goes roeddech chi'n siwr o gael y llall yn ôl.

'Mi fasa'r ffrog werdd 'na'n dy siwtio di i'r dim.

Ond wedyn tasa fo'n hen, fasa fo ddim yn ca'l gyrru moped!

'Ond mae o'n werth 'i bwysa mewn aur er hynny, er 'i fod o mor dew a thrwm.' 'Mae'n biti na fasa fo wedi priodi a chael rhywun i ofalu amdano fo,' sylwodd Mrs Richards.

"Wn i ddim fasa chi'n licio peth," meddai, "fasa fo'n wahaniaeth yn y byd gen i ddwad â dau." "Ardderchog, Mrs Roberts," meddwn innau'n ddigon awchus.

''Fasa 'rhen dlawd yn medru hel y ffers 'tasa hi'n cal benthyg pynsiar gin y Paraffîn.' Daeth yn dro i'r wraig anwybyddu sylw'r gwr a cherddodd yn fân ac yn fuan i gyfeiriad y gegin allan.

Mi fuon nhw'n rhedag ar ein hola ni'r genod wedyn, yn trio tynnu Mrs Robaits efo ni, edrach fasa hi'n mynd i ganol y dŵr.

'Ti a dy gath!' atebodd Alun yn bryfoclyd, 'mi fasa'n well i ti gael ci fel Bob ni, maen nhw'n llawer callach na chathod.'

Erbyn y pumed ty bwyta, a'r galon yn reit uchel, fasa hi ddim gwahaniaeth gen i tasa'n rhaid bwyta yng nghwmni llond ystafell o greaduriaid o blaned arall ar nos Calan!

Het a gwasgod Pwy fasa'n meddwl fod het a gwasgod yn bethau mor hanfodol bwysig i bregethwr, yntê?

Ond dyna oedd y peth rhesymol oherwydd diffyg pres a diffyg niferoedd, mi fasa'n gwneud synnwyr i ni gyd gyfarfod ar y Sul yn un Eglwys yn Aberdaron.

Trodd y Priodor ato a gofyn: 'Fasa chi ddim yn gneud cymwynas â mi?'

Mi fasa hynny'n neis iawn.'

"Pwy fasa'n medru darllan ei negas hi heddiw?" medda fo.

Pwy fasa wedi dychmygu ar ddechrau'r tymor y byddai Lerpwl wedi ennill tri chwpan.

Mae'n dda nad oedd y cūn yn deall yr iaith ar lawer i fferm bryd hynny, neu fasa'r un ci byth yn "aros yn ei le%.

Ma' rhywbeth yn stico mas o'r ddaear!' Ond cyn iddi gael mwydro mwy a mynd yn ôl i astudio'r fangre, gofynnodd Ifor iddi: 'Fasa chi'n licio panad o dê?'

Wyt ti am roi i mewn a gwerthu'r hen le?" "Mi fasa'n chwith iawn...

'Mi fasa' brefu yn nes ati!

Tydi o'n biti na fasa hithau'n gallu eu gweld?

'Ond pwy fasa'n ddigon gwrol i hynny, wn i ddim, wir ...

'Fasa' hi'n rwbath gynnoch chi, Ifan Ifans, i fynd â'r hwch 'ma a finna' heibio i Gerrig Gleision?

'Tasach chi heb fod mor dwp â syrthio yn y siwt haearn 'na, fasa neb ddim callach.

Mi fasa dwy gêm yn erbyn Celtic yn ein cael ni allan o'r twll ariannol bregus yr ydan ni ynddo fo.

'Taswn i'n dy le di, del,' meddai'r swyddog yn fychanus, 'mi faswn i'n ei throi hi'n ôl i chwarae hefo dy ddolia achos dim ond tamaid io aros pryd fasa peth fach tlws fel ti i Caligwla fan hyn, yntê, 'ngwash i?' meddai wrth yr hyllgi glafoeriog o flaen Elen.

Dyna fasa'r feddyginiaeth." Wn i ddim oes gynno fo siârs yn y bysnas ai peidio, neu ei fod o yn rhyw fath of Fesyn.

Roedd yna bentref o'r enw Yr Adfa rhyw bedair milltir o Manafon, a thu draw i fanno roeddech chi'n teimlo eich bod chi yn y Waendir, a'r ychydig bobl fasa chi'n cwrdd a nhw yn Gymry Cymraeg.

'Mi fasa'n braf inni gael siop tships yn y pentref,' meddai Robat John.

Fasa neb yn ei chlywad hi heblaw y rhai fasa'n eich hambygio chi.

Tasa ganddi hi warthag 'run fath â s'gynnan ni fasa dim rhaid iddi hi.

Roedd yn rhaid iddo fo chwalu'r cawg Kemper am fy mhen neu mi fasa rhywun wedi 'nghlywed i.

'Pa floda ydach chi isio?' 'Fasa well i mi ddod allan i weld?'

Wel, 'fasa nhw ddim yn gneud mwy o hylabalw 'daswn i wedi torri pen Huws y Siwrin hefo'r gyllall grampog.

"Ia i hon," medda fi, a dyma fi'n dangos fy mhib iddi hi, ac mi ddeudais hanas y plisman hwnnw a phob dim - fel yr oedd o wedi gyrru dau foto i wyneba'i gilydd, a pha mor uchal oedd y trethi, i edrych fasa hynny'n tynnu deigryn o'i chalon hi.

"Biti 'na fasa chi wedi dwad ymlaen i gyfarfod Deilwen," sibrydai Menna, 'Does dim byd yn ffroenuchel ynddi, a mae hi'n meddwl y byd o gael actio yma." "Beth am Lewis Olifer?