Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fasnach

fasnach

Dywedodd cadeirydd yr awdurdod, Syr David Rowe-Beddoe: Mae twf y gwasanaethau ariannol ac e-fasnach yn hanfodol er mwyn gwneud Cymru'n fwy llewyrchus.

Synfyfyrio wedyn am orchest David Davies yn y De gyda'r Fasnach Lo a Dociau'r Barri.

Pedro Bisset Puebla oedd pennaeth brigâd Gweinyddiaeth Fasnach y llywodraeth.

Yn wir, pan awgrymwyd bod y fasnach yn rhy beryglus ac y dylid ei hatal, dywedodd Thomas Grey, ysgrifennydd cynorthwyol i'r Bwrdd Masnach, "Credaf nad 'peryglus' yw'r gair cywir.

Erbyn hyn nid oedd neb yn defnyddio hen lwybr y fasnach gaethweision a redai o berfeddion Affrica i'r Aifft a thu draw.

Er gwaethaf llwyddiant etholiadol y Bloc, ni all plaid ffederal ddod â sofraniaeth i Que/ bec yn uniongyrchol, dim ond y senedd yn ninas Que/ bec gwþr busnes o Dwrci ac Iran eisoes yn y wlad yn elwa ar gysylltiadau oesol â'r hen ffordd sidan, ac yn awr yn sugno i'w côl fasnach oedd gynt dan reolaeth ganolog Moscow.

Nid oedd gennyf ronyn o chwaeth at fasnach, ie yr oedd ynof wrthwynebiad mawr iddi; a theimlwn nad arnaf fi yr oedd y bai fy meistr Abel oedd wedi fy arwain i hyn, ac wedi creu ynof ddiflastod at fusnes a chyfeirio fy nhueddiadau at bethau eraill.

Wrth gwrs cynyddu wnaeth y fasnach yn yr harbwr fel y daeth pobl i wybod amdano.

Er bod yr harbwr yn llawn o longau masnach yn chwifio baneri morthwyl-a-chryman yr Undeb Sofietaidd, roedd America yn gwahardd unrhyw fasnach rhyngddi a Chuba, ac roedd yna brinder pob math o bethau.

Yn y fasnach drionglog hon, cludid nwyddau a gynhyrchid yn ardaloedd diwydiannol Lloegr i orllewin Affrica a'u cyfnewid yno am gaethweision.

Roedd y twf ym mhwysigrwydd Lerpwl fel porthladd, yn ogystal â'i rhan yn y fasnach gaethweision annynol, hefyd yn hwb i ddatblygiad Ynys Môn.

Roedd yn arferiad gan setwyr o chwareli ithfaen symud o le i le pan oedd y fasnach sets wedi arafu ac fe gawn fod amryw yn mynd dros y dwr o Drefor o dro i dro.

Syniwn os arhoswn gyda Miss Hughes y byddai holl ofal y fasnach yn disgyn arnaf, oblegid nad oedd Jones ond mater o fixture defnyddiol.

Rhagor o ddatganoli wrth i fasnach a diwydiant gael eu trosglwyddo i ofal y Swyddfa Gymreig.

Pobol groesawgar ydi trigolion Santorini – ac mae'n braf gweld na lyncwyd y lle gan fasnach.

POLISI PRYNU: Derbynia'r Grwp gyngor oddi wrth yr Adain Gefn Gwlad, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a chyhoeddiadau ar fasnach ynglŷn â'r graddau y mae cynhyrchion a ddefnyddir ac a argym hellir eu defnydd gan eraill yn dderbyniol i'r amgylchedd.

Roedd hwn yn ateb dibenion y fasnach yn well gyda doc mewnol a gatiau trymion i gronni'r dþr fel bod llong yn medru cael ei llwytho beth bynnag oedd stad y llanw a'r offer diweddaraf i hwyluso'r gwaith o drafod a llwytho'r llongau.

Os alla i ddal fy ngafael yn honno, fe fydd rhywun yn sicr o'm tynnu'n ôl i mewn ar ddec y British Monarch." Wrth lwc, a chyda chymorth y lamp fawr oedd yn goleuo starn y llong fasnach, fe ddaeth o hyd i'r wifren.

I'r tadau Methodistiaid Calfinaidd ym Mon, ac yn wir ym mhob ardal yng Nghymru bron, roedd Gwyddelod a Phabyddion i'w hosgoi ar bob cyfrif, ac felly roedd llongau Cymreig yn perthyn i Fethodistiaid Calfinaidd Cymraeg, gyda chapteiniaid a swyddogion a oedd yn aelodau o'r un enwad, yn llawer mwy deniadol na llongau porthladdoedd Lloegr a oedd yn llawn o Wyddelod tlawd, afiach.Dyma pam y daeth llongau Davies Porthaethwy mor boblogaidd a chawsant lwyddiant ysgubol yn y fasnach i Ogledd America, gyda'u llongau'n cludo llechi ac ymfudwyr i Quebec, Efrog Newydd a New Orleans, ac yn dychwelyd gyda llwythi gwerthfawr o goed Gogledd America i adeiladu tai a llongau yn yr hen wlad.

Ffurfiwyd TAC yn 1982 fel cymdeithas fasnach i gynrychioli buddiannau cynhyrchwyr annibynnol syn cynhyrchu rhaglenni ar gyfer darlledwyr Cymreig, S4C, BBC Cymru a HTV Cymru.

Dengys ymchwil gan Siambr Fasnach Llundain fod oriau hir yn y gweithle yn amharu ar iechyd saith allan o ddeg o weithwyr ac ar eu perthnasau personol.

Taflenni hysbysebu yw rhai ohonynt a fawr ddim newyddion na deunydd golygyddol tra ceir eraill sy'n olynwyr i bapurau y telid amdanynt gynt ond sydd wedi penderfynu ymuno a'r fasnach ddosbarthu rhad - yn hynod o debyg i'w rhagflaenwyr.

Mae'n hollol wir y bu esgeuluso ar y Gymraeg gan lywodraethau, gan fasnach a diwydiant, gan y banciau a'r Bwrdd Croeso a British Telecom a'u bath þ a chan fudiadau, sefydliadau a chymdeithasau eraill.

Dan y ddeddf hon gall Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Fasnach roi gorchymyn i ddiogelu safle rhag unrhyw ymyrraeth gan bobl nad oes hawl ganddynt.

Roedd hwn yn ateb dibenion y fasnach yn well gyda doc mewnol a gatiau trymion i gronni'r dŵr fel bod llong yn medru cael ei llwytho beth bynnag oedd stad y llanw a'r offer diweddaraf i hwyluso'r gwaith o drafod a llwytho'r llongau.

Cost y Rhyfel i Gymru: lladd 20,000 yn y Lluoedd Arfog a'r Llynges Fasnach; 1000 wedi eu lladd yn y bomio; tua 350,000 o 'faciwis wedi dod i Gymru, a'r Swyddfa Ryfel yn meddianu 200,000 erw, sef 10%, o dirwedd Cymru.