Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

faswn

faswn

Dyna fo i'r dim - Alwyn Hughes Thomas - mi faswn i wrth fy modd yn cyhoeddi enw fel yna.

Mi faswn wedi rhedeg y bore yma, ond mae rhywbeth ar yr hen fuwch yma." "Tewch chitha." "'Does dim llawer o helynt.

Maen nhw'n ofnadwy o gryf ac yn ddeallus iawn, fel chimpanzees ar y Ddaear, er faswn i ddim yn lecio cael te parti hefo nhw.

mi faswn i wedi rhoi rwbath am iddyn nhw gael dwad efo fi.

"Ond faswn i ddim yn licio i neb gael cyfla i intyffirio hefo o'ch blaen chi." Ac ar ôl hynny, y fi oedd y dyn i gyd, all the rage, chwadal nhwtha, a fynna hi neb i fynd â hi i'r Disco ond y fi, ac yno y buon ni tan yr oria mân.

Wel mi gan nhw eu gorfodi dwi'n credu, gan amgylchiadau, i ddod i delerau efo'r sefyllfa oherwydd faswn i'n meddwl, er na allaf siarad o brofiad, ymhlith yr hen oedd y styfnigrwydd yma, yr hen bobl yn ei chael hi'n anodd i symud a newid enwad, neu newid adeilad, addoldy, ond tydi bobl ifanc yn malio fawr ddim am bethau fel hyn, a 'dwn i ddim beth fydd dyfodol yr Eglwys neu'r Capeli os ydi'r bobl ifainc yn troi i fod yn Gapelwyr neu Eglwyswyr unwaith eto.

ond faswn i ddim yn derbyn mai g'm yw'r cyfan, nid y cyfan.

'Ddyliwn fod wedi chwilio am garrag lai.' 'Faswn i'n meddwl wir.

Mi faswn i'n proffwydo bod iti ddyfodol disglair - hefo'r Rechabiaid, ond nid yn swyddfa'r Gwyliwr.' Prysurodd Dan i egluro.

I fwy o drybini, faswn i'n dweud.

"Mae pethau'n dechra poethi erbyn hyn," meddai, yn ei ffordd gyfeillgar, "Ddowch chi ddim draw i'r ysgol nos 'fory?" 'Does gen i ddim llawer o awydd." "Mi faswn i'n licio i chi fod yno pan ddaw Lewis Olifer a Deilwen Puw am y tro cynta'." 'Fyddan' nhw yno nos yfory?" "Byddan.

'Tasai rhywun yn ceisio fy mygio i, mi faswn i'n gwasgu ei beli o nes y basen nhw'n slwj.' Dyna fyddai ei eiriau.

'Na faswn, yn hollol.

Mi faswn i'n leicio gwybod." Ac ar Faes yr Eisteddfod, fydd neb yn gwybod chwaith - yn groes i arfer y blynyddoedd diwetha', fydd y Bwrdd ddim yno gyda'u logo coch a gwyrdd, sydd un ai'n groes neu'n saethau'n mynd ar i mewn.

'Faswn i'n hoffi cwrdd â'r bachgen, y bachgen sy'n gwitho 'da chi, Mr Huws.' byrlymodd ar ei draws.

Faswn i byth yn lecio byw yn un ohonyn nhw.

Taswn i heb weithredu mi faswn i'n derbyn yn dawel y math o ddyfodol addysgol mae'r Blaid Dorïaidd yn ei wthio ar Cai, ei ffrindiau, a holl blant a phobl ifanc Cymru.

Bechod na faswn i'n eu nabod i gyd.

Faswn i feddwl nad trwy anfon lluoedd arfog yno y mae datrys problem y trueiniaid hyn ond trwy of alu nad yw arfau rhyfel yn mynd yno.

Rydw i'n difaru 'nghalon na faswn i wedi dysgu tipyn o Gymraeg iddyn nhw.

'Taswn i'n dy le di, del,' meddai'r swyddog yn fychanus, 'mi faswn i'n ei throi hi'n ôl i chwarae hefo dy ddolia achos dim ond tamaid io aros pryd fasa peth fach tlws fel ti i Caligwla fan hyn, yntê, 'ngwash i?' meddai wrth yr hyllgi glafoeriog o flaen Elen.

Petait ti wedi dy frolio dy hun, mi faswn wedi ysgwyd llaw hefo ti ers meitin.

'Tasa hi'n ola' dydd a finna' ar 'y nhraed, mi faswn i'n 'nabod Pen Cilan 'ma fel cefn fy llaw.' 'Wel diawl, gwaeddwch os gwelwch chi o yn rwla.' 'Mi 'na i, Ifan Ifans.' Oherwydd eu difyrrwch wrth weld hwch a'i pherchennog yn eistedd yn y sêt flaen bu'r teithwyr yn hir cyn sylweddoli bod y Paraffîn wedi cymryd tac gwahanol a'u bod bellach yn pellhau oddi wrth y pictiwrs yn hytrach na dynesu ato.

Fe faswn i'n bod yn anonest pe na bawn i'n cyfadde ei fod yn cael effaith arna i fel pawb arall yng Nghymru.

Cofia di, mi faswn i'n siŵr o dy golli di.

`Petasech chi'n siarad fel yna efo fi yn rhywle heblaw yng nghwmni boneddigion fel hyn, Harri, mi faswn yn eich taro yn eich ceg,' ebe Ernest.

Mi faswn i wedi disgwyl i un o'r staff o leia' holi 'helô, pwy ydach chi?' Mi fydda' i'n mynd yn ôl atyn nhw a holi pam fod hyn wedi digwydd.

Mae arnaf i eisio iti gael crefft.' 'Mi faswn i'n leicio bod yn saer ym Mhenmaenmawr' Roedd yna siop saer fawr pryd hynny yn perthyn i Hugh Williams, ac fe aeth Mam ato i holi a oedd ganddo le i brentis.

A lle faswn i'n cael gafael ar chwisgi?

'Tasa fo wedi gofyn imi fabwysiadu enw'r Gŵr Drwg ei hun mi faswn wedi cytuno er mwyn cael cyhoeddiad i'r Capel Mawr.

'Mi faswn i'n stwffio fy mysedd i'w ben o nes y byddai ei ddau lygad o'n hongian hanner ffordd i lawr ei foch.

Tasa hi ryw dro yn fy nghynnig i, mi faswn yn brwydro i'r pen.

O, mi faswn i'n eu cadw nhw, meddyliai Heledd.

Rw'i bron na faswn i'n gallu'i gweld hi, weithie.

"Mi faswn i'n licio riportio fy mhysan." Dyma fo'n edrach arna i, fel gwelsoch chi glagwydd wedi gweld draenog.

Mi faswn i'n leicio...'

Ac mi faswn i wrth fy modd yn tanio'r ffiws." "Oes modd cael gair a'r bachgen?" gofynnodd Snowt.

Faswn i'n ôl yn lle dw i fod - a lle dw i'n trio mynd iddo fo ers dyddia!' Gostyngodd Myrddin ei lais.

'Faswn i byth yn medru byw mewn dinas,' meddai.