Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fater

fater

Codi'r Gymraeg yn brif fater gweinyddol y dosbarth a'r sir.

Yn ein rhan ni o'r cosmos mae un math o ronynnau, ond y mae'n bosib canfod a chynhyrchu gwrth-ronynnau (electron/positron) ac fe ddichon bod nifylau a galaethau i'w cael rywle yn y gofod wedi eu gwneud o chwith-fater neu wrth-fater.

Y ffordd ymarferol i'r Cynulliad gefnogi'r iaith yw datgan ei hawl foesol i ddeddfu ar fater y Gymraeg yn hytrach nac ymddiried y mater i San Steffan.

Mae llawer o fudd mewn datblygu lloches newydd gyda chymdeithas tai, boed yn fater o adfer hen adeilad neu adeiladau o'r newydd.

Rhaid chwalu'r myth mai rhywbeth personol yn unig yw iaith a'i bod yn fater o gydwybod neu yn ddewis personol.

'Roedd y Gymraeg bellach yn fater politicaidd.

Yr oedd angen caban 'mochal ffiar yn un o'r ponciau, caban go helaeth i lochesu tua deg ar hugain o ddynion, ac yr oedd yn fater o frys.

Ond, ar hyd yr amser, mae hynny wedi bod yn fater o anfon newyddiadurwyr cyffredinol allan i wneud stori arbennig mewn lle penodol.

Mae sut i drosglwyddo'r gofynion ymhob pwnc yn brofiadau dysgu effeithiol yn fater i ysgolion ac athrawon eu hystyried.

Beth bynnag, er nad yw'n fater gwleidyddol llosg heddiw, fe fu adeg pan oedd telerau tenantiaeth o dan 'landlord' yn rhai anodd; ond bellach mae'r gyfundrefn wedi newid, a'r rhan fwyaf o'r ffermwyr a'r tyddynwyr yn berchen eu lle; a chyfrifir y cynllun hwn yn un delfrydol.

Yn y cyfarfod rhybuddiodd DJ Williams, Abergwaun, dan gyfarwyddyd JE yn ddiau: "Pe byddem ni ym Mhlaid Cymru, neu unrhyw blaid arall, yn gwneud y Ddeiseb yn fater plaid,-byddai'n ddinistr sicr i'r ddeiseb honno%.

Meddai: "Y mae hunan lywodraeth seneddol i mi yn fater o gydwybod Gristnogol" Gwelai Syr Ifan ab Owen Edwards ddisglair olau 'mlaen.

Gwelwyd hyn yn neilltuol yng Ngweithgor y Genhadaeth Gartref yn ystod y blynyddoedd diwethaf oherwydd yr oedd ceisio ymateb yn greadigol i'r argyfwng ysbrydol yn yr eglwysi a'r wlad yn fater agos iawn at ei galon.

Oherwydd hynny, pan fyddai'n fater o frys, a gorchwyl arbennig i'w gwblhau ar unwaith, byddai'r stiward yn gosod y gwaith 'ar gontract' i Francis gan wybod y byddai'r adeilad ar ei draed mewn chwinciad .

Rwy'n tybied fod yna fater ychwanegol, siŵr o fod, ydach chi ddim yn meddwl?'

Maen fater o farn a yw'r gwr a ddaeth yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn haeddu y fath deyrnged ac y maen destun dadl air trwy gyfres deledu o'r fath y dylid talu'r deyrnged honno i arweinydd gwleidyddol, beth bynnag.

Mae'n fater o bryder mawr o gofio'r holl fynd a dod sydd i ysbyty mawr fel hwn.

UNRHYW FATER ARALL Cynigiodd Val Hill bleidlais o ddiolch i Ellen ap Gwynn am ei gwaith dros y blynyddoedd.

Y peth sy'n rhoi min ar y genadwri Gristionogol mewn unrhyw oes yw'r argyhoeddiad fod ei derbyn neu ei gwrthod yn fater o dragwyddol bwys.

'Na, alla'i ddim,' meddai eto, 'achos hyd yn oed os ydi Huws Parsli'n dweud y gwir - ac mae gennyf f'amheuon - hyd yn oed wedyn rwy'n credu fod yna fater bach arall ar ôl, yn toes?

Felly roedd yn fater o beth brys ein bod yn mynd i'w weld cyn i hynny ddigwydd.

Megis yr ymosododd Evan Evans ar yr Esgyb Eingl yr ymosododd Emrys ar achosion Seisnig ei enwad a mynd rhagddo i ddadlau mai'r iaith Gymraeg oedd prif fater politicaidd Cymru a chraidd ei bod, mai eilbeth oedd pob problem boliticaidd wrth hon.

Mae hyn oll yn dod yn fater brys iawn erbyn hyn oherwydd - cyn diwedd 1999 - mi fydd yn rhaid i bob ysgol wledig (yn ôl statud) ffurfio ei Bwrdd Llywodraethol unigol.

Daeth paraseicoleg hefyd yn bwnc sy'n cael mwy a mwy o sylw, gyda llawer yn ymddiddori'n arbennig mewn amgyffred uwch synnwyr - y gallu i amgyffred heb ddefnyddio'r pum synnwyr arferol: golwg, clyw, blas, teimlad ac arogli - (ESP) yn ei amryfal ffurf: telepathi; rhagwelediad (precognition): clirolwg ( y gallu i weld yr hyn sydd o'r golwg); clirglyw (y gallu i glywed yr hyn sydd y tu hwnt i'r clyw arferol); gweld paroptig neu weld heb lygad (y gallu i weld drwy groen); a meddylnerth (y gallu i effeithio'n uniongyrchol ar fater, megis ei symud, ac i allu dweud hanes gwrthrych drwy ei ddal yn y llaw yn unig).

Y cwbl a ddaliaf i yw mai dyna'r unig fater politicaidd y mae'n i Gymro ymboeni ag ef heddiw.

Ergyd arswydus sydd i englynion Williams Parry, ond yma mae'n fater o gyfleu'r berthynas glos rhwng y tad a'r mab, fel petai Siôn yn dal i fodoli yn ymwybyddiaeth ei dad - ymdeimlad sy'n gwbl ddilys yn seicolegol wrth gwrs.

Rhywbryd, rhywdro fe fu ffrwydriad mawr o holl fater y cread i wneud y galaethau, y ser a'r planedau.

Dyna pam y mae cael awdurdod teledu a darlledu annibynnol i Gymru yn fater byw neu farw i'r iaith.

Mewn termau amrwd, ac y mae gwleidyddiaeth yn fater amrwd weithiau, y mae ymreolaeth yn golygu trosglwyddo rheolaeth dros fantolen flynyddol o tua biliwn o bunnoedd; nid rhyw fanion pitw yr ydym yn eu ceisio!

Dydi o ond yn fater o amser nes bydda nhw ar y gêm.

Ond y mae'n amlwg nad oedd Eden mewn cyflwr i wneud penderfyniadau doeth, pwyllog a chytbwys ar unrhyw fater yn ystod y cyfnod hwn.

Gofynnodd yr aelodau am i bapur polisi ar fater Cyflogaeth a Datblygiad Diwydiannol gael ei baratoi a'i drafod cyn i unrhyw bolisiau gael eu cynnwys yn y Cynllun Lleol.

Bu mesur ei gyflymdra yn fater o ddryswch i aml wyddonydd tan ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, pryd yr amcangyfrifwyd ei gyflymder yn llwyddiannus.

Ond daliodd Waldo at ei fater a dweud ei fod am brynu'r lamp ond nid oedd dim yn tycio - 'roedd y siopwr wedi penderfynu nad oedd arno mo'i heisiau!

Dyma fater a grybwyllwyd yn barod, ac un sy'n fyrdwn parhaus trwy rifynnau Tir Newydd.

Heddiw mae'n fater o agor carchardai a chau capeli.

Mae cyrff a chwmnïau sy'n gweithredu yng Nghymru yn gweld bod yn rhaid iddyn nhw weithredu yn Saesneg, ond maen nhw'n gweld gweithredu yn y Gymraeg neu'n ddwyieithog fel rhywbeth sy'n fater o ddewis iddyn nhw.

Nid ydym yn disgwyl i blant gymryd y cyfrifoldeb hwn am unrhyw fater arall.

Unrhyw fater arall.

Felly yn yr act gyntaf mae tair thema yn gwbwl glir, bod yna ymosod yn mynd i fod ar bopeth Cymraeg, bod yna ymosod i fod ar Ymneilltuaeth, a bod y cyfan yn fater gwleidyddol yn y bôn.

Dichon fy mod yn camddeall, ond mi gymerais i hyn i olygu ein bod ni, feidrolion, fel popeth arall a wnaed o fater, yn ymddatod ryw bryd annirnadwy bell i ronynnau gwaelodol y cosmos; ein llwch o atomau gwahanol elfennau yn troi'n ronynnau egni annistryw.

Gyda golwg ar foesoldeb yr holl fater, nid wyf am ddywedyd dim, nes caf weled vm mha ffurf y gyrrwyd hi i'r wasg yn wreiddiol.

Ond mae'n fater sensitif; sut fedrwch chi ddweud wrth rieni a gollodd un plentyn ar ôl y llall oherwydd newyn, na ddylen nhw gael rhagor o blant?

Perygl yw iddi fynd yn rhy hwyr bellach i droi'r llanw ond yn sicr dylai hwn fod yn fater a fydd yn uchel ar restr blaenoriaethau Huw Jones.

Ar ôl sefydlu'r frawddeg seml, nid yw datblygiad pellach - datblygu gair unigol i fod (a) yn ymadrodd, neu (b) yn gymal, neu amrywio trefn olynol - ond yn fater o estyn yr un cynhwysion.

Mae rhywun, byth a hefyd, yn cyhuddo cyhoeddwyr llyfrau Cymraeg a Chyngor Llyfrau Cymru o fod yn swil ac aneffeithiol pan yw hi'n fater o werthu eu cynnyrch.

Anfonwyd am Vivian yn ddioed, a daeth yntau i *ny i'w gweld ac i ddatgan ei farn (beth bynnag oedd ei gwerth, gan mai ef, o'r holl ddynion, a wyddai leiaf ar fater o'r fath) .

Dyna fater llyfr J R Jones, Prydeindod; a'r llyfr hwnnw a'i ddarlith ef, A Raid i'r Iaith ein Gwahanu yw Dail Sibul ein tynged ni a thynged ein hiaith.

Cyn belled ag y mae fy Nghymreictod i yn y cwestiwn, doedd hi ddim yn fater o ddiddordeb mawr i'r Indiaid ar y tren fod gan Gymru ei hiaith ei hunan.

Er enghraifft, os ydym yn gwybod faint y mae glofa yn ei gynhyrchu, gall fod yn fater eithaf hawdd, trwy gynllunio'r cyfrifon yn briodol, i gyfrif cost tunnell o lo.

Unrhyw fater arall

Y mae'n amlwg fod nodi beth yw priod waith y prydydd a'r artist yn fater o bwys mawr i Alun Llywelyn-Williams yn y tridegau, ac wedyn.

Ystyriwch fater Cwm Tryweryn a Chapel Celyn.

Gwadu y cyhuddiad a wnaeth golygydd newydd Seren Gomer; "Egwyddorion ein Cyhoeddiad a gadwyd hyd yma yn ddilwgr", meddai, ond defnyddiodd Seren Caernarfon enghraifft gohebiaeth Hughes ei hun yn Seren Gomer ar fater yr eglwys wladol er mwyn profi ei bwynt:

Yn y gwledydd eraill mae yna seneddau rhanbarthol fydd yn dewis cynrychiolwyr - mi fydd hi'n rai blynyddoedd cyn y bydd hi'n fater mor syml â hynny yng Nghymru.