Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fawd

fawd

Roedd y Wraig wedi bod yn defnyddio'r dŵr poeth trwy'r dydd gan nad oedd dim o'r llall ar ga'l ac fel yr oedd Ifor ar roi ei fawd ar gliciad y drws clywodd y glec fwya annaearol a glywodd erioed!

Torrodd Croft ei fawd tra'n maesu yn Derby ddoe.

Ardal gwasgarog ydy Bol y Mynydd a'r ffermdai a'r tydynnod wedi eu hau yn blith draphlith dros wyneb y rhostir ac, yn ôl un hen goel, y cawr Odo sy'n gyfrifol am y blerwch Un pnawn mwll cyrcydai Odo ar ysgwydd Mynydd yr Ystum yn ddrwg ei hwyl, a hynny am fod ganddo gorn ar fawd ei droed chwith, a hwnnw'n pigo.

Pwysodd Douglas ei fawd ar fotwm y gwn.

Mae llaw'r mwnci wedi colli'r gallu hwnnw gan ei bod bellach wedi hwyhau neu ymestyn a hynny drwy ei gyson ymhel â chrogi ar ganghennau coed, a bellach ni all blaen y fawd a blaen y bys bach gyffwrdd â'i gilydd fel yn hanes dyn.

Tynnodd ei sbectol a gwasgu pont ei drwyn â'i fys a'i fawd.

Wedi gwisgo'r siaced lwyd, caeaodd y botwm canol a gwthio ei fawd o'r tu ol iddo gan gadw ei fraich arall yn syth wrth ei ochr.

Dawnsiodd Gemp ddawns bach y blodau ysgafndroed braf i fyny ac i lawr y palmant, yn troi fel ewig ac yn clecio'i fys a'i fawd.

Byddai'n ein difyrru'n aml trwy chwarae 'Duw Gadwo'r Brenin' ar welltyn a ddaliai rhwng bôn ei ddau fawd.