Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

feddylfryd

feddylfryd

Byddai agwedd dychmygus a chreadigol o'r fath yn gwahaniaethu'n fawr oddi wrth y sefyllfa bresennol sydd wedi ei sylfaenu ar feddylfryd negyddol dan ddylanwad y Comisiwn Archwilio, nad yw'n meddu ar arbenigedd addysgol na chydwybod gymdeithasol.

Synied am y genedl yn nhermau'r iaith Gymraeg y mae Sion Dafydd Rhys yma: y mae iaith a chenedl yn gyfystyr iddo, ac y mae'n cydnabod bod bygythiad gwaelodol i'w bodolaeth yn y math o feddylfryd unoliaethol a ymgorfforir, er enghraifft, yn y Ddeddf Uno.

Carwn felly roi ystyriaeth i feddylfryd y maes yma.

Ydy'n hanes cymdeithasol ni yn y papurach hyn neu a ydynt yn fwy o adlewyrchiad o feddylfryd y bobl sy'n creu hysbysebion?

'Roedd hi'n gred sylfaenol a mawr ei dylanwad ar feddylfryd y dyneiddwyr Cymreig yn gyffredinol.

Byddan nhw'n gwneud hyn bron bob nos; nid yw'n syndod, felly, fod y grefydd Foslemaidd wedi dod yn rhan o feddylfryd y bobl ac yn treiddio i bob agwedd o'u bywyd beunyddiol.