Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

feddyliau

feddyliau

gan gredu bod y gynhadledd heddwch fawr sydd i'w chynnal yn llundain yn un o'r dulliau mwyaf effeithiol i addysgu a dylanwadu ar feddyliau pobloedd y gwledydd.

Aeth cant o feddyliau drwy ei galon.

Gweddi: Maddau i ni O Dduw y modd y llygrwn ni feddyliau a bywydau ein gilydd.

Tyfu y mae hi trwy i blentyn gymryd arno'i hun y cyfrifoldeb o geisio dilladu ei feddyliau mewn iaith.

Trwy hynny fe droir meddyliau unigolyn yn feddyliau cymdeithas, ac oherwydd y cyfoeth sydd felly'n cronni ynddo bydd y meddwl cymdeithasol hwnnw yn rhoi maeth a golud i feddyliau'r unigolion sy'n cyfrannu iddo ac yn rhoi ehangder a dyfnder iddynt.

Os gallwn dderbyn ei air, o'i gof y cyfansoddodd ei bregeth brint, wrth gasglu ynghyd ei feddyliau 'sathredig', chwedl yntau.

Heibio i'r paragraff cyntaf, ac wele: 'Oferedd i'w printio llawer o lyfrau, Blinder i'w cynnwys llawer o feddyliau, Peryglus i'w dwedyd llawer o eiriau, Anghyssurus i'w croesawu llawer o ysbrydoedd, a ffolineb yw ceisio ateb holl resymmau dynion, Ond (o Ddyn) cais di adnabod dy galon dy hun, a mynd i mewn ir porth cyfyng.' Pa arfau a feddwch i ddringo creigiau'r dychymyg hwn?

yr oedd wedi loetran ychydig ar ôl bod am paned o de a theisen yn un o fwytai llai twristaidd y dref, ond rhoesai ddigon o amser iddo 'i hun i gyrraedd gartref mewn da bryd i hel ei feddyliau ar gyfer y seiat.

Os caf ddychwelyd am funud i sôn am ddisgrifiadau gwyddonaidd Kate Roberts o fywyd fel yr oedd yn y ganrif ddiwethaf a dechrau'r ganrif hon, hoffwn nodi ymhellach fod llawer o arferion ac o feddyliau yn ei gwaith hi sydd bellach wedi diflannu; ond y mae'n bwysig ein bod ni'n eu hadnabod - yn gyntaf, er eu mwyn eu hunain, hynny yw, oherwydd eu bod; yn ail, er mwyn gallu adnabod mai un o themâu cyson Kate Roberts yw newid: mae hi'n dweud yn rhywle nad oes dim byd oll mor gyson â newid; yn drydydd, mae'r arferion a'r meddyliau hyn yn dweud cyfrolau am agwedd meddwl ei chymeriadau - ac os na ddown i werthfawrogi'u hagwedd hwy at fywyd fe gollwn ran dda o'r rhin a berthyn i'r llenyddiaeth.

Fe'i bwriadwyd ar gyfer barddoniaeth, nid 'masnachaeth'; 'sidanwisg' ydoedd 'a roddwyd/Am feddyliau'r nef i ni'; mamiaith ydoedd a'i gwreiddiau'n ddwfn yn serch cartrefi Cymru:

Cyhoeddodd dri llyfr - y Llythur ir Cymru Cariadus, Gwaedd ynghymru yn wyneb pob cydwybod a Llyfr y Tri Aderyn (a defnyddio ei deitl poblogaidd), - a thrwyddynt arllwys ar wlad fach, na chawsai syniad gwreiddiol er pan genhedlodd John Penry, genlli o feddyliau dierth, a'r rhai hynny wedi eu cyflwyno mewn dull ac ieithwedd a oedd yn syfrdanol o newydd.

"Mae Cyngor y ddinas yn trio ond dydech chi ddim yn ennill pleidleisiau trwy helpu'r digartref nad ydych?" All o ddim ond dyfalu beth sy'n mynd trwy feddyliau y bobl hynny fydd yn ddigartref dros y : feddy "Un o nodweddion amlycaf y digartref yw anobaith.

Gweld elw sylweddol ar ddiwedd yr žyl oedd y peth diwethaf ar feddyliau pob un.

Pa feddyliau bynnag a fartsiai drwy ben y milwr y diwrnod hwnnw, ni fedrai byth ddirnad ymlyniad y gwladwr wrth ei fro, na mesur dymder ei deimladau wrth glywed fod rhaid iddo ei gadael.

A chwythu mwg o gylch ei feddyliau dwys.

Teimlodd nhw yn ei ddwylo a llanwyd ei feddyliau gan falchder a thristwch.

Carlamai ei feddyliau mewn cylch.