Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fedraf

fedraf

Ni fedraf feddwl am well diwrnod i neb sy'n byw o fewn cyrraedd Bro Morgannwg na dilyn y daith arbennig yma a fedr eich ysbrydoli i ddechrau eich casgliad daearegol eich hun - fel y gwnaeth lolo Morgannwg yn ei ddydd.

Jones, ac arweiniodd syniadau Rhees a Simone Weil ef i ddatgan: "Heb gymdogion ni fedraf fi f'adnabod fy hun fel y gwypwyf pwy ydwyf," ac "Y mae ar bobl dyn angen ei wreiddio mewn pobl".

Wel, tebyg fy mod yn geidwadol, ond rhywsut ni fedraf yn fy myw fodloni ar y detholion 'ma; y mae'n rhaid i mi gael y Llyfr i gyd, yn Lefiticus ac yn Gronicl ac yn bopeth.

A siarad yn bersonol am funud bach, mae'n rhaid i mi gyfaddef, er enghraifft, na fedraf gael fawr o hwyl ar vers libre Gymraeg.

Ychydig a wn i am batrwm y ffurfafen ac ni fedraf enwi ond ychydig iawn o'r sêr.

Mi gewch ddod yn ôl hefo mi ar y cwch, os liciwch chi, ac mi fedraf ddod â chi'n ôl hefyd." Yr oedd llygaid y plant yn disgleirio, a dechreuodd Deio ddawnsio o gwmpas.

Fedraf innau, chwaith, ddim gwneud sylw teilwng o gynhyrchion Ray Jones oherwydd fy niffyg gwybodaeth.

Daeth gorchwyl digon annifyr i'm rhan ar ôl te, sef gorfod dweud wrth y ferch hynaf þ sydd yn ei thrydedd flwyddyn yn yr Ysgol Gyfun þ na fedraf fforddio iddi gael mynd hefo criw o'r ysgol i'r Swistir yn ystod gwyliau'r Pasg.

Ni fedraf eu henwi i gyd, ond cofiaf am rai ohonynt: Barbara Llwyd, Myfanwy Morgan, Mrs Thomas y Fron Goch a'i theulu.

Ni fedraf ddiolch yn ormodol i Cassie Davies, oherwydd bu hi fel angel gwarcheidiol drosof yn yr holl gynlluniau.

Yn ol prifathro presennol ysgol Stebonheath a phennaeth Archifdy Dyfed, mae llyfrau cofrestri'r Ysgol Gynradd hon am y cyfnod y bu Euros ynddi ar goll, ac ni fedraf roi'r union ddyddiau y bu yn ei mynychu.