Maen nhw'n dweud na fedrwch chi werthfawrogi'r Paith onibai eich bod chi mynd mewn bws.
Fe synnech weld carreg mor fawr a fedrwch ei symud hefo trosol.
Fedrwch chi wneud blychau nythu?
"Fedrwch chi ddychmygu rhywun yn mynd o'i fodd i weithio i ffatri yng nghanol Lloegr ar ael ei fagu yma?" gofynnodd hi un diwrnod.
A fedrwch weld cannwyll eich llygaid yn newid ei ffurf?
Rydach chi'n delio efo 'bydoedd', fel cyweirnodau mewn ffordd: fedrwch chi ddim dod â'r peth 'yma' i mewn i'r byd arbennig 'yma' achos tydi o ddim yn perthyn, ddim yn gweithio.
Hynny yw, mi fedrwch chi, fel y dyn yn yr hysbyseb, siopio yn eich trons, yn gorweddian ar eich gwely, heb symud o'r ty.
Yr enw ar ddefnyddiau fel y rhain megis gwydr barugog, polythen trwchus, niwl a rhai mathau o grisialau naturiol megis cwarts er enghraifft, yw defnyddiau tryleu.A fedrwch chwi ddarganfod unrhyw bethau tryleu?
Daeth y meddyg, syllodd yn drist arni a daeth ataf i ystafell arall gan ddweud: Mae'n ofnadwy o ddrwg gennyf am hyn ond peidiwch â disgwyl medru cadw'r beth fach lawer yn hwy." "Fedrwch chi ddim rhoi rhywbeth bach i godi ei stumog?" gofynnais ymhen ysbaid.
Fedrwch chi ffurfio cyswllt ag ysgol yn yr Eidal?
Cadarnhawyd eisoes eu bod yn rhan o'r lein-yp ar gyfer Gwyl y Gwyniad a gynhelir rhwng yr ail a'r nawfed o Fedi; ond os na fedrwch chi aros tan hynny ewch draw i Dy Newydd Sarn ar Fehefin 30.
Dydw i ddim wedi trio fy hun ond yn ôl haid o wyddonwyr o Brifysgol Llundain fedrwch chi ddim goglais eich hun.
'Fedrwch chi byth fod.
Fedrwch chi wneud silŵetau adar allan o bapur du i'w rhoi yn y ffenestr?
'Da, 'ngwas i, tasat ti ond yn ca'l dy dderbyn yn bregethwr cynorthwyol, William, fath â dy daid ers talwm.' 'Ydi'r cur pen yn well, Mam?' 'Dipyn bach.' 'Mi wna i banad bach o Ofaltîn i ni'n dau cyn mynd a mi fedrwch chi fynd i'ch gwely'n reit handi wedyn.'
Fedrwch chi ddychmygu prysurdeb y gwaith copr ganrif yn ôl, ger pen pella'r llyn?
Fedrwch chi ddim mynd yno drwy'r yr un fath ag i nefoedd Cristnogion call, dim ond efo llong.
Mi fedrwch gael grant gan y Cyngor Addysg i yrru Aled i'r coleg.
Ac o son am y llyw, hyd yn oed os ydych ychydig yn ddiofal wrth afael yn y llyw yn arferol, fedrwch chi ddim fforddio hynny gyda chara- fan.
''Maen nhw'n gwybod os na fedrwch chi fforddio cael car go lew na fedrwch chi fforddio talu'r ddirwy ychwaith.
'Fedrwch chi ddim gadael iddi hi farw fel hyn.' 'Ble mae hi?' gofynnais.
Faint ohonynt fedrwch chi eu gweld?
Ond fedrwch chi ddim plesio pawb - hyd yn oed gyda stori dda fel un Harri Potter.
Os nac 'ych chi wedi anadlu naws a sawr y glowr yn eich ffroenau chi, os nac ydach chi yn gwybod fel yr oedd yr hen dipiau glo yn chwysu yn yr ha', fedrwch chi ddim sgrit`ennu amdano." Roedd chwaer y dramodydd, Letitia Harcombe, a gymerodd ran y butain, wedi dweud ei hun tod y ddrama' n agos at y gwir a i bod yn gwybod am deuluoedd a oedd mewn sefyllfa debyg.
`Fedrwch chi ddim cymryd dim byd yn ganiataol!' meddai Gunnar.
"Wrth gwrs nad ydych chi'n gwadu, fedrwch chi ddim.
Beth sy'n digwydd i'r mwstard a berw'r dwr wrth iddynt dyfu?A fedrwch weld y coesynnau'n plygu ac yn pwyso tuag at y goleuni sy'n dod trwy'r twll?
"Fedrwch chi ddidoli bratiau?" gofynnodd honno iddi.
Ond mae'n fater sensitif; sut fedrwch chi ddweud wrth rieni a gollodd un plentyn ar ôl y llall oherwydd newyn, na ddylen nhw gael rhagor o blant?
A fedrwch chi feddwl am ffyrdd o ddefnyddio unrhyw rai o'r rhain yn Llanrwst?
Chewch chi ddim gwisgo coban ganddyn nhw os na fedrwch chi ddyfeisio llinellau yn gyflym fel 'Cosi bol Casi bach' - sydd yn farddoniaeth bur medda nhw oherwydd rhyw gleciadau swn sydd o uwch gwerth na throsiadau barddonol.
Fedrwch chi ei gario ef i ddiogelwch?' Gan na fedrai weld rhagor o bobl yn y dŵr a chwyrli%ai o'i gwmpas gafaelodd Mr Parker yn y babi ac ymlwybrodd drwy'r llong tuag at y fan lle roedd yr ychydig bobl a oedd yn dal i fod yn fyw yn mynd i mewn i'r badau achub.
Fedrwch chi ddychmygu Pennaeth y Banc of England yn gwerthu tocynnau Wembley o'i swyddfa ei hun!
Mi fedrwch adeiladu tŷ da lle bynnag y mynnoch chi a chael bywyd cysurus heb orfod gweithio os mai dyna'ch dewis.
Cloriannu'r gyllideb; fedrwch chi ddim gwneud pethau crand efo ceiniog a dimai, mae'n rhaid i chi wneud pethau diymhongar - ond da.
Pan dynnir y ffurf, neidiwch allan o'r amlinell sialc, a gwelwch wedyn a fedrwch ffitio'n ol i'r union fan.
Ni fedrwch fynd i unman yn y cerbyd nes i'r ffordd sychu.
Fedrwch chi ddim torri'ch cysgod i ffwrdd na'i wnio'n ol yn ei ond medrwch gael llawer o hwyl yn chwarae gydag ef.