Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fegera

fegera

Mentrodd ambell wylan atom i fegera, crawcian o'r uchelderau wnai'r gigfran.

Nid am y tro cynta fe'i synnwyd fod cymaint o fegera ar strydoedd dinas mor oludog Fflorens.

"Bobol annwyl!" meddyliodd yr hen wraig, gan dynnu'r cwrlid yn fwy clos dros ei chlustiau, "Pwy uffarn sydd yna yr adeg hon o'r dydd?" Gan mai ei bwthyn hi oedd yr adeilad cyntaf yn y pentref o gyfeiriad y môr, roedd Morfudd wedi hen arfer bellach â dieithriaid yn galw heibio i holi'r ffordd, neu i fegera am baned o de a chrempog.

Gallai ei dychmygu'n awr, yn gorwedd yn ddu ar ochr y mynydd yn y fan acw, a niwl fel cap llwyd am ei phen, fel rhyw hen wrach yn gwneud hwyl am ei ben, ac yntau;'n ymbalfalu tuag ati ar foreau tywyll fel hyn, a dim gwaith i ddechrau arno yn oerni'r bore; dim ond mynd o gwmpas a'i ddwylo yn ei boced i fegera.