Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

feiddio

feiddio

"Y cyfan rydw i ei angen yn awr ydi cornel fach glyd i roi fy mhen i lawr." "Mae'na le yn y stabal," meddai'r tafarnwr yn gyndyn, ond heb feiddio edrych ym myw llygaid tywyll y cardotyn.

Dychrynais gymaint fel y neidiais o'm gwely heb feiddio cyffwrdd ychwaneg ynddi, i lawr y grisiau â mi fel corwynt ac ofn yn fy mharlysu.

Mae'r Cwrdiaid yn cael eu cosbi am feiddio herio unbeniaeth Saddam Hussein.

Trowyd hwy'n feini am feiddio tarfu ar y diwrnod sanctaidd.