"Mae'r ffaith bod First Knight yn dod i Feirionnydd yn golygu bod pobol leol yn cael gwaith, ac arian yn cael ei wario yn lleol," meddai Geraint Parry sy'n cynorthwyo Hugh Edwin, Swyddog Datblygu'r Cyfryngau yng Ngwynedd.
Nodir pum peth sy'n llygru bywyd ysbrydol Cymru: y gwersylloedd gwyliau yng Ngheredigion, y cloddio am olew ym môr Iwerddon, y rocedi yn Aber-porth, yr orsaf niwcliar yn Nhrawsfynydd, a'r ymchwil am aur yn Sir Feirionnydd.
yr oedd un cysur ganddynt y cawn chwarae teg gan fod athrawes y babanod yn Gymraes o Sir Feirionnydd.
Ni wyddys i sicrwydd ymhle os nad yn y Gydros, Llanfor, Sir Feirionnydd.
'Roedd ysbryd Cymru Fydd yn fyw o hyd, ac er iddo farw ym 1899 'roedd yr Aelod Seneddol dros Feirionnydd, Tom Ellis, yn parhau i fod yn arwr gan lawer o Gymry.