Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

feirniadol

feirniadol

Sefydlent eu golygon ar y cerfiwr, Huw Huws - llygaid awchus, a'r ddwy wraig hwythau - llygaid llym-feirniadol.

Mi roedd o hefyd yn feirniadol eu bod wedi ceisio rhoi pwysau gwleidyddol ar y Cynulliad.

Does na ddim un drama tu hwnt i Tony Jones ac i'r un a fentrodd fod yn feirniadol, estynnaf wahoddiad i'r Theatr i gyd-weithio hefo ni a gweld sut mae cyflawni gwyrthiau!

Ni allai Gruffydd stumogi moderniaeth Bobi Jones, ac ar ben hynny, 'roedd Bobi Jones wedi bod yn feirniadol o farddoniaeth Gruffydd a rhai aelodau o'i genhedlaeth.

Yn naturiol, does dim modd bwrw golwg feirniadol o ddifri ar bum cyfrol wahanol iawn i'w gilydd o fewn cwpas erthygl fer: hwyrach, serch hynny, fod rhywfaint o bwrpas mewn croniclo bras- argraffiadau sy'n codi o ddarllen cynifer o stori%au gwahanol y naill ar ôl y llall o fewn ychydig ddyddiau, a'r cyfan ohonyn nhw, rhaid dweud, yn gynnyrch llenorion go iawn sy'n grefftwyr yn y maes ac sydd, o'r herwydd, yn gwybod beth y maen nhw'n ceisio'i wneud.

Credai ef mai gweithred o eiddo rhagluniaeth oedd y Diwygiad Protestannaidd ­ edrychai ar Eglwys Loegr fel adran o'r wir eglwys, a bu'n locs iddo ddarganfod fod Newman mor feirniadol o'r Diwygiad â Hurrell Froude.

Byddant yn gwrando'n sensitif ac yn feirniadol, gan ryngweithio gyda'i gilydd a'r athro drwy ddefnyddio iaith briodol.

Cynhwysai nifer o gerddi rhyfel, yn gymysgedd o rai dwys grefyddol, rhai hiraethus-deheuol, ac un ffyrnig o feirniadol.

'Y gweld cyntaf' a ddaeth iddo, fel yr esboniodd mewn llythyr at Mary Lewis, a oedd yn gyfrifol am y cynhyrchiad, oedd, 'nad oes ddianc rhag enbydrwydd arswydus economeg y gors.' Dyma sail yr athroniaeth feirniadol a fynegwyd yng Nghwm Glo: 'Gweld cefn gwlad yn dihoeni a wneuthum,' meddai ac o ganlyniad meithrin ymwybyddiaeth o'r graddau y dylanwedir ar fywyd yr unigolyn gan amgylchiadau sydd y tu hwnt i'w reolaeth ef.

Wrth bawb sy'n feirniadol o'i ffrind William Hague.

Gobeithiwn y medrwch ennyn brwdfrydedd a chwilfrydedd yn eich disgyblion a datblygu ynddynt ffordd feirniadol a chreadigol o feddwl, yn ogystal â datblygu eu sgiliau cyfathrebu a sgiliau ymarferol labordy a gwaith maes.

Bu Saunders Lewis yn feirniadol iawn o'r nofel hon ar y darlleniad cyntaf.

Mantais arall iddo fel golygydd oedd bod ganddo ddiddordeb byw ym materion a phroblemau'r dydd, ac ni phetrusai cyn cynnig ei sylwadau cytbwys arnynt, naill ai'n feirniadol neu'n adeiladol.

Fe gafodd Wrecsam gweir yn y diwedd a hawdd fyddai bod yn feirniadol ohonyn nhw.

Wrth son am 'led-glasuraeth' y ddeunawfed ganrif mae Saunders Lewis yn datgan yn feirniadol: Nid oedd ei threfn hi, ei synnwyr da a'i chytgordiad, yn effaith meistrolaeth eang ar gynnwrf profiadau, ond yn hytrach yn gynnyrch crebachu profiad a rhannau pwysig o gyflawnder bywyd.

Yn Llen y Llenor y mae Ceri Davies nid yn unig yn dilyn ond yn pwyso a mesur yn feirniadol ei gyfraniad hynod i lên Cymru ac i Gristnogaeth.

Felly, yn lle gofyn cwestiyna fel o'r blaen, roedd Malcym wedi dechra mynd yn feirniadol iawn.

(Nid y peth lleiaf yng nghynhysgaeth feirniadol Mr Thomas yw ei wybodaeth o lenyddiaeth Saesneg y cyfnod ar ei hyd: mae yma ym Mhennod II astudiaeth gymharol rhwng Henry Vaughan a Morgan Llwyd sy'n berl.)

Nid un i fodloni ar fflach y munud mohoni ond perffeithydd hunan-feirniadol a disgybledig.

Nid yw'n Rhyddfrydwr fel ei dad; mae'n feirniadol o'r Blaid Lafur ac o Blaid Cymru, bellach nid yw'n Gomiwnydd chwaith.

Mae Mary Warnock ei hun wedi bod yn dra feirniadol o rai agweddau o'r adroddiad.

Yr oedd grym yn ei ddadl ar y pryd, ond go brin ei bod yn sylfaenedig ar egwyddor feirniadol dragwyddol a di-syfl.

Cyfrannodd syniadau beiddgar at gynnau'r chwyldroadau yn America a Ffrainc ac yr oedd rhai o'r rheini'n hynod feirniadol o Gristionogaeth.

Ni olygai hyn eu bod bob amser yn wrthwynebol neu yn feirniadol o ddysgeidiaeth yr Eglwys.

Nid yw'r chwiw derwyddol yn amlwg yma, ond yn hytrach, ymchwilydd disgybledig sydd wrthi yn trafod ffynonellau'n ddeallus ac yn eu defnyddio'n fedrus feirniadol yn ddogfennau byw i ddarlunio hanes cymdeithas a'i thiroedd.