Trwy ymddiried yn sofraniaeth ei reswm gallai dyn ddarganfod rhyddid yn ei feistrolaeth tros bwerau Natur.
Nid y cyfrwng a'i gwnaeth yn 'ddewin' ond ei feistrolaeth dros y cyfrwng.
Dros nos yr oedd gan Hendry fantais o 6 ffrâm i 2 a pharhau wnaeth ei feistrolaeth dros Hunter y bore yma.
Y gred draddodiadol ydoedd fod awdurdod y frenhines dros ddeiliaid y deyrnas i'w gyffelybu i feistrolaeth y tad ar ei blant.
Sicrhaodd ein rheng flaen feistrolaeth lwyr ar reng flaen y gleision, a chan i Derek Quinnell ei hyrddio'i hunan o gwmpas y cae roedd gofyn cael dau neu dri i'w daclo a'i rwystro.
'Dyw'r feistrolaeth honno ddim cystal yn y baban, y ffaeledig a'r henoed ag yw yn y canol oed, gan nad yw'r ymateb mor gyflym.
Ym meddwl John Davies nid oedd amheuaeth o gwbl ynglyn ag "urddas diamheuol" y Gymraeg ac y mae Ceri Davies yn fawr ei edmygedd nid yn unig o'i lafur oes "yn ymboeni am urddas y Gymraeg' ond hefyd o'i feistrolaeth "ryfeddol o lwyr" ar adnoddau'r Gymraeg, ei hidiomau a'i geirfa.
Yn ei Salmau Cân yn ogystal ag yn ei gywyddau ymryson â William Cynwal ac eraill dengys Edmwnd Prys ei lwyr feistrolaeth ar Gymraeg clasurol yr hen feirdd.