Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

felyn

felyn

Edrychodd i fyny ar y basgedi blodau a'r merched tinfain a winciai yn felyn a gwyrdd a choch uwch ei ben.

Yn ôl yr adroddiad cafwyd sicrwydd na fyddai gostyngiad yn lefelau cynnal a chadw y rheilffordd ond ni chafwyd sicrwydd gan y Rheilffyrdd Prydeinig ynglŷn â chodi dynodiad y rheilffordd o felyn (a oedd yn golygu na fyddai'r trac newydd yn cael ei osod ond na fyddai gostyngiad yn ansawdd y gwasanaeth yn ystod y cyfnod yn arwain at breifateiddio os oedd hynny'n digwydd) i reilffordd werdd (a olygai ychydig o adnewyddu trac newydd ac y byddai hyn yn gwella amseroedd siwrniau).

Mae'r cefndir yn wyrdd golau, y bandyn yn y canol yn felyn a'r geiriau'n biws.

yn fflamgoch ac yn llachar felyn, ac o'r awyr fel carped bob lliw odditanom.

Mae wrth ei fodd yn ei blannu ei hun 'wrth olwyn fawr felyn' car newydd Lleifior a'i yrru hyd 'heol fawr Henberth, â llygaid ambell un tlotach na phlant Lleifior yn syllu'n eiddigus ar ei ôl'.

Gwyrddlesni'r dail yn troi yn felyn ac yn frown, a'r coed a'r rhedyn yn harddu a goleuo'r llethrau.

Rhaid bod Trefeca felly'n felyn i gyd a'r Teulu'n cywain.

Mae planhigion sy'n tyfu mewn tir sy'n brin o nitrogen yn fychan ac yn aml yn felyn eu lliw.

Cofiodd yn sydyn nad oedd wedi cael ei ginio a dechreuodd y dŵr redeg rhwng ei ddannedd wrth iddo feddwl am sglodion Mam yn frown-felyn ar y plât o'i flaen.