Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fentrai

fentrai

Corgi bach melyn oedd Cymro, ci Rhodri, ac fe wnâi gymaint o sŵn wrth gyfarth, fel na fentrai lleidr ddod o fewn canllath i'r tŷ.

Gallai platiau'r Ffôr fod ddwy neu dair gwaith cyn drymed â phlatiau'r melinau eraill, a'r dewraf yn unig a fentrai weithio yn y felin fawr.

Fentrai e ddim stopio i graffu'n fanwl arnyn nhw, rhag ofn i rywun ei weld a dweud, "Dyna fe'n rhythu, y llo bach, yn chwilio am 'i enw 'to'.

Yn ein plith ym Mangor yr oedd myfyriwr o'r enw Henry Aethwy Jones, brawd o Lerpwl, a feddai gyflawnder tra helaeth o hunanhyder, ac un a fentrai drafod ei athrawon fel cydradd, a hynny mewn Cymraeg oedd yn camdreiglo'n rhyfedd.