Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

feranda

feranda

Pan gyrhaeddodd, gwelai Rageur a Royal yn neidio i fyny ac i lawr grisiau pren y feranda.

Yr oedd yn ddigon call i beidio â'm llusgo pan oeddwn yn anymwybodol." 'A dyma chi'n cyrraedd, o'r diwedd, at waelod grisiau'r feranda?" "Do, ac yr oeddwn yn falch iawn o deimlo'r pren dan fy nwylo," meddai'r tad.

Pan gyrhaeddais gysgod y feranda y tu allan i'r stafell bwyso, roedd yr hyfforddwr a'r perchennog yno'n barod yn aros yn gyhuddgar.

Fo, fwy neu lai, oedd yr unig un ar y feranda gan fod pawb arall wedi mynd i weld y ras olaf; roedd hi i'w chlywed fan draw.

"Nawr ewch i'r gwely ac aros yno," meddai'n chwyrn, "os cai ychwaneg o drafferth gyda chi heno, fe fydd yn edifar gennych chi." Y bore wedyn, fe'i dihunwyd gan sŵn llestri yn cael eu gosod ar fwrdd y feranda.

Yr oedd iddo feranda wedi ei chau a gwydrau, ac o'r tu allan iddi yr oedd gwely o flodau o bob lliw.

Fe ges i fraw pan welais eich gwely chi'n wag..." Hyd hynny, roedd hi wedi meddwl mai ei gweld hi ar y traeth a wnaeth, ar ôl mynd i'r feranda o'r ystafell fyw.

"Wnawn ni ddim diffodd y golau," meddai wrth y cŵn, "rhag ofn i ni faglu'n y tywyllwch ar y grisiau tu allan." Cofiodd am ei dors, ac agorodd y drws i'r cŵn neidio o'i flaen i lawr grisiau'r feranda.