Pan ddaeth yn ddiwrnod mynd â'r ferfa allan am y tro cyntaf, a chychwyn o dop y cae tu ôl i'r tū efo hanner ei llond o gerrig, dim ond tua chwarter y ffordd i lawr y daeth na chraciodd yr olwyn wrth yr echel a throi ar ei hochor yn ddau ddarn a'r ferfa ar ei thrwyn yn y ddaear.
'Doedd o ddim rhyfedd efallai fod yna ffin go bendant ar bwysau'r llwyth a ganiateid yn y ferfa honno.
Ac felly, cyn i'r domen ddod i'r beudy, gwell ei symud hi, ferfâd wrth ferfâd yn rhes o dociau i'r caeau.
Byddai'r saer coed a'r gof yn rhannol gyfrifol am wneud olwyn, bydded olwyn gert neu olwyn i ferfa.
Yr hen ferfa fawr fyddai'n cario'r llwythi trymion i wneud y tocia mwyaf ym mhen y rhes bob tro.
Yr un fath ag efo llongau pan aeth berfa bren yn ferfa haearn yr aeth y rhamant ohoni.
Yn un pen i'r raddfa, hen ferfa drom, lymbrus a'i holwyn yn llac a'i hechel yn gwichian ac aml i dolc ei gyrfa wedi gadael eu ôl ar ei choed.
Teyrnged i ferfa cyn i'w holwyn roi ei gwich olaf ar ei ffordd i ddiddosrwydd Sain Ffagan.
Nid teilo'n unig y byddai'r ferfa chwaith.
Yn nyddiau bore'r byd pan oedd aroglau da ar wair yn cynaeafu, a thail yn gynnyrch porthiant o'r das, yr oedd ambell i ddiwrnod yn rhoi lle o anrhydedd i'r ferfa yng nghynllun gweinyddol economi ffarmio tyddynnod Eryri.
Ac yn y pen arall, y ferfa ysgafn, handi, yn baent ac yn sglein i gyd ac yn symud ar le glas heb ddim ond sūn yr echel yn troi yn ei saim.
Yr oedd un ferfâd o dail yn gwneud tocyn cyfan, a'r cwbwl fyddai eisiau ei wneud ar ôl cyrraedd y cae efo'r llwyth fyddai cerdded pedwar ne bum cam a gofalu cadw'r rhes yn union, wedyn lympio'r ferfa a gadael un tocyn arall at y cyfanswm, ag ôl sgwar gwaelod y ferfa ar ei ben.
ond er gwaetha'r adnoddau 'roedd y ferfa yn dwad i siâp.