Ar y llaw arall, yr oedd y bobl hyn yn ddigon parod i gyhuddo Ferrar o'r un trachwant am diroedd a chyfoeth ag oedd mor nodweddiadol ohonynt hwy eu hunain.
Llwyddodd Ferrar hefyd i dynnu lleygwyr amlwg yn ei ben.
Gwr o sir Gaerefrog oedd Ferrar, er nad oes sicrwydd ynglyn â man ei eni.
Bu'r cyhuddiad hwn fel maen melin am wddf Ferrar trwy'r blynyddoedd dilynol er iddo fynnu'n gyson mai llithriad gan ei ganghellor ydoedd.
Pwysodd ar Somerset i benodi Ferrar yn ei le.
Ac un o'r esgobion newydd o'r math hwn oedd Ferrar.
Yn awr, cafodd Robert Ferrar ei gyfle.
Mae'n amlwg fod Ferrar yn awyddus i ymarfer ei awdurdod bugeiliol yn yr esgobaeth.
Ar yr un pryd, fe welir fod Ferrar yn ceisio adfeddiannu eiddo a aeth i ddwylo lleygwyr a'r eglwys wedi cael ei thlodi yn ei dyb ef oherwydd hynny.
Dyma'r dynion a oedd i arwain y gwrthwynebiad i Robert Ferrar.
Yr oedd pethau i fod hyd yn oed yn fwy chwerw o dan Robert Ferrar.
Mynnai'r canoniaid fod Ferrar yn gohirio anfon papurau'r achos iddynt gyhyd ag oedd yn bosibl er mwyn ei gwneud yn anodd iddynt amddiffyn eu hunain a haerai Ferrar fod y canoniaid yn ei rwystro rhag gweld y dogfennau yn Nhyddewi a oedd yn diffinio hyd a lled ei waith a'i awdurdod fel esgob.
Dichon fod digwyddiadau fel hyn bellach yn ymddangos yn annoeth, ac hyd yn oed yn blentynaidd, ond maent yn dangos fod y berthynas rhwng Ferrar a phrif glerigwyr ei esgobaeth wedi mynd yn bur wenwynllyd.
Ambell dro yr oedd Ferrar yn gweithredu trwy eraill - Stephen Green, er enghraifft - y gwr a'i gwnaeth yn amhosibl i Young gael curadiaid.
Ar y cychwyn yr oedd perthynas Ferrar â George Constantine yn ddigon cyfeillgar ond dirywio a wnaeth hi a phan oedd Thomas Young yn priodi merch Constantine, gwrthododd Ferrar gymryd unrhyw ran yn y gwasanaeth.
Ond mae'n enghraifft dda o'r ffolineb cynhennus a ddioddefodd Ferrar ar hyd y beit yn Nhyddewi.
Ferrar oedd y cyntaf i gael ei wneud yn esgob yn y dull hwn.
Wrth weld Robert Ferrar yn dod i fyw yn Abergwili, yr oedd canoniaid Tyddewi'n bur gynhyrfus ac yn barod amdano.
Bu'r cyfnewidiad o'r naill gyflwr i'r llall yn un hir a phoenus ac yr oedd Robert Ferrar yn un o'r rhai a ddioddefodd yn enbyd yn ystod y berw hwn.
Ar ôl yr antur hon i'r Alban penodwyd Ferrar yn brior priordy Sant Oswald, yn Nostell, nid nepell o Pontefract.
Bu felly am gryn flwyddyn a hanner nes i Gyngor y Gororau orchymyn Ferrar i gadarnhau Constantine yn ei swydd yn lle ceisio gwneud y gwaith ei hun.
Y peth mwyaf dramatig ymhlith yr achosion hyn oedd gwaith Ferrar yn ceisio rhoi terfyn ar yr ymgecru rhyngddo a'i swyddogion trwy apelio at Lys Mainc y Brenin i ddyfarnu ar ei hawliau fel esgob.
A rhaid dweud o blaid Ferrar nad oedd yn ofni ymaflyd codwm â'r mawrion lleol pan deimlai fod hynny'n fantais i'r eglwys.
Yr oedd Syr Richard wedi derbyn maenor Llandyfa/ i gan y Goron ac yr oedd Ferrar yn awyddus i'w hailfeddiannu.
Yr oedd Young wedi coladu John Gough yno ond gwrthwynebai Ferrar y penodiad a mynnodd erlyn Gough trwy'r llys consistori.
Diwedd y gân oedd i Ferrar gondemnio'r cabidwl cyfan fel rhai anufudd i awdurdod.
Daeth Hugh Rawlins a Thomas Lee â'r cyhuddiad yn ei erbyn ei fod wedi ymdroi tan fis Ebrill cyn dod, "to the great disorder of the King's majesty's subjects, lack of reformation, and ministration of justice." Ond atebodd Ferrar nad arno ef oedd y bai am hynny oherwydd yr oedd ei ddyletswydd i'r brenin yn golygu fod yn rhaid iddo fod yn bresennol yn y senedd yn Llundain.
Nid aeth Ferrar i esgobaeth Tyddewi ar unwaith a bu cwyno digon pigog oherwydd hynny.
Dyma'r math pobl yr oedd Ferrar yn yr afael â hwynt.
Nid bod unrhyw amheuaeth ynglyn â Phrotestaniaeth Meyrick a Young ond yr oedd eu dull o feddwl yn bur wahanol i ddull meddwl dyn fel Ferrar a raddiodd mewn diwinyddiaeth.