Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fesul

fesul

Clwstwr o ffrwythau mewn difri yw pob mwyaren, ffurf sydd wrth fodd y mân deloriaid sydd yn datgymalu'r swigod bach du fesul un tra'n cymryd seibiant ar eu taith mudol ym mis Medi.

Rwyf hefyd yn gyfrifol am baratoi rhestrau aelodaeth (fesul rhanbarth, cell, coleg, ysgol ac ati) a labeli aelodaeth yn ôl y galw.

Awdl a luniwyd ychydig cyn i'r gweithfeydd glo ddechrau cau fesul un.

Ni welwyd erioed amgueddfa mor lliwgar, y waliau yn ddu a llif-oleuadau bach yn goleuo'r cesys, rhai yn ymwneud â blynyddoedd y rhyfel fesul blwyddyn ac eraill yn trafod hysbyseb unigol, OXO, Ovaltine, Rinso ac yn y blaen.

fesul llyfr neu bennod neu hyd yn oed ar nifer y geiriau yn y testun/au dan sylw) a'r amser a gymerir i'w gyflawni.

Ac er na chlywasai Morfudd mo'r sgwrs, trodd y pwyllgor siaradus fesul un yn euog tua thref y prynhawn hwnnw.

Cawsom y ffisig, rhoddasom ef fesul tropyn yn ôl y gorchymyn ac ymhen yr wythnos daeth newid ynddi.

Argymhellir model asesu gan yr ysgol a chan yr awdurdod fesul cam a chriteria ar gyfer asesu anghenion a datgan arnynt, a chanllawiau ar gyfer trefnu a chynnal adolygiadau blynyddol.

Erbyn heddiw, mae nifer o wneuthurwyr ceir yn cynnig benthyciad di-log, ac mae'n ddigon hawdd prynu offer trydanol gan dalu fesul tipyn heb logau o gwbl.

Cymorth beirniadaeth E Lewis Evans, y mae M Wynn Thomas yn edmygus iawn ohono, ysgolhaig a gweinidog Annibynnol a ddeallodd yn gynnar ba mor astrus oedd ei arwr; a chymorth beirniadaeth Hugh Bevan ar ei ôl, yr hwn yn Morgan Llwyd y Llenor a astudiodd yr awdur fesul llyfr yn ogystal ag yn gyffredinol.

Llithrodd Geraint ei lygaid i lawr y wal honno, fesul carreg, nes gweld yn y gwaelod ...

Fesul tipyn yr oedd yr offer a'r geriach newydd yn dod.

Mae rhai ohona ni yn dal yn ddigon hen i gofio'r dyddiau du hynny pan oedd y goleuadau yn diffodd fesul un ag un drwy Brydain ben-baladr - a'n pobl ifanc, goreuon eu cenhedlaeth yn aml, yn gwneud dim byd mwy difrifol yn y tywyllwch dudew hwnnw na blasu siocled.

Mae'r awdl hefyd yn creu darlun trist o'r dirwasgiad a ddaeth i ardal y chwareli llechi wedi i'r economi cenedlaethol wegian, a chau'r chwareli fesul un wrth iddyn nhw orfod cystadlu â deunydd toi rhatach o wledydd eraill.

Perthynas chi-a-chithau fu rhwng Mona a Tref gynt ond wrth iddynt gydweithio closiant fesul tipyn: unwyd hwy yn eu consyrn a'u nod.

Yn hytrach na cheisio ymgodymu â holl gymhlethdodau'r byd sydd ohoni o'r cychwyn cyntaf, y dull arferol o weithredu mewn Economeg yw symleiddio cymaint ag sy'n bosibl ar y cychwyn, ac yna symud ymlaen i ollwng y tybiaethau dechreuol fesul un gan sylwi ar y gwahaniaeth y mae hyn yn ei wneud i'r casgliadau gwreiddiol.

Ymlaciodd hithau yn ei erbyn, a theimlo'i haelodau'n ymollwng fesul un wrth i'w anadlu dwfn arafu, a throi'n chwyrnu rheolaidd isel.

Unwaith eto bu raid mynd i ysgol lle'r oedd gweddill yr adeilad yn cael ei ddefnyddio gan ysgol Saesneg hyd nes bod ei disgyblion wedi ei gadael fesul blwyddyn.

Cyfaill dall wrth f'ochr fel petai'n teimlo taith yn ymagor o'i flaen fesul milltir.

Fesul tipyn gorfodir i'r tenantiaid ddysgu'r wers greulon hon fel y suddant yn ddyfnach i gors ddiwaelod tlodi.

Y ffordd oeddan ni'n cael ein talu oedd fesul faint o becynnau oeddem ni'n eu symud o le i le yn ystod shifft.

Yr unig sŵn oedd dyrnod pren ar bren a sloshian rhythmig wrth i'r clai gael ei daflu fesul dyrnaid i orchuddio plethwaith y waliau.

Gwawriodd fore Llun, ac ar ol gosod y sgis cafwyd gorchymyn i fynd i fyny ar y lifft gadair - fesul un.

Mae'r cynnwrf yn cychwyn hyd at ddwyawr cyn y gystadleuaeth ei hun a'r teirw yn cyrraedd fesul un a dau - rhai ar gefn pick-ups bach, eraill yn cael eu cerdded ond pob un yn cael ei dywys i'w le bach ei hun lle mae'n cael ei glymu rhwng dwy goeden.

Onid oedd y digwyddiad yna mor wahanol, mor eithriadol i'r patrwm cyson ac unffurf o ladd fesul un, nes i Wil Dafis fynd i dybied bron fod Ap wedi neilltuo rhyw sylw anffafriol iddo ef yn benodol?

Mae tri phrif ddiben i'r llyfryn hwn: un Bydd ei bum adran yn eich arwain fesul cam drwy'r holl broses o leoliad.

Dyna lle'r oeddem yn dwr o fechgyn eithaf dibrofiad mewn goruwchystafell, yn disgwyl ein tro i gael ein galw i wynebu'r Bwrdd fesul un.

Dechreuodd y bobol chwalu gan adael fesul un a dau, wedi diolch yn gynnes i'r tafarnwr am ei groeso.

Isod gwelir faint o arwyddion sydd wedi eu hardduno hyd yma, fesul rhanbarth.

Plygodd y doctor i godi'r offer, sefyll o'r tu ôl imi a dechrau cornio'r cefn fesul modfedd.

Oherwydd y lleidr, rydw i'n gorfod ei brynu fesul casgenaid bellach." ăI'r dim, fe dywalltwn ni win i mewn i'r bibell i weld beth ddigwyddith." Caewyd un pen i'r bibell a gwasgiwyd y gasgenaid gwin i mewn iddi.

Mae Geiriadur y Brifysgol yn cael ei gyhoeddi fesul cyfrol.

Dosberthir adnoddau fesul tymor.

Y gost oedd y bwgan yma eto, ond yn hytrach na gwario ar 'bowdwr mawr' o bryd i bryd i geisio'i symud yn ei grynswth, buasai wedi bod yn llawer mwy proffidiol i gael peiriant malu metling ('stone crusher') i lyncu'r gwenithfaen fesul tipyn, a'i werthu i wneud ffyrdd yn hytrach na'i fwrw dros y domen.

Gyrrwyd swyddog o'r fyddin yn ei gar swyddogol i fyny'r cymoedd fesul un, i hysbysu'r naill deulu ar ôl y llall fod rhaid iddynt ymadael â'u cartref, er mwyn i'r fyddin symud i mewn.

Aiff Trefor a'i dri mab gartref at eu mam, Nia, a'i hail ŵr, Dave: lleolir eu tŷ mewn rhes o dai ar fryn serth sy'n anelu am i lawr; mae Dave yn ddi-waith a dygir y fideo a'r soffa oddi arnynt fesul un.

Aent o gwmpas fesul dwy i berswadio dynion rhag mynychu tafarndai.

Ceir cadarnhad pellach o'r patrwm yma wrth ddadansoddi canrannau darllenwyr Cristion fesul grwpiau oedran unigol: Sylwer yma fod proffil darllenwyr Dan Haul yn gogwyddo tuag at oed iau.