Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fethu

fethu

Mae gan yr Arglwydd ei ffordd anrhydeddus ei hun ar gyfer Cristnogion sydd yn euog o fethu wrth iddynt geisio dilyn llwybrau cyfiawnder.

Gydag amseru mor berffaith, 'doedd dim perygl iddi fethu â chael y maen i'r wal.

A roedden nhw'n ffodus iawn yn y mundau ola wrth i George Demetradze o Kiev fethu gôl gyfan o chwe llath.

Brwydrodd y clwb o Gymru yn ddewr yn y gwres llethol ond fe dalon nhw'n ddrud am fethu dau gyfle yn yr hanner cyntaf.

Mewn soned arall, 'Y Rhufeiniaid' (Synfyfyrio), mae ef yn ceryddu'r gwŷr a adeiladodd yr Ymerodraeth Rufeinig, nid am fod yn ormweswyr creulon a diystyrllyd o hawliau pobloedd eraill, ond am fethu â sylweddoli na fyddai eu gweithiau hwy yn parhau yn dragwyddol.

Gall ildio i demtasiwn, a gall trwy ei ddallineb ei hun ddilyn llwybr anghywir, gan fethu a chanfod beth yw arweiniad Duw ar ei gyfer.

Tan hynny, yr oeddwn i wedi bod dan yr argraff fy mod ar fy ngholled o fethu ag agor y drws arbennig hwn yn fy nheledu.

.' (neu 'ffisig coch', 'ffisig gwyrdd' neu 'ffisig du', yn ôl y galw.) Un gaeaf pan oeddwn yn llanc, o fethu â chael gwared â pheswch go gyndyn, nid oedd dim amdani ond galw yn Llys Meddyg i ddweud fy nghwyn.

Un o'r rhesymau dros fethu bwrw brych yw prinder Magnesiwm yn y nerfau a reola gyhyrau'r llestr.

Yr oedd adwaith greddfol, naturiol pob un i gyfeiriad niwtraliaeth, beth bynnag oedd eu bam am iawnderau polisi%au'r gwahanol wledydd, er i nifer ohonynt fethu cadw eu niwtraliaeth heb ei threisio.

Mae Tim Henman allan o senglaur dynion ar ôl cael ei guro gan Mark Philipoussis yn y bedwaredd rownd - y tro cynta i Henman fethu cyrraedd yr wyth olaf ers pum mlynedd.

Yr oedd y wasg wedi dechrau brygawthan am 'rwyg' yn y Blaid, ac ateb y Gynhadledd oedd - unfrydedd tros bolisi cydnabyddedig y Blaid."' Nid oedd unfrydedd llwyr, a bod yn fanwl; ond mae'n debyg fod y rhai a oedd yn anghytuno â'r penderfyniad a basiwyd wedi cilio heb bleidleisio ar y cynnig, ar ôl i'r gwelliant a gynigiwyd ganddynt fethu.

Felly ni ddylem am funud roi'r argraff i neb ein bod y tu hwnt i fethu.

Ond bedair munud i mewn i'r ail hanner, dangosodd America eu gallu ymosodol - yr asgellwr Malakai Delai yn croesi'n y gornel ar ôl i Allan Bateman fethu tacl allweddol.

Ond gyda hanner munud yn weddill, bu oedi yn amddiffyn Wrecsam a sgoriodd Connor ei ail gôl a Wrecsam yn edifarhau am fethu'r holl gyfleon.

Mae'n wir i'r cynllun cyflawn fethu, ond bu'r bwnglera yn gyfrifol am greu rhai o'r problemau gwaethaf sy'n wynebu'r gymdeithas Gymraeg friwedig yn Llŷn y dyddiau yma.

Roedd trimins yn cael eu cnoi yn ddim a bu bron i'r Santa bach fethu a chyrraedd pen y goeden mewn un darn.

Roedd rhediad ucha'r bencampwriaeth o fewn ei gyrraedd cyn iddo fethu coch.

Er na ellir dweud, hwyrach, fod dylanwad uniongyrchol y clasuron yn amlwg iawn bob amser yn eu gwaith hwy, y mae yno yn ddiamau, ac ni all darllenydd sydd ei hunan yn gyfarwydd â'r clasuron fethu â sylwi arno.

Mae e wedi setlo lawr a mae wedi dangos ei ddoniau ar y cae pêl-droed gyda Wimbledon ar ôl y siom o fethu mynd i Rangers.

Parhau i fethu ennill eu gemau cartre mae Wrecsam.

Trueni i'r pwyllgor fethu a sylwi ar sylwadau helaeth yr ysgrifennydd cyffredinol yn yr adroddiad, llun dalen flaen o'r Wyl y dydd Mercher yn ei dilyn a thri tudalen o luniau a stori yn tynnu sylw at ei 'llwyddiant' yr wythnos wedyn.

Yr unig gyfeiriad a geir gan Tegla yn ei hunangofiant at Eisteddfod~Machynlleth yw iddo "fethu â mynd i'r Eisteddfod ond gwrandawn yn astud ar y radio%.

Scott Gibbs yn unig a lwyddodd yn erbyn y Springboks a hynny ar ôl i Joost van der Westhuizen fethu tacl.

'Beth ydyn nhw?' holodd Bleddyn gan fethu â chuddio'i chwilfrydedd.

Mwy o duchan, 'roedd hanner awr wedi wyth yn agosa/ u, a nhad yn siarad rhwng ei ddannedd, wrth fethu'n glir â chael hyd i'r crys.

Dywedodd wrthyf iddo geisio droeon lunio cymhares i'r llinell i wneud cwpled, ond iddo fethu.

heb amheuaeth, cafodd pêl-droed yng nghymru ergyd greulon a'r unig achos llawenydd oedd yr un cwbl negyddol i loegr hefyd fethu a chael mynediad i'r america hefyd.

Yr oedd Steve Watkin yn anlwcus dros ben i fethu cipio wiced Ryan Driver yn ystod batiad yr ymwelwyr.

Protestiodd Syr John Wynn mai ei brif uchelgais fel Swyddog lleol oedd cadw trefn a llywodraethu'n gytbwys a theg yn ei sir er iddo fethu â chyflawni hynny bob amser.

Wedi i'r ddihangfa a wnaeth o sylweddau ei fore oes fethu--nid ffansi%au iddo ef--un peth a allai ei wneud a fuasai'n sicr o'i alluogi i wynebu'r byd yn ei gysgod--gwneud arian.

Y Gainc Osod Bod prawf teg i'w gymeradwyo ar bob cainc a arferir heddiw i bwrpas Cerdd Dant, ac yn unol â'r diffiniad traddodiadol ohoni "ei bod yn cynnwys ffigur a rhedfa% a neilltuolion eraill - bydd iddi ddal y prawf hwnnw, neu fethu.

Methu fforddio ffelt-pen neu fethu meddwl am ddim byd newydd i'w ddweud?

A does yr un ymdrech yn sicrach o fethu na'r ymdrech i adennill gogoniant a dylanwad y gorffennol.

Mae hyn yn rhywbeth y dylai Mr Kinnock wybod yn iawn amdano ac yntau a chymaint o brofiad o fethu mewn etholiadau.

Awgrymodd yr erlynydd ei bod wedi cyflwyno tystiolaeth gelwyddog gerbron y rheithgor oherwydd iddi fethu cael arian gan yr hen ŵr.

Ochr yn ochr â hyn roedd tuedd i gollfarnu'r dosbarth cyfalafol am fethu yn eu dyletswydd at y miloedd o bobl a oedd wedi eu crynhoi at ei gilydd, yn ôl eu gorchymyn, i leoedd afiach.

Roedd y system yn trefnu i grynswth disgyblion yr ysgolion fethu â dysgu iaith dramor!

Cafodd lan druan gêm ofnadwy yn Iwerddon ac fe gofiaf yn iawn weld y capten Yorath yn sgrechian arno am fethu gwneud rhywbeth yn iawn.

Tecwyn Lloyd, wrth gwrs, yw ein dadansoddwr gorau o storiau Tegla er iddo fethu wrth gloriannu Gwr Pen y Br~n pan ddaeth allan gyntaf.

Cafwyd diweddglo hynod gyffrous ar faes Thomas Lord wrth i Forgannwg fethu sgorior un rhediad oedd ei hangen oddi ar y belen olaf i ennill ei gêm yn erbyn Middlesex.

Am fethu â chael cadair gyfforddus i chi.

Roedd yn ddigon i ail-gychwyn yr holl siarad am Mlke England ond fe ddigwyddodd un peth ar y daith honno wnaeth i mi, a Terry Yorath yn arbennig, synhwyro gwendid mor gynnar â hynny yn ei deyrnasiad Achos y qfan oedd i'r chwaraewyr Mickey Thomas fethu troi i fyny yn y maes awyr I hedfan allan gyda'r tîm.

Er i ti fethu, fe elli daflu'r dis hyd nes y llwyddi i'w ddal, ond am bob tafliad aflwyddiannus rhaid i ti dynnu un Radd Nerth i ffwrdd.

Daeth i mewn â llygredigaeth a meidroldeb i amgylchedd dyn; ond golygai hefyd i'r union offeryn a allai arwain y cyfanfyd i gyrraedd ei gyflawnder a gwireddu ei botensial dwyfol, i'r offeryn hwnnw, dyn, fradychu ymddiriedaeth Duw gan fethu â chyflawni ei wasanaeth offeiriadol ar ran y byd.

Fe anghofir yn rhy aml, 'rwy'n credu, fod hunanfeirniadaeth yn rhan o'r gwaith creadigol, a bod un sy'n analluog i wneud hyn yn drwyadl ac yn uniongyrchol yn sicr o fethu fel llenor, ac yn fwy felly fel bardd.

'Ddaru Arsenal fethu sawl cyfle.

Gan fod Yr Ymofynnydd hefyd yn cyflawni swyddogaeth cylchgrawn hanes y mudiad, byddai bywgraffiad ambell arwr, fel Thomas Emlyn Thomas o Gribyn a Gwilym Marles, Llwyn, yn cael llenwi'r misolyn ac ni allai neb a ddarllenodd y rhain fethu â dilyn y thema ganolog a theimlo'r ergydion sylfaenol.

Mynnai un ohonynt chwilio am nodwyddau hypodermig a chwistrellwyr ym mhob man, ac wedi iddo fethu'n lan a'u cael holodd tybed a fyddent ar werth yn y siop di-dreth yn y maes awyr?