Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fewnol

fewnol

Deng niwrnod i'r dydd fe deimlais anesmwythyd yn ochr dde fy nghefn, a'r noson honno fe'm dihunwyd yn sydyn gan frathiad o boen yn ochr fewnol fy morddwyd.

Y mae stôr o wybodaeth gan bob siaradwr, sy'n ei alluogi i gynhyrchu a deall nifer annherfynol o olyniadau newydd yn ei iaith, ac â'r wybodaeth fewnol honno'n bennaf (competence yw term Chomsky) nid â'r sylwedd a gynhyrchir gan y siaradwr (performance yw gair Chomsky) y mae a wnelo gramadeg.

Roedd y gwely pren isel wedi ei osod yn erbyn y wal fewnol ac roedd gwrthban brown golau yn symud i fyny ac i lawr wrth i'r hen ŵr anadlu'n llafurus odano.

Wedi ei chorffori yn Lloegr llywodraethwyd Cymru gan y Llywodraeth Seisnig fel trefedigaeth fewnol.

Beth yw perthynas fewnol y gyfundrefn hon?

Trefedigaeth fewnol oedd hi o hyd, fel y dangosodd achos Tryweryn mor glir.

Os penderfynir mai'r Gymraeg yw prif iaith gweinyddiaeth fewnol adran o'r cyngor, fe ddilyn yn naturiol fod yn rhaid wrth swyddogion Cymraeg a hynny er mwyn effeithlonrwydd gweinyddol.

Sylweddolwn y gall newidiadau mewn trefniadaeth fewnol olygu ailddiffinio swyddogaeth ein swyddogion cyflogedig.

Mae'r Cynigion hyn yn ymwneud â: · Gweinyddiaeth fewnol Cyrff yng Nghymru · Y Gymraeg yn y Cynulliad Cenedlaethol · Y Cyfryngau a iaith y Cyfryngau yng Nghymru · Gwasanaeth Suful Cenedlaethol i Gymru · Papur Dyddiol Cymraeg · Addysg Bellach yng Nghymru · Tai a Chynllunio yng Nghymru · Cymreigio Cyfrifiaduron Nid cynigion yn unig fydd yn cael eu trafod yn y Cyfarfod Cyffredinol.

Mae'r Cyfarfod Cyffredinol yn cyfarwyddo pob Rhanbarth perthnasol i ymgyrchu dros newid iaith gweinyddiaeth fewnol yn ein hardaloedd - fel y byddwn yn symud ymlaen at sefyllfa lle bu llywodraeth leol yn yr ardaloedd Cymraeg yn cael ei weinyddi trwy gyfrwng y Gymraeg.

Galwn felly am fabwysiadu strategaeth gynyddol i wneud y Gymraeg yn brif iaith gweinyddiaeth fewnol y Cyngor Sir - gan ddechrau yn syth yn yr Adran Addysg, ac yn ymledu dros gyfnod rhesymol i Adrannau fel Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyfathrebu, Cynllunio nes cwmpasu pob adran gan gynnwys Swyddfa'r Prif Weithredwr ei hun.

Y widdon wen ydyw'r lloer-fam, sy'n llewyrchu yn y nos; hi ydyw'r fam fewnblyg, ddiwylliadol, a'i merch, Olwen - y lloer-ferch - fel ymwybyddiaeth fewnol.

Mae'r esboniad yma gan Layard yn un manwl, gofalus ac yn fewnol gyson.

Mewn gair, gyda'r gyfundrefn o gyfnewid amrywiol, nid oedd rhaid wrth yr un elfen o ddisgyblaeth fewnol ar wariant, buddsoddiant, prisiau a chyflogau.

O fewn y cyllid a glustnodir, yr Uned fydd yn gyfrifol am y gwariant, am unrhyw gytundebau â chyhoeddwyr masnachol, ac am y dewis rhwng cyhoeddi yn fewnol neu'n allanol.

Dros gyfnod o bedair canrif, un tro ar ôl y llall, roedd Lithuania wedi bod yn Fabylon iddi ei hun - dyma bobl y gaethglud fewnol .

Ond mater arall yw mentro i Dyffryn Ogwen ym mis Tachwedd bryd hynny, rydych angen gwres canolog effeithiol a thrwch o ddeunydd insiwleiddio o'ch cwmpas rhwng y gragen fewnol a'r gragen allanol.

Mi gyfrannwyd yn helaeth ganddi yn ei chymdogaeth gyda Dilwyn, mi sefydlwyd y 'Clwb Strôc' ym Maesteg, roedd hi'n weithgar gyda Ffrindiau'r Ysbyty, yn aelod o'r Olwyn Fewnol, ac yn un o'r rheini oedd yn gofalu am yr anghenus a thlawd bob Nadolig o dan nawdd y Cyngor Eglwysi.

A rhoi eu henwau priodol iddynt - treuliant personol, buddsoddiant diwydiannol, gwariant y llywodraeth (dyna'r drindod fewnol), ac yn olaf y sector allanol.

Mae ymylon mantell yn arbennig nid yn unig am fod ganddynt nifer o dentaclau hir ond hefyd am fod llabed fewnol ymyl y fantell yn helaeth iawn.

Tanlinellodd boddi Tryweryn y gwir am safle cyfansoddiadol presennol Cymru, sef mai rhanbarth yn Lloegr yw hi sy'n drefedigaeth fewnol.

Thema ganolog: Adwaith ac Ad-drefnu: y Rhyfel Mawr a'r adwaith iddo yng Nghymru; a'r modd y bu'n rhaid i Gymru aildrefnu yn fewnol ar ôl cael ei sugno i mewn i gyflafan y pwerau mawrion; y modd y dechreuwyd amau a chwalu'r hen safonau a fodolai cyn y Rhyfel, a'r Eisteddfod, yn arbennig, yn wynebu cyfnod o argyfwng gyda rhai yn proffwydo ei thranc.

Cre%wyd marchnad fewnol artiffisial i'r cynnyrch Ewropeaidd.

Yn gyffredinol rhaid cael y wybodaeth fewnol hon er mwyn amlygu unrhyw fodolaeth mewn gwrthrych neu broses faterol.

Rhaid fydd newid ffurf y glust, addasu organau arogli a newid y ffisioleg fewnol i wynebu gofynion gwahanol.

Gwynedd, wrth gwrs, yw'r corff llywodraethol mwyaf drwy'r wladwriaeth i gyd sy'n gweithredu'n fewnol mewn iaith ar wahân i Saesneg.