Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffactor

ffactor

Dim syniad pwy yw'r ddau ffactor newydd.

Os nad oes, mae o leiaf dwy ffactor y gellir eu hystyried:- (a) Mae'r hyn a wnaeth, wedi ei wneud pan oedd yn blentyn y byd hwn, yn ddieithryn i wladwriaeth Israel Duw, ac o dan lywodraeth tywysog llywodraeth yr awyr.

Cyrhaeddodd y ffactor dyngedfennol yn nhemtiad yr anialwch, lle y bu i'w ufudd-dod ddadwneud anufudd-dod Adda.

Defnydd gofalus o ofod gwyn ar y ddalen yw'r ffactor bwysicaf mewn gosod.

Rhaid defnyddio eli haul ffactor uchel, gwisgo het a dillad cotwm llac.

Mae'r Grwp yn ymwybodol o'r materion hyn, gan ystyried defnydd ynni fel ffactor perthnasol wrth Reoli Datblygu.

'Mae'r ffaith nad yw Caerdydd wedi llwyddo i fynd ymhellach na'r wyth ola yn ffactor bwysig achos mae Peter Thomas a chlwb Caerdydd yn moyn i Gaerdydd wneud yn dda ac ennill Cwpan Ewrop.

'Y ffactor mawr arall oedd gwneud yn siwr bod y manylion ariannol yn eu lle.

Jones yn ei ysgrif ar 'Y Syniad o Genedl', lle y cais ddiffinio'r "ffactor ychwanegol a dry Bobl yn genedl".

Bydd amseriad y gwaith ei hyn yn dibynnu ar sawl ffactor -cwblhau yr angenhenion statudol, prynu tir ac ar yr arian fydd ar gael ar gyfer y gwaith.

Gweithiai dwy ffactor eisoes fel lefain yn y blawd i newid y ddarpariaeth annigonol hon.

Mae mamiaith y disgybl yn ffactor sy'n cymhlethu'r broses o symud o'r cynradd i'r uwchradd.

Fodd bynnag, mae'n hanfodol bod sector y amaethyddol yn parhau yn gadarn a llewyrchus, nid yn unig fel un'r prif ffynonellau incwm, ond hefyd fel ffactor i gynnal y boblogaeth wledig gynhennid, cadwraeth y tirwedd ac i sicrhau parhad hunaniaeth diwylliannol a ieithyddol ardal y Parc.

Mae cwmni Go wedi agor desg ym maes awyr Bryste – dyma ffactor sy'n siwr o ddenu nifer yno gan gynnwys Cymry o'r de a'r gororau – mae Bryste yn elwa tra bo Caerdydd yn colli.

Digwyddai hyn fel arfer pan geid cyfuniad o dair ffactor: cyni economaidd siom y dosbarth swyddogol yn eu disgwyliad am ffafrau o law eu harglwyddi, a rhyw ddrysu neu lacio ar y cwlwm gwrogaeth rhwng yr arglwydd a'i wŷr.

Fe gofnodir y dystiolaeth am gyraeddiadau'r myfyrwyr yn y dogfennau Cofnodi Cyrhaeddiad Presenoldeb a Phrydlondeb Y mae ymchwil wedi dangos fod agwedd broffesiynol ar ran y staff, gan gynnwys prydlondeb yn ffactor bwysig yn llwyddiant ac effeithlonrwydd ysgol.

Ym maes gynaecoleg deallaf fod y tebygrwydd y bydd gwraig yn cael hysterectomi rywbryd yn ystod ei hoes yn dibynnu mwy ar incwm ei gŵr nag ar unrhyw ffactor amlwg arall.

Eto, nid dyna'r unig ffactor ar waith ym myd addysg ar ddechreuad ein cyfnod.

Mae sawl ffactor yn achosi hyn megis natur ieithyddol y gymuned, polisi iaith yr AALl a hyfedredd yr athrawon yn yr iaith.

Ynys Môn yn ffactor.

Mae marwnadau i arglwyddi ymhlith y cerddi cynharaf yn y Gymraeg, ac mae'n amlwg fod cryfder y traddodiad hwnnw'n ffactor bwysig yma.

Dyma Richard Prise eto, yn egluro paham yr aeth ati i gyhoeddi'r Historia Brytannicae Defensio o waith ei dad, (a De Mona Llwyd ynghyd ag ef): 'Yr oedd llawer ffactor yn wir a'm darbwyllai na ddylwn esgeuluso cyhoeddi'r llyfr.

Yn ychwanegol at hynny, gan ddefnyddio'r meini prawf gwerthuso perthnasol a nodir yn y Fframwaith, dylid barnu rheolaeth pob un o'r pum ffactor a ganlyn ac i ba raddau y mae rheolaeth briodol yn galluogi pob ffactor i gyfrannu at safonau ac ansawdd:

Gan mai natur yr unigolyn a benodir i gyflawni project yw'r prif ffactor mewn llwyddiant y math yma o broject, y mae angen cytuno ar ganllawiau ar gyfer penodi'r personau mwyaf cymwys er sicrhau cysondeb a disgwyliadau cyffredinol ymysg y canolfannau.

Efallai bod mwy nag un ffactor yn gweithredu; yr hyn sy'n bwysig ydyw ceisio cael darlun llawn o'r sefyllfa, ac yna dod o hyd i'r rhesymau am y cyfnewidiadau.

Gellir dweud fod sawl ffactor yn gyfrifol am y dirywiad hwn.