Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffair

ffair

'Roedd pryddestau gan Dafydd Jones, Ffair-rhos, Gwilym Morris.

Onibai i Wil Twmpath gael ei hudo i Wlad N'Og ar ei ffordd o ffair sglodion Capel Tarsis gyda llathen o wynwyn dros ei ysgwydd - bargen o stondin gynnyrch Mrs Harris y Gweinidog - mae'n amheus a fyddai pethau wedi digwydd fel y gwnaethont.

Crwydro o gwmpas y ffair, felly, a wnai ef, arogli'r sŵn, a lled gyfarfod a hwn a'r llall, heb dorri'r un gair a neb yn iawn, megis mewn sioe amaethyddol.

Rhannai Thomas Jones ei amser rhwng ei dyddyn yn ardal Ffair Rhos a'r pwll glo yn y 'Sowth' lle y treuliau gyfran o'r flwyddyn.

Yn ddigon tebyg i'w dad a'i deidiau gynt, dim ond mai cyngerdd neu seiat neu ffair oedd cefndir eu dychymyg hwy cyn i'r 'hogan' fynd yn 'slasan'.

Son y mae hi, ynte am ryw wraig yn edrych ar bictiwr a brynnodd 'i gŵr yn y ffair.

Cerddi eraill: Dafydd Jones, Ffair Rhos, Prifardd coronog 1966, oedd yr ail, a Tom Parry-Jones oedd y trydydd.

Aeth trigolion y pentrefi gwasgaredig a'r ffermydd pellennig i lawr i'r dref i drwst y ffair.

Ymysgydwodd Wil Dafis yn rhydd a brysio allan nerth ei sodlau yn ol i'r ffair.

'Roedd hi'n ddiwrnod ffair a'r sgwâr yn llawn o bobl a cheffylau.

Syniad da, yn ddiau, ydoedd y syniad o gynnal Eisteddfod yn Chicago yn ystod ffair y byd: ac yn ôl yr argoelion, bydd y syniad yn sicr o gael ei weithio allan yn llwyddiannus.

Roedd y tywydd yn eithaf ffafriol a hud y ffair a'r candi fflos mor gryf ag erioed.

Roedd y straeon hyn, a'u tebyg, yn rhan o len gwerin ardaloedd Ffair Rhos ac Ysbyty Ystwyth.

Aeth i ffair Fawrth y Cerrig, lle roedd show fawr, a'r showman ar lwyfan o'i blaen yn traethu am y rhyfeddodau oedd i mewn, mewn rhaff o Saesneg mor rhugl â Phistyll Sibyl.

Yr oedd Ffair Llanwyddalus 'Ffair Dalis Fawr' yn enwog o'r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen.

Diaist, roeddwn yn meddwl fod well i mi gael y resipi ganddynt: buaswn yn gwneud ffortiwn ar faes Caernarfon ac yn Ffair y Borth.

Wedi'r cyfan mae'n well mynd i ffair wagedd na pheidio cael ffair o gwbl.

Deuthum adref yn fy ôl ac euthum i ffair Llanbedr i ddanfon dau fustach dros un o gigyddion Llanrwst, a meddwais yno yn gynnar ar y diwrnod.

Cyneuwyd y tân hwnnw yn ei fynwes wedi iddo wylio anterliwt, un ddigon amrwd, tu allan i dafarn Penlan Fawr ym Mhwllheli, un ffair Gwyl Grog.

Euthum ymlaen i ffair Abergele, a throais i werthu Almanac i dy tafarn Ue yr ydoedd amryw yn yfed wrth y tân.

Dafydd Jones, Ffair Rhos, Prifardd coronog 1966, oedd yr ail, a Tom Parry-Jones oedd y trydydd.

Nid maestref oedd Penrhosgarnedd ei ieuenctid, ond cymuned wledig, amaethyddol gan fwyaf, a'i bywyd yn troi o gwmpas gwaith y tymor, addoldy, ffair, a phlas Y Faenol.

Roedd o a Bedwyr yn sefyll yng nghanol ffair enfawr yn rhywle, a miloedd o bobl o'u cwmpas ym mhobman.

Cyn dyfodiad y peiriannau sydd â rhan mor amlwg heddiw yng ngweithgarwch y ffarm, ymweliad brysiog yn unig a wneid â'r ffair a gynhelid yn fisol.

"Mae fel ffair yma bois!" meddai Dafydd, wrth chwilio am le i eistedd i gael ei frecwast.

Cofiodd am y tro hwnnw yr aeth hi ar goll yn Ffair y Borth.

Nid oeddem ni, y plant, i fynychu na dawns, na sinema, na siop chips, na ffair, na syrcas, na thafarn yn y Cei.

Ond yr oedd fy myd i'n troi fel pe bawn mewn roced ffair, a phrofiadau'n stribedu trwy f'ymennydd fel moch wedi rhusio ar draws ei gilydd: 'O!

'Mewn ffair ydan ni!' atebodd Geraint yn hwyliog.

'Dal ar y cyfla ro'n i, Pyrs, i ga'l gair bach efo fy Nhad nefol.' 'A finna'n fa'ma, â chymaint o bwn gin i â bastard mul Nant Pwdin ar noson ffair.' 'Rydan ni yn ca'l ein hannog yn y Beibl i weddi%o'n ddi-baid.' 'Ydach, mi wn.

Ond byth er hynny yr oedd wedi llwyddo i gadw cyffro'r ffair o'i chylch yn y beudy.

Dilynodd rhaglen radio griw o Wyddelod cefnog i ffair tai haf yn Sbaen achos nid ar y Saeson a'r Almaenwyr y mae golwg marchnatwyr tai Sbaen bellach ond at wlad Sean, Michael a Paddy.

Rhaid, hyd y gellid, oedd rhoi pâr o bedolau newydd i geffyl neu gaseg cyn eu dangos mewn ffair.

Prynasid hi yn y ffair am na allasai ei phrynwr wrthsefyll apêl ei phen main gyda'r trwyn cau, a'i chroen tenau llac, a'i phwrs llydan cymesur.

Tra bod Ffair Gaeaf a Stori%au'r Tir Glas yn gosod eu cymeriadau'n solet iawn o fewn cymdeithas hawdd ei hadnabod a sicr ei seiliau, ac yn rhoi mwy o bwyslais yn y pen draw ar y gymdeithas nag ar yr unigolyn oedd yn rhan ohoni, erbyn cyrraedd Yr Wylan Deg a Stori%au'r Tir Du, mae pethau wedi newid yn arw.

PROFIADAU FFAIR GAEAF gan DEREC LLWYD MORGAN

Rhywsut fe deimlech yn euog o feiau'r byd, mai chwi oedd achosydd holl ruo a brefu a rhegi'r ffair.

Ein gwrthrych yw Pamela Morgan, un o blant Bedyddwraig dduwiol a hanai o deulu Hugh Evans, Ffair-rhos, gwraig a ddysgai y Beibl yn gyson i'w phlant.

Gadwch i mi drio cofio." Archwiliai ei llygaid fi o'm corun i'w sawdl, fel ffermwr mewn ffair yn pwyso a mesur priodoleddau caseg yr oedd a'i lygaid arni; a minnau'n falch fy mod wedi gwisgo fy siwt newydd, ac yn edrych yn weddol drwsiadus.

Daeth Sir Aberteifi, yn arbennig yr ardaloedd o amgylch Tregaron, yn enwog am fagu ceffylau o bob math, a manteisiodd y ffermwyr ar y cyfle i'w gwerthu yn y gwahanol ffeiriau, fel Ffair Garon a Ffair Dalis Llanbed.

Y pwynt yr wyf i'n ceisio'i wneud yw hwn, sef fod Kate Roberts yn Ffair Gaeaf a Stori%au Eraill, fel yn ei llyfrau eraill i gyd (bron), yn llenor dychmygus sy'n cadw'n o glo/ s at amgylchiadau bywyd ac at amodau bywyd ei dewis gyfnodau a'i dewis lefydd fel yr oeddynt mewn gwirionedd.

Yno, roedd olwyn fawr a fu unwaith yn olwyn ffair.