Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffantasiol

ffantasiol

Nid dyma'r math o sgrifennu yr oeddem wedi arfer ag ef gyda'i gymeriadau afreal a'i sefyllfaoedd ffantasiol.

Iawn, mae'n hollol amlwg ers tro byd bod Dafydd Êl wedi hen flino ar 'frwydr yr iaith'. Brwydrau pobl eraill ar draws y byd dros ryddid a chyfiawnder -- dim problem; rhaid yn wir iddo ddangos cefnogaeth (darllener ei genadaethau eangfrydig a thrawswladol yn ei golofn wythnosol yn yr Herald Gymraeg). Ond, jyst am fod Dafydd Êl wedi penderfynu ei fod am optio allan o'r broses drafferthus honno o greu trefn newydd yng Nghymru a 'hyrwyddo' chwyldro yn hytrach na bocsys te dwyieithog, yna does bosib bod disgwyl i'r gweddill ohonom lyncu gweledigaethau ffantasïol a thra cyfnewidiol y cyn-gefnogwr streiciau dros hawliau gweithwyr a chym-unedau a symudiadau ymgyrchol/protestgar cyffelyb.