Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffasgaeth

ffasgaeth

Roedd yn fuddugoliaeth mewn llawer ystyr, roedd fel pe bai mwy na bygythiad Ffasgaeth wedi'i ddileu, oherwydd fe gyneuwyd gobaith newydd drwy'r byd yn gyfan gwbl, gobaith y gellid dechrau adeiladu'r byd newydd hwnnw y bu cymaint o aros amdano.

Roedd fel petai'r rhai a arbenigai yng nghelfyddyd ymladd a lladd, wedi bod yn rhy brysur yn hela'r llwynog, a sicrhau bod eu lle breintiedig o fewn y gymdeithas yn ddiogel, i fedru rhoi amser i ddysgu unrhyw wers ers dyddiau'r rhyfel byd arall hwnnw Roedd y wlad ar ei thin - yn llythrennol felly, ac oni bai am ddewrder dall y rhai a gredai fod Ffasgaeth yn waeth na chaethwasiaeth, ac ysfa bwli o ddyn a dynnai wrth ei sigâr ac yfed ei hun i anymwybyddiaeth, am ymladd a rhyfel, mi fyddai pob dim wedi mynd i'r gwellt.

Roedd Pridd a Gwaed, drama radio gyntaf Siôn Eirian ers sawl blwyddyn, yn gynhyrchiad radio llawn diddordeb yn canolbwyntio ar griw o Gymry a ymunodd â'r Frigâd Ryngwladol i frwydro yn erbyn ffasgaeth yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen.

Buasai llawer yn dweud, a minnau'n eu plith, fod y gwerinwyr sosialaidd a chomiwnyddol a aeth i Sbaen i ymladd yn erbyn Ffasgaeth yn well Ewropeaid, ac yn well Cymry, hefyd, ar y pryd, nag aweinwyr bwrgeisaidd y Blaid Genedlaethol.

Roedd Pridd a Gwaed, drama radio gyntaf Siôn Eirian ers sawl blwyddyn, yn gynhyrchiad radio llawn diddordeb yn canolbwyntio ar griw o Gymry a ymunodd âr Frigâd Ryngwladol i frwydro yn erbyn ffasgaeth yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen.